Rhan 2: COVID-19, catalydd ar gyfer newid cadarnhaol?

23 Rhagfyr 2020
  • Adfer gydag uchelgais. Sut mae COVID-19 wedi gweithredu fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol; rhai esiamplau o du allan i Gymru.  

    Rhan 2: Adfer gydag uchelgais - Adfer tu hwnt i Gymru

    Dyma'r ail flog mewn cyfres sy'n archwilio COVID-19 fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol. Mae'r blog cyntaf ar gael yma. Os hoffech chi gyfrannu at y sgwrs, cysylltwch â ni drwy e-bostio covid.learning@audit.wales

    Yn ein blog blaenorol, rhoddwyd sylw i'r ffocws a'r dull gweithredu yng Nghymru wrth i rai cynghorau geisio sefydlu dulliau mwy effeithlon o weithio a rhoi'r gorau i brosesau biwrocrataidd sy'n gallu bod yn niweidiol iawn yn aml.  

    Wrth i gynghorau ystyried sut y gallant ymadfer ar ôl y pandemig, rydym yn edrych y tu allan i Gymru i weld sut mae gwledydd eraill yn ymgymryd â'r her hon. Gan ddwyn y cyfan ynghyd, mae Nick Selwyn yn myfyrio ar rai o'r gwahaniaethau rhwng Cymru a gwledydd eraill ac yn gorffen trwy ofyn cwestiwn - Ydyn ni'n ddigon uchelgeisiol?

    Mae COVID-19 wedi newid bywydau pobl mewn ffyrdd enfawr a bach, ac mae cynghorau yng Nghymru wedi cael eu heffeithio’n fawr hefyd. Maen nhw wedi gorfod ymateb mewn ffyrdd nad oedd modd eu dychmygu 12 mis yn ôl, gan ymdrin â phroblemau digynsail nad oedd modd cynllunio ar eu cyfer.

    Maent wedi gwneud gwaith rhagorol yn cynnal gwasanaethau yn y byd ansicr a newidiol presennol. Maent i'w canmol am eu gwaith caled a'u dyfalbarhad.

    Wrth i ni ddod i arfer â bywyd â COVID-19, mae cyrff cyhoeddus ledled y byd yn newid o ymateb i adfer. Wrth edrych yn ehangach a thu allan i'n ffiniau, beth mae eraill yn ei wneud?

    Mae'n bwysig rhoi trefn ar bethau, ond dyma'r man cychwyn

    Yn fyd-eang, mae cyrff cyhoeddus yn cydnabod nad yw'n ddigon ceisio dychwelyd at y status quo – mae'r pandemig wedi dangos nad oedd hynny'n gweithio – ac mae angen i bob sefydliad fanteisio ar y cyfle i adnewyddu a newid yr hyn y mae'n ei wneud. Ac fel y nodwyd gennym yn ein blogiau cynharach, mae'r fframwaith a gyflwynwyd gan Labordy Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA) [agorir mewn ffenestr newydd] yn fan cychwyn gwych i'ch helpu i wneud hyn. Mae'n adnodd defnyddiol sy'n eich helpu i oedi, myfyrio a gwneud synnwyr o'r hyn sydd wedi digwydd dros y 9 mis diwethaf.

    Darlunir y fframwaith fel tabl 2x2 gyda'r echelin fertigol wedi ei labelu gyda 'arfer gwaith wedi ei atal neu ei ddechrau yn ystod argyfwng' a'r echelin lorweddol wedi ei labelu 'arfer gwaith wedi ei atal neu ei ddechrau wedi'r argyfwng'. Mae'r ffamwaith hefyd yn mynd ymlaen i gynnig ffordd o ddosbarthiadau ar gyfer arfer sydd yn hen a newydd, sydd wedi ei ddechrau neu wedi ei atal yn ystod yr argyfwng.

    Disgrifir arfer gwaith newydd fel:

    • Arfer gwaith ddylai gael ei fwyhau oherwydd 'rydym wedi arbrofi wrth wneud y pethau newydd yma, ac maent yn edrych yn addawol' 
    • Arfer gwaith ddylai gael ei atal oherwydd 'rydym wedi gwneud y pethau yma er mwyn ymateb i anghenion dybryd, ond maent yn ymatebion penodol i'r argyfwng'

    Disgrifir hen arferion gwaith fel:

    • Arfer gwaith ddylai gael ei ailddechrau oherwydd 'bu rhaid atal y pethau yma er mwyn canolbwyntio ar yr argyfwng, ond mae angen eu hailddechrau mewn rhyw ffurf'
    • Arfer gwaith ddylai gel ei adael fynd oherwydd 'bu i ni beidio gwneud y pethau yma oedd yn barod yn/sydd nawr ddim yn addas i bwrpas'

    Ond beth arall allech chi a dylech chi ei wneud? Mae ein gwaith ymchwil rhyngwladol yn dangos bod angen 'meddwl yn fawr a bod yn feiddgar’.

    Meddyliwch yn fawr a byddwch yn feiddgar

    Mae nifer o lywodraethau lleol a rhanbarthol yn canolbwyntio eu gwaith cynllunio adferiad ar y cymunedau y maent yn eu cynrychioli a'r bobl y maent yn eu gwasanaethu. Maent yn canolbwyntio llai ar sut maen nhw'n gweithio, ac maent yn awyddus i ddefnyddio COVID-19 fel cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i lunio byd newydd.

    Gallwn weld o'r enghreifftiau isod nad yw maint y sefydliadau wedi cyfyngu ar eu huchelgais. Mae'r awdurdod lleiaf, Whangārei (91,000 o drigolion) wedi bod yr un mor fentrus â De Cymru Newydd, talaith yn Awstralia sydd â phoblogaeth o 7.3 miliwn.

    Whangārei – ardal cyngor â 91,000 o bobl

    Mae Cyngor Dosbarth Whangārei, sydd wedi'i leoli ym mhen uchaf Ynys Gogledd Seland Newydd, wedi datblygu Strategaeth Ymateb i COVID-19 [agoriri mewn ffenestr newydd] sy'n darparu trosolwg o'r effeithiau tebygol ar economi Whangārei. Yn benodol, mae'n ystyried y sectorau sy'n debygol o gael eu taro waethaf ac y bydd angen llawer o amser arnynt i adfer. Mae'r strategaeth hon sy'n defnyddio llawer o ddata yn canolbwyntio ar adferiad economaidd busnesau lleol. Ond mae hefyd yn cydnabod y cysylltiad rhwng y busnesau ffyniannus a llesiant cymunedol. Mae tri cham craidd i'r strategaeth:

    1. Ailgychwyn: Ymateb i effeithiau uniongyrchol ar sectorau economaidd allweddol
    2. Adfer: Cefnogi adferiad economaidd parhaus ledled y Cyngor Dosbarth
    3. Ailosod: Ailosod i greu economi fwy cynhwysol, gwydn a chynaliadwy

    Hounslow – bwrdeistref Llundain â 270,000 o bobl

    Mae cynllun adfer Bwrdeistref Hounslow yn Llundain yn dwyn ynghyd bedwar mis o waith gydag amrywiaeth o sefydliadau, busnesau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, academyddion a thrigolion. Mae One Hounslow Forward Together [PDF agorir mewn ffenestr newydd] yn nodi'r prif ymyriadau y mae'r Cyngor yn ymgymryd â nhw yn seiliedig ar bedair thema – adnewyddu economïau lleol, grymuso trigolion lleol, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau lleol ac ail-ddychmygu lleoedd lleol.

    Roedd y cyfyngiadau symud wedi amlygu tlodi yn Hounslow. Roedd tai gorlawn yn golygu bod mwy o bobl yn debygol o ddal y clefyd ac yn fwy tebygol o farw ohono, oherwydd anghydraddoldebau amddifadedd, tlodi ac iechyd gwael. Fe gafodd aelodau o'r gymuned ddu a lleiafrifoedd ethnig eu heffeithio'n waeth na neb arall.

    Roedd y cyfyngiadau symud wedi newid yr amgylchedd hefyd, gan helpu i lanhau'r aer a rhoi blas ar Lundain mwy gwyrdd i'r trigolion. Mae pwysigrwydd mynediad at fannau gwyrdd, creu llwybrau cerdded a beicio diogel a dymunol i wella iechyd pobl a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd bellach yn cael ei ystyried yn hanfodol.

    Mae'r cynllun yn nodi chwe egwyddor allweddol ar gyfer pob corff cyhoeddus yn Hounslow wrth geisio adfer o COVID-19:

    1. Gweithio mewn ffordd unedig
    2. Gweithredu'n lleol
    3. Hyrwyddo'r fwrdeistref
    4. Canolbwyntio ar fesurau atal
    5. Cefnogi cymunedau
    6. Defnyddio tystiolaeth

    Melbourne – dinas â 4.4 miliwn o bobl

    Bydd cynllun adfywio ac adfer ar ôl COVID-19 Melbourne – City of the Future [agorir mewn ffenestr newydd] – yn para deng mlynedd ar hugain ac yn cynnwys pedwar cam penodol – Ymateb; Adfer; Adfywio; a Dyheadau'r Dyfodol.

    Mae gan Lywodraeth y Ddinas ddwy raglen graidd: blaenoriaethu iechyd a llesiant y cyhoedd, ac adfywio'r ddinas. Mae'r dull gweithredu yn edrych tuag allan ac yn creu delwedd uchelgeisiol o Melbourne bywiog, cynaliadwy a diwylliannol gyfoethog yn 2050. Maen nhw'n edrych ar yr hyn y gallant ei wneud fel sefydliadau i sicrhau bod eu systemau a'u prosesau'n gweithio'n dda, ond maent yn defnyddio'r pandemig fel catalydd i sicrhau newid cymdeithasol. Y nod yw sicrhau bod Melbourne yn lle gwell i fyw, gweithio a mwynhau.

    De Cymru Newydd – talaith â 7.3 miliwn o bobl

    Mae Llywodraeth Talaith De Cymru Newydd yn gweld y pandemig fel cyfle i adfer economi well a chryfach ac ailbennu'r berthynas rhwng Llywodraeth y Wladwriaeth a'r Llywodraeth Ffederal. Mae'r COVID-19 Recovery Plan [agorir mewn ffenestr newydd] yn cynnwys chwe blaenoriaeth:

    1. Pibell seilwaith – defnyddio arian y dalaith i fanteisio ar y datblygiadau arloesol a hyrwyddo’r economi;
    2. Cynllunio ac ardaloedd – tîm pwrpasol i ddileu rhwystrau yn y system gynllunio a gwneud iddi weithio i Dde Cymru Newydd;
    3. Addysg a sgiliau - paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi'r dyfodol;
    4. Digideiddio – arwain y byd mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol ac ail-lunio'r berthynas rhwng dinasyddion a'r llywodraeth;
    5. Gweithgynhyrchu uwch a chadwyni cyflenwi lleol - datblygu economi hunangynhaliol sy'n gweithio i Dde Cymru Newydd; a
    6. chysylltiadau rhwng y Llywodraeth Ffederal a Llywodraeth y Dalaith – dileu dyblygiad, lleihau biwrocratiaeth a lleihau gorgyffwrdd.

    A ydym yn ddigon eofn yng Nghymru?

    Mae'r blogiau eraill yn y gyfres hon wedi cynnwys cyfres o gwestiynau i gloi, ond dim ond un cwestiwn sydd yn y blog hwn.

    Trwy gynllunio ymatebion polisi strategol, mae llywodraeth leol yn gallu sicrhau canlyniadau tymor byr a hirdymor sydd o fudd i bob un ohonom. Fodd bynnag, rhaid dechrau cynllunio ar unwaith ar gyfer hynny a bod yn uchelgeisiol.

    Os ydym yn gwneud hyn yn iawn, gall yr ymateb i COVID-19 nid yn unig leihau poen a dioddefaint ar hyn o bryd, ond fe allai adeiladu'r sylfaen ar gyfer dyfodol mwy gwyrdd, mwy diogel a mwy llewyrchus. Byddwch yn uchelgeisiol, byddwch yn feiddgar.

    Rhaid dychwelyd at fy nghwestiwn agoriadol felly – A yw Cymru'n ddigon uchelgeisiol wrth ymateb i COVID-19?

    Ynglŷn â’r awdur

    Rheolwr Llywodraeth Leol yn Archwilio Cymru yw Nick Selwyn, a chanddo gyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau llywodraeth leol Cymru gyfan a’n gwaith gydag Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru 15 mlynedd yn ôl, bu’n gweithio i nifer o awdurdodau lleol ym meysydd tai a gofal cymdeithasol ac mae’n un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig.