Mae’n rhaid i gamau gweithredu gyfateb â brwdfrydedd os yw uchelgais llesiant cenedlaethau’r dyfodol i gael ei wireddu yng nghymru

10 Mai 2018 - 12:30yb

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adolygiad blwyddyn gyntaf o sut y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd

Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cymryd camau i newid y ffordd y maent yn gweithio mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 [agorir mewn ffenest newydd] ac mae llawer yn siarad amdani â brwdfrydedd a gobaith. Fodd bynnag, mae angen iddynt ystyried sut y byddant yn cymhwyso’r Ddeddf yn fwy systematig os ydynt yn mynd i ysgogi ffordd wahanol o weithio yn y tymor hwy. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn galw ar gyrff cyhoeddus i sicrhau bod eu brwdfrydedd yn cyfateb â gweithredu parhaus, er mwyn i Gymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfle y mae’r Ddeddf yn ei gynnig.

Mae ei adroddiad, yn rhoi trosolwg o sut y mae cyrff y sector gyhoeddus yng Nghymru wedi ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nod yr adroddiad – Myfyrio ar Flwyddyn Un: Sut mae Cyrff Cyhoeddus wedi Ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? – yw cefnogi sefydliadu yn ystod y cyfnod pontio hwn ac mae’n cydnabod bod yr holl gyrff cyhoeddus ar daith i ddysgu sut i gyflawni deddfwriaeth sy’n feiddgar, yn uchelgeisiol ac â’r nod o ysgogi newid diwylliannol hirdymor yn y gwasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau gwell i bobl. Dyna’r rheswm pam y mae’r adroddiad yn amlygu rhai astudiaethau achos o arferion newydd er mwyn helpu eraill i ddysgu a gwella.

Canfu’r adroddiad fod cyrff cyhoeddus yn gallu rhoi enghreifftiau o sut y maent wedi defnyddio’r Ddeddf i wneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn gweithredu’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn effeithiol. Mae angen i gyrff cyhoeddus nodi yn awr sut y byddant yn parhau i ddatblygu eu hymagwedd at y Ddeddf er mwyn iddynt allu cyflawni’r uchelgais a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’n eu cynnig.

Er mwyn gweithredu’r egwyddor datblygu cynaliadwy, o dan y Ddeddf, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried y ‘pum dull o weithio’:

  1. Edrych i’r hirdymor er mwyn sicrhau nad ydynt yn cyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain;
  2. Gweithredu dull integredig wrth gynllunio a chyflawni gwasanaethau cyhoeddus – er mwyn iddynt ystyried y nodau llesiant i gyd pan fyddant yn penderfynu ar eu hamcanion lleisiant;
  3. Cynnwys amrywiaeth o’r boblogaeth yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt;
  4. Gweithio gydag eraill mewn modd cydweithredol er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau cynaliadwy ar y cyd; a
  5. Deall yr achosion sydd wrth wraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd neu waethygu.

Mae’n ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio cyrff cyhoeddus i ganfod sut y maent wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth ddatblygu eu hamcanion llesiant; ac wrth gymryd camau i’w bodloni. Mae’n rhaid iddo ddarparu adroddiad ar ei archwiliadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru flwyddyn o leiaf cyn etholiad y Cynulliad. Mae’n rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf o’r fath erbyn 2020, cyn etholiad y Cynulliad yn 2021.

Mae adroddiad heddiw yn ddarn o waith rhagarweiniol, cyn iddo ddechrau ar ei archwiliadau ffurfiol. Bydd hefyd yn cynnal cynhadledd genedlaethol ar 17 Mai, yn Stadiwm Dinas Caerdydd, i gyfleu ei ganfyddiadau yn fanylach i gyrff cyhoeddus ac i weithio gyda hwy i edrych ar y camau nesaf ar gyfer y dyfodol.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru hefyd wedi cyhoeddi adroddiad cyfochrog 'Llesiant yng Nghymru:y siwrnai hyd yn hyn' [agorir mewn ffenest newydd]  yn ystyried yr amcanion llesiant y mae cyrff cyhoeddus wedi eu gosod ac yn rhoi cyngor ar y ffordd orau iddynt ddangos eu bod yn cymryd camau effeithiol i’w bodloni.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan-Thomas:

“Megis dechrau’r daith yw hyn i wasanaethu cyhoeddus yng Nghymru. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae llawer o sefydliadau wedi dechrau cymryd camau pwysig o ran gweithredu’r ddeddfwriaeth i wella llesiant yng Nghymru. Er bod hyn yn ddechrau cadarnhaol, bydd angen i gyrff cyhoeddus barhau â’u hymdrechion os ydynt yn mynd i ddefnyddio’r Ddeddf i wneud newidiadau beiddgar i’r hyn y maent yn ei wneud a sut y maent yn ei wneud.”