Awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd da o ran gweithredu dyletswyddau digartrefedd newydd

8 Ion 2018 - 2:56yp

Fodd bynnag, mae angen canolbwyntio mwy ar fynd i'r afael â'r achosion wrth wraidd digartrefedd

Mae'r adroddiad diweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi edrych ar sut y mae Awdurdodau Lleol yn gweithredu eu dyletswyddau newydd ac y rheoli gofynion digartrefedd wrth weithio a chydweithredu â phartneriaid.

Er mwyn mynd i'r afael â'r nifer cynyddol o bobl ddigartref, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Ddeddf Tai (2014), sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a'u partneriaid ganolbwyntio'n benodol ar ataliaeth. Mae ein hadroddiad wedi canfod bod atal digartrefedd yn parhau i fod yn heriol i sawl awdurdod, a hynny er gwaetha'r ddeddfwrieath newydd a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau newydd.

Mae llawer o'r hyn sy'n achosi digartrefedd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a dylanwadir arno gan benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â budd-daliadau lles. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn brwydro i atal digartrefedd. Mae nifer y bobl y mae'r awdurdodau lleol a'u partneriaid yn llwyddo i atal rhag mynd yn ddigartref yn dechrau disgyn, ac mae nifer y bobl sydd mewn llety dros dro yn cynyddu.

Er mwyn atal digartrefedd rhag digwydd, mae angen i'r awdurdodau lleol a'u partneriaid weithio mewn modd gwahanol. Fodd bynnag, nid yw’r newidiadau y mae eu hangen i leihau llawer o'r galw am wasanaethau ac atal digartrefedd ar waith bob tro. Mae angen i'r awdurdodau arfogi eu staff â sgiliau newydd a ffyrdd gwahanol o weithio, ond nid yw pob awdurdod lleol wedi ymateb mewn modd effeithiol. Er gwaethaf y cyllid ychwanegol, nid yw rhai awdurdodau wedi adolygu eu gwasanaethau i atal digartrefedd, ac mae'r bobl yng Nghymru yn cael help gwahanol iawn, gan ddibynnu ar le y maent yn byw.

Mae angen gwneud rhagor i leihau'r galw cyffredinol am wasanaethau trwy deilwra gwasanaethu i ddelio â phobl yn gynharach o lawer, yn enwedig o ran addysg, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill.

Heddiw, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: “Mae fy adroddiad heddiw yn amlygu'r ffaith bod Awdurdodau Lleol yn parhau i ganolbwyntio ar reoli pobl mewn argyfwng yn hytrach na'u hatal rhag mynd i argyfwng yn y lle cyntaf, a hynny er gwaethaf bwriadau cadarnhaol Lywodraeth Cymru i atal digartrefedd. Er mwyn atal digartrefedd mewn gwirionedd, mae angen i gyrff cyhoeddus feddu ar safbwynt hirdymor, a gweithio gyda sefydliadau eraill i fynd i'r afael yn wirioneddol â'r materion sy'n achosi digartrefedd. Mae hyn yn gofyn am ffocws ar, er enghraifft, well cyrhaeddiad addysgol, mynediad at gyflogaeth, cyfnod pontio sydd wedi'i gynllunio'n dda wrth adael gofal, a mynediad at fudd-daliadau lles”.