Chwythu'r chwiban

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cael ei ystyried yn berson penodedig. Mae hwn yn golygu gall gweithiwr godi pryder am gamwedd yn y gweithle i’r Archwilydd Cyffredinol, yn ogystal â, neu yn lle, ei gyflogwr.

Ar yr amod fod pryderon a godwyd yn ymwneud ag un neu mwy o’r materion canlynol, gall weithiwr elwa o amddiffyniad rhag niwed gan ei gyflogwr:

  • cynnal busnes cyhoeddus yn briodol; neu

  • gwerth am arian, twyll a llygredd mewn cysylltiad â darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn adolygu'r holl ddatgeliadau a geir, ond nid yw'n ofynnol iddynt gynnal ymchwiliad i'r rhain.

Darganfyddwch mwy a chewch ragor o wybodaeth a chyngor ar chwythu'r chwiban yn ein taflen: Ydych chi’n pryderu am gamweddau neu gamymarfer yn y gweithle? [agorir mewn ffenestr newydd] 

I wneud datgeliad i'r Archwilydd Cyffredinol o dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, cysylltwch â ni drwy:

E-bost: chwythu.chwiban@archwilio.cymru

Rhif ffôn: 029 20 320 522

Drwy'r post: Swyddog Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd
Archwilio Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.