Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Archwilio yn chwarae rôl hollbwysig yn y sector cyhoeddus nawr yn fwy na erioed

01 Ebrill 2021
  • Yr Archwilydd Cyffredinol yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf

    Heddiw mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyflwyno Cynllun Blynyddol Archwilio Cymru ar gyfer 2021-22. Wrth i'r sector cyhoeddus yng Nghymru barhau i fynd i'r afael ag effaith COVID-19, mae'r ddogfen hon yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf.

    Mae archwilio’n chwarae rhan hanfodol o ran rhoi'r wybodaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, gwleidyddion, llunwyr penderfyniadau a dylanwadwyr ynglŷn â pha mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yn y dyddiau anghyffredin hyn wrth i ni weld pwysau enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, lefelau uchel o risg ac ansicrwydd, a chynnydd sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Bydd ein rhaglen gwaith archwilio yn adlewyrchu hyn.

    Yn y gorffennol, rydym wedi nodi pedair uchelgais eang sy'n disgrifio'r llwybr yr ydym yn ei gymryd tuag at gyrraedd ein llawn botensial fel sbardun newid a gwelliant sydd wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus. Yn y Cynllun hwn, rydym wedi crynhoi'r prif ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y ffordd y gwnaethom gyflawni'r uchelgeisiau hyn a chyflawni ein rhaglenni gwaith dros y flwyddyn nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys effeithiau pandemig COVID-19, goblygiadau Brexit, yr argyfwng hinsawdd cyhoeddedig, heriau economaidd-gymdeithasol, a digideiddio mwy o wasanaethau.

    Mewn ymateb, rydym wedi nodi sawl maes ffocws ar gyfer ein gwaith archwilio a'n gwaith o redeg y busnes yn 2021-22. Ochr yn ochr â'n dangosyddion perfformiad allweddol, bydd y cynnydd a wneir yn y meysydd hyn yn cael ei fonitro a'i graffu'n agos gan y Bwrdd a'r Tîm Arwain Gweithredol trwy gydol y flwyddyn.

    ,
    O’n hymgysylltiad trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld sut mae cyrff sector cyhoeddus wedi ymateb i her y pandemig. Mae cydweithwyr ar draws y gwasanaeth cyhoeddus wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol i gadw gwasanaethau i fynd ac i gadw pobl Cymru yn ddiogel. Ar ran Archwilio Cymru, hoffem fynegi ein diolch a'n hedmygedd parhaus o’r ymdrech a'r ymrwymiad anhygoel hwn. Er bod cyflwyno'r rhaglen frechu yn rhoi gobaith i ni am rywfaint o oleuni ar ben draw’r twnnel, rydym yn ymwybodol bod y pwysau sydd ar hyn o bryd yn eithafol a bod yn rhaid blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen. Felly, mae dull Archwilio Cymru yn 2021-22 yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol mewn ffyrdd sy'n sensitif i'r pwysau sydd ar wasanaethau. Byddwn yn cadw rhywfaint o hyblygrwydd yn ein rhaglenni gwaith 2021-22 er mwyn galluogi hyn ac er mwyn caniatáu i ni ymateb i ddatblygiadau. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,
    Mae ein hadnoddau ein hunain wedi cael eu hymestyn dros y 12 mis diwethaf, gan fod staff wedi gweithio’n gyfan gwbl o bell tra’n jyglo effaith y pandemig a gofynion gofalu, addysgu gartref, a chyfrifoldebau eraill. Rydym yn ddyledus i holl staff Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb, eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus trwy'r dyddiau heriol hyn. Yn 2021-22, byddwn yn adolygu ein dulliau cyflawni a'n methodolegau. Wrth lunio ffordd newydd o weithio ar gyfer y dyfodol, byddwn yn adeiladu ar yr addasiadau a amlinellwyd yn ein Hadroddiad Interim diweddar, er mwyn dal a chadw rhai o'r newidiadau cadarnhaol a welwyd gennym yn ystod y pandemig. Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, Lindsay Foyster
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae'r Cynllun Blynyddol hwn yn cwmpasu'r cyfnod 1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2022. Mae'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am ein huchelgeisiau tymor hwy a'n dangosyddion perfformiad allweddol. Fe’i paratowyd ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru yn unol â gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

    • Mae ein Cynllun Blynyddol yn amlinellu’n blaenoriaethau a'n rhaglenni gwaith arfaethedig ar gyfer y 12 mis nesaf, ar gyfer ein gwaith archwilio a'n gwaith o redeg y busnes.

    • Ein pedair uchelgais, fel y'u nodwyd gyntaf yn ein Cynllun Blynyddol 2019-20, yw:

      • Manteisio'n llawn ar ein persbectif unigryw, ein harbenigedd a'n dyfnder mewnwelediad;
      • Cryfhau ein safle fel llais awdurdodol, dibynadwy ac annibynnol;
      • Cynyddu ein gwelededd, ein dylanwad a'n perthnasedd; a
      • Bod yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol sector cyhoeddus datganoledig Cymru. Mae'n gyfrifol am archwiliad blynyddol mwyafrif yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £21 biliwn o gronfeydd y mae Senedd Cymru yn pleidleisio arnynt yn flynyddol. Mae elfennau o'r cyllid hwn yn cael eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).

    • Mae annibyniaeth archwilio'r Archwilydd Cyffredinol o'r pwys mwyaf. Fe'i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd na rheolaeth Senedd na llywodraeth Cymru.

    • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i'r Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori'r Archwilydd Cyffredinol, ynghylch arfer ei swyddogaethau.

    • Archwilio Cymru yw'r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw'n endid cyfreithiol ynddo'i hun.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cynllun Blynyddol 2021-22

    View more