Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae cyrff y GIG yng Nghymru wedi blaenoriaethu lles staff yn ystod y pandemig, ond mae heriau tymor hwy yn parhau

26 Hydref 2021
  • Cynyddodd cyrff y GIG eu cynnig lles i staff yn ystod y pandemig ond bellach mae angen iddynt sicrhau bod cymorth parhaus yn cael ei ddarparu a'i wneud yn hawdd i bawb ei gyrraedd. 

    Mae staff y GIG wedi dangos gwydnwch ac ymroddiad aruthrol drwy gydol y pandemig, er eu bod yn wynebu straen enfawr i'w hiechyd meddwl a chorfforol. Ar ddechrau pandemig COVID-19, symudodd cyrff y GIG yn gyflym i wella eu mentrau lles i gefnogi staff drwy'r cyfnod digynsail hwn. Fodd bynnag, ni ellir anwybyddu effeithiau tymor hwy y pandemig ar les staff.

    Cyn y pandemig, roedd lles staff eisoes yn her fawr i'r GIG ac nid yw'r argyfwng ond wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi iechyd meddwl a chorfforol staff. Wrth i'r pandemig ddatblygu, gweithredodd cyrff y GIG yng Nghymru fesurau i wella lles staff, megis creu mannau gorffwys pwrpasol, cynyddu iechyd meddwl a darpariaeth seicolegol, a gwella mesurau rheoli heintiau ac atal. Fodd bynnag, mae angen i gyrff y GIG wneud mwy yn awr i sicrhau bod staff y GIG yn gwybod sut i gael gafael ar gymorth sy'n gweddu i'w hanghenion penodol.

    Edrychodd ein hadroddiad hefyd ar sut yr oedd cyrff y GIG yng Nghymru yn diogelu staff sydd mewn mwy o berygl o COVID-19. Ymhlith mentrau diogelu eraill, cyflwynodd pob corff Offeryn Asesu Risg y Gweithlu COVID-19 Cymru Gyfan. Mae'r offeryn asesu risg yn nodi'r rhai sydd mewn mwy o berygl ac yn caniatáu rhoi mesurau ychwanegol ar waith i sicrhau bod staff yn cael eu diogelu'n ddigonol. Er bod cyrff y GIG yn hyrwyddo ac yn annog staff i gwblhau'r offeryn asesu, roedd cyfraddau cwblhau yn amrywio ymhlith y gwahanol gyrff.

    Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar les staff yn bendant. Mae arolygon ac ymchwil a wnaed gan gyrff proffesiynol yn tynnu sylw at y straen cynyddol a'r gorweithio a brofir gan staff. Gyda gweithlu GIG sydd wedi'i ddihysbyddu'n fwy emosiynol a chorfforol nag erioed, rhaid i gyrff y GIG yng Nghymru barhau i ganolbwyntio ar les staff i lywio drwy effeithiau tymor hwy yr argyfwng.

    Mae cyfle hefyd i gyrff ailgynllunio eu hymagwedd at les staff er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel, effeithiol ac effeithlon. Mae rhestr wirio yn cyd-fynd â'n hadroddiad sy'n nodi rhai o'r cwestiynau y dylai aelodau Bwrdd y GIG fod yn gofyn iddynt sicrhau bod gan eu cyrff iechyd drefniadau da ar waith i gefnogi lles staff.

    Mae rhai o'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad yn canolbwyntio ar:

    • Parhau i wneud lles staff yn flaenoriaeth
    • Gwerthuso effeithiolrwydd ac effaith y cynnig lles staff
    • Gwerthuso’r Offeryn Asesu Risg y Gweithlu COVID-19 Cymru Gyfan

     

    ,
    Mae'r cydnerthedd a'r ymroddiad a ddangoswyd gan staff y GIG ar bob lefel yn wyneb yr heriau a'r pwysau digynsail a gyflwynwyd gan y pandemig wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd hyn wedi cael effaith sylweddol ar les staff y GIG, sydd bellach hefyd yn wynebu'r heriau o ddelio â'r galw cynyddol yn y system a achosir gan COVID-19. Mae'n galonogol gweld bod cyrff y GIG wedi parhau i ganolbwyntio'n glir ar les staff drwy gydol y pandemig ac wedi gweithredu ystod eang o fesurau i gefnogi iechyd corfforol a lles meddyliol eu staff yn ystod yr argyfwng. Mae'n hanfodol bod y gweithgareddau hyn yn cael eu hadeiladu a bod lles staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth ganolog i gyrff y GIG wrth iddynt ddelio â heriau cyfunol adennill gwasanaethau, parhau i ymateb i bandemig COVID-19, a hefyd rheoli pwysau tymhorol y disgwylir iddynt fod yn fwy y gaeaf hwn nag yr oeddent y llynedd. Mae'n debyg bod gofalu am y rhai sy'n gofalu am eraill yn bwysicach nawr nag y bu erioed o'r blaen. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Nodyn

    Yr adroddiad hwn yw'r ail o ddau gyhoeddiad sy'n tynnu sylw at themâu sy'n gysylltiedig â COVID-19 o'n gwaith Asesu Strwythuredig yng nghyffau'r GIG, gan nodi cyfleoedd yn y dyfodol a rhannu dysgu. Darllenwch ein hadroddiad cyntaf – Gwneud pethau'n wahanol, gwneud pethau'n iawn?

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Gofalu am y Gofalwyr?

    View more