Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae cyrff y GIG yng Nghymru wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen a phwysau sylweddol yn ystod pandemig COVID-19.

    Drwy gydol yr argyfwng hwn, bu'n rhaid i gyrff y GIG gydbwyso nifer o anghenion gwahanol, ond pwysig:

    • yr angen i sicrhau digon o gapasiti i ofalu am bobl y mae'r feirws yn effeithio arnynt;
    • yr angen i gynnal gwasanaethau hanfodol yn ddiogel;
    • yr angen i ddiogelu iechyd a lles eu staff; ac
    • yr angen i gynnal llywodraethu da. 
    ,
    Er mwyn ymateb i'r anghenion hyn yn effeithiol, bu'n ofynnol i gyrff y GIG gynllunio'n wahanol, gweithredu'n wahanol, rheoli eu hadnoddau'n wahanol, a llywodraethu'n wahanol. 
    ,

    Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf o ddau gyhoeddiad sy’n crynhoi canfyddiadau ein gwaith asesu strwythuredig ar sail Cymru gyfan gan amcanu at amlygu themâu allweddol, adnabod cyfleoedd yn y dyfodol, a rhannu gwersi i’w dysgu o fewn y GIG ac ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru’n fwy eang. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y modd y mae cyrff y GIG wedi llywodraethu yn ystod argyfwng COVID-19, gan ganolbwyntio'n benodol ar roi dinasyddion yn gyntaf, gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd, a chael sicrwydd. 

    Bydd ein hail adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae cyrff y GIG wedi cefnogi iechyd a lles eu staff yn ystod y pandemig, gyda phwyslais arbennig ar y trefniadau y maent wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu staff sydd mewn mwy o berygl o COVID-19.

    Yr hyn a ganfuwyd gennym

    Cafodd ein gwaith asesu strwythuredig eleni ei ddylunio a’i gyflawni yng nghyd-destun y pandemig parhaus. O ganlyniad, cawsom gyfle unigryw i weld sut y mae cyrff y GIG wedi bod yn addasu ac yn ymateb i’r heriau a phwysau niferus a ddygwyd gan argyfwng COVID-19. 

    Gwelsom fod holl gyrff y GIG yn gweithredu'n effeithiol gydag ymdeimlad o frys a phwrpas cyffredin i fabwysiadu ffyrdd darbodus a hyblyg o weithio a thrawsnewid yn gyflym tra'n parhau i ganolbwyntio'n glir ar feysydd craidd busnes a llywodraethu.

CAPTCHA