Arloesedd

Yn aml, gwelir arloesedd fel ysgogydd masnachol mewn cyd-destun gweithgynhyrchu neu ymchwil a datblygu. Fodd bynnag, mae arloesedd hefyd yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus. Bydd rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio arloesedd wrth iddynt geisio cysoni'r cynnydd mewn galw, adnoddau sy'n lleihau ac ysgogiad i gynnal neu wella ansawdd gwasanaethau. 

Mae sawl diffiniad o arloesedd. Natur sylfaenol arloesedd yw cyflwyno rhywbeth newydd, boed yn gynnyrch (mewn cyd-destun gweithgynhyrchu) neu ffyrdd newydd o gynhyrchu neu ddarparu gwasanaeth. 

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw arloesi o reidrwydd yn golygu meddwl am syniadau newydd sbon neu newidiadau mawr. Ceir llawer o enghreifftiau llwyddiannus o arloesi sy'n cyfuno dau syniad sydd eisoes yn bodoli i greu gwerth neu i ddarparu gwasanaeth mewn ffordd newydd ac arloesol. A hefyd gall llawer o enghreifftiau o arloesedd gael eu hysbrydoli gan elfennau ac egwyddorion arfer o rywle arall sydd wedi'u haddasu i fodloni amgylchiadau lleol.

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi rhagor o wybodaeth am reoli arloesedd yn effeithiol.