Llywodraethu

Mae prosesau gwneud penderfyniadau da, a llywodraethu da felly, yn rhannu nifer o nodweddion. Mae’r Safon Llywodraethu Da ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi'r chwe egwyddor craidd a ddylai fod yn sail y trefniadau llywodraethu pob cyrff:

  • Diffiniad clir o ddiben y corff a'r canlyniadau a ddymunir;
  • Swyddogaethau a chyfrifoldebau wedi'u diffinio'n dda;
  • Diwylliant corfforaethol priodol;
  • Gwneud penderfyniadau tryloyw;
  • Tîm llywodraethu cryf; ac
  • Atebolrwydd gwirioneddol i randdeiliaid.

Mae'r wybodaeth a leolir yn yr adran hon o arfer da yn anelu i ddarparu adnoddau defnyddiol i gefnogi datblygu a gweithredu trefniadau llywodraethu da.