Fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae gan Adrian Crompton y swydd o roi sicrwydd ar ymagwedd y sector cyhoeddus yng Nghymru o ran rheoli goblygiadau Brexit ‘heb gytundeb’.
O gofio bod 29 Mawrth yn mynd yn fwyfwy agos a bod y cyfle ar gyfer gweithredu yn lleihau, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi ei safbwyntiau cynnar ar y dystiolaeth a gasglwyd, ynghyd â rhai negeseuon allweddol i gyrff cyhoeddus, i’w helpu gyda’u gwaith cynllunio yn yr wythnosau a misoedd sydd i’w dod.