Mynediad i gyfrifon cyngor

Mae ein canllawiau yn esbonio:
  • eich hawl i gael mynediad i gyfrifon eich cyngor neu gorff llywodraeth leol arall
  • eich hawl i gwestiynu'r Archwilydd Cyffredinol neu archwilwyr penodedig am gyfrifon y corff, ac
  • eich hawl i wrthwynebu eitemau penodol yn y cyfrifon.
Nodwch: os ydych yn dymuno gwneud cwyn am eich cyngor lleol, dylech ddilyn eu trefn gwyno yn y lle cyntaf.
Gall unrhyw ymholiadau am gael mynediad i gyfrifon cyngor gael eu hanfon atom drwy'r canlynol:
Rhif ffôn: 029 2032 0500
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.