Ein Dull

Rydym yn ymrwymedig i:

  • nodi un neu ddau faes o weithgarwch y sector cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn a fyddai'n elwa fwyaf ar gyfraniad arfer da arwyddocaol;
  • cynnal gwaith ymchwil byd eang o safon uchel ar arfer da yn y maes hwn a'i gyflwyno mewn fformat hawdd ei ddefnyddio; 
  • hyrwyddo'r broses o drosglwyddo a gweithredu arfer da gyda chyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Gweithrediad wedi ei hwyluso - fel rhan o'n dynesiad i gynorthwyo gweithrediad arfer da yn rhagweithiol, rydym yn mabwysiadu dau ddynesiad eang:

  • Cymorth uniongyrchol - staff Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyrff sector cyhoeddus i'w helpu i ddeall cyfleoedd arfer da sydd ar gael iddynt. Rydym wedi rhannu'r dynesiad hwn, er enghraifft, wrth reoli absenoldebau oherwydd salwch mewn gwasanaethau Tân ac Achub a llywodraeth leol.
  • Seminarau Dysgu a Rennir. Rydym yn uno ystod o gyrff sector cyhoeddus i rannu eu profiadau ymarferol a dysgu. Bu'r rownd gyntaf o seminarau yn Hydref 2007 yn gyfle i drafod atebion i rai o'r rhwystau a nodwyd, ac annog rhannu gwybodaeth a phrofiad ar draws gwahanol sectorau cyhoeddus.

Gweler Hefyd: Seminarau Dysgu a Rennir