skip to main content

Beth yw problemau’r gweithlu?

Mae gofal sylfaenol yn cynnwys ystod eang o wahanol staff. Dyma rai o'r materion allweddol am y gweithlu gofal sylfaenol.

Faint o bobl sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol yng Nghymru?

Mae Cynllun Llywodraeth Cymru Gweithlu Gofal Sylfaenol i Gymru [PDF yn agor mewn ffenestr newydd] yn pwysleisio’r dull tîm amlddisgyblaethol mewn gofal sylfaenol. Er hynny, mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu bod y mwyafrif o’r data ar weithlu gofal sylfaenol yn canolbwyntio ar feddygon teulu.

Cliciwch yma am fanylion y contractau gofal sylfaenol sy'n cwmpasu staff y GIG yng Nghymru [Yn agor mewn ffenestr newydd].

Gweithlu’r meddygon teulu

  • Yn 2016, roedd 6.5 meddyg teulu i bob 10,000 o boblogaeth Cymru. Y rhif cyfatebol yn Lloegr oedd 6.4 i bob 10,000. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer yr Alban o 2015 yn dangos bod 8 meddyg teulu i bob 10,000 o bobl.
  • Rhwng 2006 a 2016, cynyddodd nifer y meddygon teulu yng Nghymru 7% i 2,009.
  • Er y cynnydd yn niferoedd y meddygon teulu, nid yw’n glir a yw hyn wedi arwain at wella capasiti. Mae hyn oherwydd nad ydym yn siŵr a yw’r meddygon yn gweithio’n llawn amser neu’n rhan amser. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i wella’r data hynny.
  • Mae nifer yr ymarferwyr cyffredinol sy’n fenywod wedi cynyddu 55% ers 2006. Yn 2016 menywod oedd 52% o’r holl weithlu meddygon teulu.
  • Mae nifer y meddygon teulu dan 44 oed wedi cynyddu 15% rhwng 2010 a 2016. Cafwyd gostyngiad o 8% yn nifer y meddygon teulu rhwng 45 a 54 oed. Y newid mwyaf a welwyd oedd yn y meddygon teulu dros 65 oed, sydd wedi cynyddu 83% ers 2006.
  • Mae Hyfforddi Gweithio Byw yn ymgyrch genedlaethol a lansiwyd yn 2016 i hyrwyddo Cymru fel lle deniadol i feddygon teulu a meddygon eraill weithio. Ewch i'r wefan Hyfforddi Gweithio Byw [Yn agor mewn ffenestr newydd] i gael rhagor o fanylion.

Hyfforddi meddygon teulu

  • Ar ôl yr ysgol feddygaeth, mae meddygon teulu potensial yn mynd drwy raglen arbenigol ar gyfer meddygon teulu. Mae cystadleuaeth ar gyfer lleoedd hyfforddi wedi gostwng yng Nghymru. Yn 2012, gwnaed 1.5 o geisiadau am bob lle hyfforddi. Yn 2016, gwnaed 1.2 cais am bob lle.
  • Mae Cymru wedi cael trafferth i lenwi’r lleoedd hyfforddi i feddygon teulu. Yn 2016, llenwyd 75% o’r lleoedd. Ond yn 2017, llenwyd 91% o’r lleoedd. Mae cymhelliannau ariannol newydd i ddenu ceisiadau yn amlwg wedi cael effaith gadarnhaol ar gyfraddau llenwi yng Ngheredigion, Gogledd-orllewin Cymru, Sir Benfro a Gogledd-ddwyrain Cymru.

Morâl a bodlonrwydd swydd

  • Yn ôl arolygon BMA a RCGP mae morâl meddygon teulu yng Nghymru yn isel. Soniodd ymatebwyr i’r arolwg am feichiau gwaith cynyddol, cydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith, biwrocratiaeth a phwysau ariannol, yn arbennig mewn partneriaethau.
  • Mae 95% o feddygon teulu Cymru yn teimlo bod morâl wedi gostwng yn y 5 mlynedd diwethaf (93% yn yr Alban, 94% yng Ngogledd Iwerddon)(RCGP).
  • Mae 61% o feddygon teulu Cymru yn dweud nad oes ganddynt gydbwysedd boddhaol rhwng bywyd a gwaith, ac mae 58% yn dweud bod pethau wedi gwaethygu yn y flwyddyn ddiwethaf. (BMA).
  • Mae’r rhan fwyaf o feddygon teulu (82%) yn pryderu am gynaliadwyedd eu practis, gan ddyfynnu pwysau gwaith a thrafferthion recriwtio fel y ddau brif reswm am eu pryderon. (BMA).

Cyflog a chostau meddygon teulu

  • Ar gyfer y rhan fwyaf o feddygon teulu yng Nghymru (sef y rheini a gyflogir yn rhan o’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol), cynyddodd yr incwm cyfartalog cyn treth yn ystod y 2000’au ond ers hynny mae wedi gostwng ychydig. Cododd yr incwm hwn o £65,007 yn 2002-03 i £102,194yn 2005-06, ond ers hynny mae wedi gostwng i £93,400 yn 2015-16 (DU £99,500).
  • Er mwyn bod yn bartner, mae’n rhaid i lawer o feddygon teulu brynu i mewn i bartneriaeth. Gall y gost hon atal rhai meddygon teulu rhag bod yn bartneriaid, ac mae nifer y partneriaethau meddygon teulu wedi gostwng o 496 yn 2006 i 441 yn 2016 yng Nghymru.
  • Mae problem ‘y person olaf sy’n sefyll’ yn rhwystr arall i brynu i mewn i bartneriaeth. Mae’r broblem hon yn golygu y gall un meddyg teulu mewn partneriaeth fod yn atebol yn ariannol am y practis a’i eiddo os bydd pob partner arall yn ymddeol.
  • Mae costau indemniad uchel i feddygon teulu yn rhwystr arall. Mae indemniad yn darparu ar gyfer costau hawliadau ac ymchwiliadau i esgeulustra meddygol. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi cynlluniau  i fynd i’r afael a’r broblem hon, a rhoddwyd rhan o’r cynnydd uwch yn y contract GMS i weithredu fel cymorth tymor byr wrth aros am ateb mwy hirdymor.
  • Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddwyd contract diwygiedig ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2018-19 yng Nghymru, a oedd yn cynnwys codiad cyflog interim o 1% i feddygon teulu, cynnydd o 1.4% yn y cyllid ar gyfer treuliau a chyllid i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn costau indemniad.
twitter logo facebook logo youtube logo