skip to main content

Beth yw’r cynllun ar gyfer gwella gofal sylfaenol?

Fel rhannau eraill o'r system iechyd, mae angen cynllunio gofal sylfaenol yn ofalus i helpu i lunio'r ffordd y darperir gwasanaethau. Fodd bynnag, ni ellir cynllunio ar gyfer gofal sylfaenol ar ei ben ei hun ac mae’n rhaid iddo fod, yn hytrach, yn rhan o ymagwedd system gynllunio gyfan o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cynlluniau blaenorol ar gyfer gofal sylfaenol

Adroddiadau GIG Cymru

  • Mae gan GIG Cymru gynlluniau ers blynyddoedd lawer sy’n rhoi pwyslais ar ofal sylfaenol. Nod y cynlluniau yw gosod cydbwysedd newydd yn system gofal Cymru drwy symud adnoddau i ofal sylfaenol a chymunedol.
  • Yn 2001, bwriad Dyfodol Gofal Sylfaenol oedd gwrthdroi’r
    ‘tan-ddatblygiad ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru’.
    Roedd y weledigaeth yn cynnwys gweithio mewn timau, mwy o integreiddio a mwy o bwyslais ar gymorth ataliol.
  • Yn 2017, mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru yn trafod yr angen i gyflymu’r broses o symud gofal yn agosach at gartrefi’r cleifion.

Y cynllun cyfredol ar gyfer gofal sylfaenol

Mae’r cynllun cyfredol ar gyfer gofal sylfaenol [PDF yn agor mewn ffenestr newydd] yn ceisio datblygu ‘model cymdeithasol’ sy’n hyrwyddo llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol, yn hytrach na chadw at absenoldeb salwch yn unig. Mae pum maes blaenoriaeth yn y cynllun:

Cynllunio gofal yn lleol

Mae’r cynllun cenedlaethol yn dweud:

  • byrddau iechyd sy’n gyfrifol am nodi anghenion eu poblogaeth;
  • dylid gwneud hyn ar lefel gymunedol;
  • mae’r cynllun yn trafod rhagor o ymreolaeth leol ar gyfer arweinyddiaeth, cydweithredu ac arloesedd; ac
  • mae clystyrau’n rhan allweddol o gyflawni hyn.

Gwella mynediad ac ansawdd

Mae’r cynllun cenedlaethol yn dweud bod mynediad at wasanaeth gofal sylfaenol o ansawdd uchel yn ymwneud â:

  • gwybodaeth, cyngor a chymorth i gefnogi a chymell pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles eu hunain ac iechyd a lles eu teulu;
  • diagnosis, archwiliad, triniaeth a pharhad gofal mor agos â phosibl at gartrefi pobl;
  • gweithwyr proffesiynol yn cydweithio fel tîm cydgysylltiedig o amgylch yr unigolyn;
  • gwelliant parhaus; a
  • bod yn agored a thryloyw.

Mynediad teg

Mae’r cynllun cenedlaethol yn dweud:

  • mae a wnelo mynediad teg i ofal sylfaenol â dull rhagweithiol, cymesur ac unigol o wella iechyd a lles corfforol a meddyliol unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Gweithlu lleol medrus

Mae’r cynllun cenedlaethol yn dweud:

  • yn ei hanfod, mae a wnelo gofal sylfaenol â chydberthnasau yr ymddiriedir ynddynt rhwng pobl a gweithwyr proffesiynol. Mae angen i ni gynllunio a chreu gweithlu sydd â’r niferoedd cywir a’r cymysgedd cywir o sgiliau i ddiwallu anghenion y rhan fwyaf o bobl yn agosach at eu cartrefi mewn ffyrdd hyblyg ac mewn cyfleusterau hyblyg.

Arweinyddiaeth gadarn

Mae’r cynllun cenedlaethol yn dweud:

  • mae angen i ni atgyfnerthu a datblygu arweinyddiaeth ar bob lefel i gyflawni’r cynllun hwn er mwyn darparu mwy o ofal yn agosach at gartrefi pobl drwy wasanaethau gofal sylfaenol.

Cynllunio i ddiwallu’r galw am ofal sylfaenol

  • Mae’r cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol yn dweud bod cyni yn sbarduno ton o alwadau ar ofal sylfaenol, a hynny ar raddfa ddigynsail. Dywed y cynllun hefyd fod gofal sylfaenol yn wynebu galwadau cynyddol a mwy cymhleth o ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio, a chynnydd mewn cyflyrau hirdymor.
  • Os yw byrddau iechyd yn mynd i fodloni’r galw am, a gwella mynediad at, ofal sylfaenol, mae angen iddynt gael dealltwriaeth dda o’r galw hwn. Fodd bynnag, ceir rhai problemau sylfaenol â’r data.
  • Nid yw union nifer y cysylltiadau y mae cleifion yn eu cael â meddygfeydd yn hysbys ar lefel genedlaethol gan fod y data hwn yn cael ei gadw ar systemau cyfrifiadurol y meddygfeydd unigol a cheir anawsterau wrth geisio coladu’r data hwn. Mae’r amcangyfrifon yn amrywio rhwng 16 miliwn a 23 miliwn y flwyddyn.
  • Ceir data gwell yn rhannau eraill o’r system gofal iechyd sylfaenol, yn bennaf gan fod y gwasanaethau hyn yn cael eu talu yn unol â’u gweithgarwch:
    • Yn 2016-17, dosbarthodd y 716 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru 74.7 miliwn o eitemau presgripsiwn i gleifion.
    • Yn 2016-17, cynhaliodd optometryddion cymunedol brofion llygaid ar 776,827 o bobl.
    • Yn y ddwy flynedd hyd at 31 Mawrth, aeth fwy nag 1.7 miliwn o bobl i ddeintyddion i gael triniaeth y GIG.

Newid y ffordd yr ydym yn cael gafael ar wasanaethau

Mae’r GIG yng Nghymru yn ceisio newid y ffordd mae’r cyhoedd yn cael gafael ar wasanaethau gofal sylfaenol. Yn draddodiadol, meddygon teulu fu’r pwynt cyswllt cyntaf i bobl ag anghenion gofal iechyd, ac maent wedi gweithredu yn geidwaid y porth ar gyfer gwasanaethau eraill. Yn y dyfodol, y nod yw y bydd cleifion yn gallu cael gafael ar ystod ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ddibynnu ar eu hanghenion. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod amser meddygon teulu yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, yng nghyd-destun galw cynyddol am wasanaethau gofal sylfaenol.

Arloesedd a model newydd o ofal sylfaenol

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Genedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn 2015-16 i annog arloesedd a gwelliant.

£41 miliwn oedd cyfanswm y gronfa yn 2016-17 gan gynnwys £10 miliwn ar gyfer clystyrau a £3.8 miliwn ar gyfer prosiectau braenaru ac arwain y ffordd.

• Grwpiau o feddygfeydd cyfagos a sefydliadau partner (megis y gwasanaeth ambiwlans, cynghorau a’r trydydd sector) yw clystyrau, sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer eu poblogaethau lleol o rhwng 30,000 a 50,000 o bobl. Mae gan glystyrau swyddogaeth allweddol wrth gefnogi asesiadau lleol o anghenion gofal, dyrannu adnoddau priodol a rhagweld y galw posibl yn y dyfodol am ofal sylfaenol.

Prosiectau braenaru ac arwain y ffordd yw cyfres o brosiectau gofal sylfaenol, a noddir gan Lywodraeth Cymru. Eu nod yw arbrofi elfennau o’r cynllun gofal sylfaenol. Mae’r dull hwn wedi creu rhai ffyrdd newydd o weithio sydd wedi eu cyfuno mewn Model Trawsnewid Gofal Sylfaenol a Chymunedol.

Mae elfennau allweddol o’r model yn cynnwys: cynaliadwyedd mewn ymarfer cyffredinol, prosesau brysbennu a rennir, timau amlddisgyblaethol sy’n gweithio ar draws practisau, gwaith integredig rhwng meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, mynediad gwell a mwy o wybodaeth gytbwys i’r cyhoedd.

Mae’r ymagwedd gyfredol tuag at gynllunio gofal iechyd yn un ‘o’r brig i lawr’ (hynny yw, blaenoriaethau cyffredin wedi’u pennu yn y cynllun cenedlaethol) ac ‘o’r gwaelod i fyny’ (hynny yw, cynllunio ac arloesedd wedi’i arwain gan glystyrau a meddygfeydd lleol). Golyga hyn y ceir amrywiaeth o gynlluniau, ar amrywiaeth o lefelau, ac y mae angen iddynt wneud synnwyr ac ategu ei gilydd.

Yn y gorffennol

Yn y dyfodol

Mae’r claf yn mynd at y meddyg teulu fel y porth galw cyntaf. Y meddyg teulu yw’r porthgeidwad i wasanaethau eraill.

Bydd llawer o wasanaethau eraill yn darparu'r porthladd cyntaf ar gyfer cleifion, gan ryddhau meddygon teulu i weld y cleifion mwyaf sâl. Bydd meddygon teulu yn parhau i fod y porthladd cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o achosion ofal brys.

Bydd y gwasanaethau hyn yn gweithio fel tîm ac mae cleifion yn debygol o gael mynediad iddynt trwy wasanaeth brysbennu/asesu a rennir.

Bydd angen i ddisgwyliadau’r cyhoedd newid: Yn y dyfodol bydd yn llai tebygol i’r claf weld ei feddyg teulu, yn hytrach bydd yn fwy tebygol iddo weld arbenigwr arall. Un dull sy’n cael ei arbrofi ar hyn o bryd yw cyflwyno proses frysbennu ganolog i sicrhau bod y cleifion yn mynd at y clinigwr mwyaf priodol. Ond adroddodd Arolygaeth Iechyd Cymru y gall cleifion deimlo’n anhapus gyda chamau o’r fath, gan y gallen nhw deimlo eu bod wedi colli eu dewis.

twitter logo facebook logo youtube logo