Financial Management

Allbynnau Cynhadledd Dyfodol Diamod ar-lein nawr

Ar 16 Hydref, cynhaliodd y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid y drydedd gynhadledd ar gyfer hyfforddeion cyllid, Dyfodol Diamod 2018

Daeth y digwyddiad ag unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ar draws Cymru ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn cyllid ynghyd.

Gwnaeth digwyddiad eleni adeiladu ar gynadleddau llwyddiannus y blynyddoedd diwethaf drwy archwilio'r newidiadau a'r heriau sy'n debygol o gael effaith ar weithwyr cyllid proffesiynol yn ystod eu gyrfa, ac fe'i cyflwynwyd gan weithwyr cyllid proffesiynol blaenllaw yn y maes.

Cyflwyniadau'r gynhadledd

  1. Datblygu gwerth; cydweithio [PDF 1.69MB yn agor mewn ffenest newydd] - Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Dr Mark Ramsey, Cyfarwyddwr Meddygol, Uned Gyflawni Ysbyty Morriston a Navjot Kalra, Rheolwr Rhaglenni - Caffael yn Seiliedig ar Werth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  2. Sefyllfa frys [PDF 351KB yn agor mewn ffenest newydd] - Mark Jeffs, Rheolwr Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru
  3. Llywodraethu – angenfilod ac ellyllon [PDF 216KB yn agor mewn ffenest newydd] - David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru
  4. Ymladd yn erbyn Twyll yn eich GIG [PDF 1.34MB yn agor mewn ffenest newydd] - Graham Dainty, Rheolwr - Gwasanaethau Atal Twyll, Atal Twyll yn y GIG
  5. Dyfodol llywodraeth leol [PDF 1.78MB yn agor mewn ffenest newydd] - Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  6. Rheoli eich gyrfa a chael y gorau o'ch sefydliad proffesiynol [PDF 3.91MB yn agor mewn ffenest newydd] – Nicola Campbell, Pennaeth Addysg Broffesiynol, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA); Frank Garvey, Rheolwr Datblygu Busnes Rhanbarthol, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW);  Winston Jacob, Uwch-reolwr Datblygu Busnes, Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA); Edward Goodeve-Docker, Rheolwr, Cysylltiadau Cyflogwyr - y DU - Cyfrifydd Rheoli, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA)
  7. Panel Alumni: wedi cymhwyso, beth nesaf? [PDF 660KB yn agor mewn ffenest newydd] – Katie Adams, Cyfrifydd Rheoli – Casglu Newyddion, Materion Cyfoes, Sianeli Symudol ac Ar-lein, BBC, Caitlin Smith, Arweinydd Tîm, Swyddfa Archwilio Cymru, a Tom Bowring, Rheolwr Gweithredol – Polisi a Pherfformiad, Cyngor Bro Morgannwg

Lluniau

Edrychwch a rhannwch y lluniau a dynnwyd o'r diwrnod ar ein tudalen Facebook [yn agor mewn ffenest newydd].

Fideos

Edrychwch ar araith Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r araith a gyflwynwyd gan Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.

Mae’r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff a ariennir yn gyhoeddus ledled Cymru gan gwmpasu'r sectorau canlynol:

  • GIG Cymru
  • llywodraeth leol
  • parciau cenedlaethol
  • yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub
  • Llywodraeth Cymru, cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill llywodraeth ganolog ddatganoledig
  • cyrff llywodraeth ganolog nad ydynt wedi’u datganoli sy'n gweithredu yng Nghymru
  • sectorau addysg uwch ac addysg bellach, a
  • Swyddfa Archwilio Cymru. 

Finance for the Future conference outputs now online

On the 16 October the Finance Skills Development Group held the third conference for finance trainees, Finance for the Future 2018

The event brought together individuals working in publicly funded organisations across Wales who are studying towards a finance related qualification.

This year’s event built on previous years’ highly successful conferences in exploring the changes and challenges, which are likely to have an impact on finance professionals over the course of their careers, and were delivered by leading finance professionals in the field.

Conference presentations

  1. Driving value; working together [PDF 1.69MB opens in new window] – Lynne Hamilton, Director of Finance, Abertawe Bro Morgannwg University Health Board, Dr Mark Ramsey, Medical Director, Morriston Hospital Delivery Unit and Navjot Kalra, Programme Manager – Value Based Procurement, Abertawe Bro Morgannwg University Health Board
  2. The burning platform [PDF 351KB opens in new window] – Mark Jeffs, Audit Manager, Wales Audit Office
  3. Governance – monsters and trolls [PDF 216KB opens in new window] – David Richards, Director of Governance, Welsh Government
  4. Fighting Fraud in your NHS [PDF 1.34MB opens in new window] – Graham Dainty, Manager – Counter Fraud Services, NHS Counter Fraud
  5. The future of local government [PDF 1.78MB opens in new window] – Jon Rae, Director of Resources, WLGA
  6. Managing your career and getting the most from your professional institute [PDF 3.91MB opens in new window] – Nicola Campbell, Head of Professional Education, Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA); Frank Garvey, Regional Business Development Manager, Institute of Chartered Accountants in England and Wales (ICAEW); Winston Jacob, Senior Business Development Manager, Association of Chartered Certified Accountants (ACCA); Edward Goodeve-Docker, Manager, Employer Relations - UK - Management Accounting, Chartered Institute of Management Accountants (CIMA)
  7. Alumni panel: qualified, what next? [PDF 660KB opens in new window] – Katie Adams, Management Accountant – Newsgathering, Current Affairs, Mobile and Online and Channels, BBC, Caitlin Smith, Team Leader, Wales Audit Office, and Tom Bowring, Operational Manager – Policy and Performance, Vale of Glamorgan Council

Photos

View and share the photos captured from the day on our Facebook page [opens in new window].

Videos

Watch the Auditor General for Wales' speech and the speech delivered by Nick Ramsay AM, Chair of the Assembly’s Public Accounts Committee.

The Finance Skills Development Group comprises of representatives from publicly funded bodies across Wales covering the following sectors:

  • NHS Wales
  • local government
  • national parks
  • police, fire and rescue
  • Welsh government, Welsh Government sponsored bodies and other devolved central government bodies
  • non-devolved central government bodies operating in Wales
  • higher and further education sectors, and
  • the Wales Audit Office.

Roedd WEFO yn wynebu her enfawr i neilltuo arian yr Undeb Ewropeaidd cyn Brexit

Ond mae’r risg y bydd Cymru yn colli peth cyllid, mewn senario dim cytundeb, yn llai yn awr yn dilyn newid ym mholisi’r Trysorlys a gyhoeddwyd ychydig ddyddiau cyn cyhoeddi Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol

Wynebai Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) her enfawr i neilltuo holl arian cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd cyn Brexit. Fodd bynnag, ychydig cyn cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol heddiw, ‘Rheoli Effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd’, ymestynnodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei sicrhad i ddiogelu dyraniad Cymru (a’r DU) o Gronfeydd Strwythurol Ewrop yn y cyfnod hwn o gyllideb yr UE hyd 2020.

Bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019. Os bydd y DU yn gadael yr UE gyda Chytundeb Ymadael, bydd Cymru yn dal i dderbyn arian o’r Cronfeydd Strwythurol nes y daw y cylch cyfredol i ben. Fodd bynnag, pe bai’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, byddai Cymru, tan yn ddiweddar, wedi bod yn ddibynnol ar sicrhad Llywodraeth y DU i ariannu prosiectau fydd wedi eu llofnodi ar adeg Brexit.

Yng ngoleuni Brexit a thelerau blaenorol sicrhad Llywodraeth y DU, roedd WEFO yn anelu at neilltuo’r cyfan o’r £2.1 biliwn o gyllid o Gronfeydd Strwythurol yr UE erbyn mis Mawrth 2019. Ond roedd yn cydnabod y byddai gwneud hynny yn her. Mae cryn berygl na fydd rhai o brosiectau arfaethedig WEFO yn llwyddo i fynd drwy’r camau cymeradwyo. Mae ffactorau eraill sy’n effeithio ar allu WEFO i neilltuo arian yn cynnwys ansicrwydd ynghylch Brexit, natur anwadal y gyfradd gyfnewid a newidiadau yn yr amgylchedd economaidd. O dan delerau blaenorol y sicrhad, am bob 1% o Gronfeydd Strwythurol yr UE, fyddai heb ei neilltuo cyn Brexit, byddai Cymru yn wynebu colli tua £21 miliwn.

Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn y sicrhad i gwmpasu dyraniad Cymru o’r Cronfeydd Strwythurol yn y cyfnod cyllido hwn hyd 2020 yn golygu ei bod yn awr yn llai pwysig i WEFO rwymo holl arian Cymru erbyn mis Mawrth 2019. Mae union effaith y sicrhad estynedig yn destun trafodaeth ac mae’n fwriad gan Lywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau newydd yn fuan. Er hynny, mae’n amlwg bod y sicrhad estynedig yn lleihau’n sylweddol y risg y bydd Cymru yn colli cyllid mewn senario dim cytundeb. Mae angen ystyried ein hadroddiad ni yn y cyd-destun hwnnw. Nid yw’n glir hyd yma sut y bydd y cyhoeddiad hwn yn effeithio ar gynlluniau blaenorol WEFO ar gyfer rhwymo cyllid erbyn mis Mawrth 2019.

Canfu’r adroddiad hwn heddiw fod WEFO wedi parhau i gynnal prosesau rhwystro a gwrthbwyso cadarn, er gwaethaf y bwriad i gyflymu’r broses o gymeradwyo prosiectau a gwariant cyn Brexit. Mae wedi cryfhau ei dull o gymeradwyo prosiectau, ac nid yw’n ymrwymo ond i’r rhai sy’n bodloni meini prawf llym ac sy’n gyson â’i blaenoriaethau strategol.

Nid yw’n glir eto beth ddaw i gymryd lle’r cronfeydd strwythurol yn dilyn Brexit, ond mae WEFO, a Llywodraeth Cymru ar raddfa ehangach, yn ceisio llywio’r ddadl. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno Cronfa Rhannu Ffyniant, ond nid yw wedi nodi manylion allweddol ynghylch gwerth y gronfa na’r modd y caiff ei gweithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi esbonio ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol buddsoddiad rhanbarthol ac mae arni eisiau i gyllid a rheolaeth lawn dros hyn gael eu datganoli.

Mae’r adroddiad yn nodi 7 mater allweddol i’w rheoli gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i ystyried sut y bydd modd cadw’r sgiliau a’r profiad yn WEFO yn ngoleuni unrhyw gynllun a ddaw i fodolaeth yn lle cronfeydd strwythurol yr UE yn dilyn Brexit. 

Meddai Anthony Barrett, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol: 

“Er bod materion manwl i’w datrys eto, mae’r perygl y byddai Cymru yn colli allan ar gronfeydd yr UE mewn senario dim cytundeb wedi lleihau gyda phenderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ymestyn ei sicrhad. Er hynny, gyda Brexit ar y gorwel, mae’n naturiol fod yna ansicrwydd ynghylch cyllid i Gymru yn y dyfodol, ac mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at nifer o faterion y mae angen i WEFO a Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt dros y cyfnod hwn.” 

WEFO faced major challenge to commit EU funding before Brexit

But risk of Wales losing some funding in a no-deal scenario now reduced after change in Treasury policy announced just days before Auditor General report publication

The Welsh European Funding Office (WEFO) faced a major challenge to commit all EU structural funds before Brexit. However, shortly before today’s publication of the Auditor General’s report - ‘Managing the impact of Brexit on EU Structural Funds’ - the UK Government extended its guarantee to cover Wales’ (and the UK’s) allocation for Structural Funds under this EU budget period to 2020.

The UK is set to leave the EU on 29 March 2019. If the UK leaves the EU with a Withdrawal Agreement, Wales will continue to receive Structural Funds until the current round ends. However, if the UK leaves the EU without an agreement, Wales would, until recently, have been reliant on a UK Government guarantee to fund projects that have been signed at the point of Brexit.

In light of Brexit and the previous terms of the UK Government guarantee, WEFO was aiming to commit all of the £2.1 billion EU Structural Funds by March 2019. But, it recognised that doing so was challenging. There is a significant risk that some projects in WEFO’s pipeline will not get through the approval stages. Other factors affecting WEFO’s ability to commit funding include uncertainty about Brexit, exchange rate volatility and changes in the economic environment. Under the previous terms of the guarantee, for every 1% of EU Structural Funds that are not committed before Brexit, Wales stood to lose around £21 million. 

The UK Government’s decision to extend the guarantee to cover Wales’ allocation for Structural Funding under this budget period to 2020 means it is now less important that WEFO commits all of Wales’ funding by March 2019. The precise impact of the extended guarantee is being discussed and the UK Government intends to issue new guidance shortly. Nonetheless, it is clear that the extended guarantee significantly reduces the risk that Wales will lose funding in a no deal scenario. Our report needs to be considered in that context. It is not yet clear how this announcement will impact on WEFO’s previous plans for committing funding by March 2019. 

Our report found that WEFO has maintained robust checks and balances, despite the intention to increase the pace of project approvals and spending ahead of Brexit. It has strengthened its approach to approving projects and only commits to those which meet strict criteria and match its strategic priorities. 

It is not yet clear what will replace structural funds post-Brexit, but WEFO and the Welsh Government more widely, are trying to shape debate. The UK Government intends to introduce a Shared Prosperity Fund but it has not set out key details about the value of the fund or how it will operate. The Welsh Government has set out its vision for the future of regional investment and wants full control and funding to be devolved.

The report identifies 7 key issues for the Welsh European Funding Office and the Welsh Government to manage. These include the need to consider how to retain WEFO’s skills and experiences in light of any post-Brexit replacement for EU structural funds. 

 Assistant Auditor General, Anthony Barrett said: 

“While there are still matters of detail to resolve, the risk of Wales losing out on EU funding in a no deal scenario has been reduced with the UK Government deciding recently to extend its guarantee. Nevertheless, with Brexit on the horizon, there is naturally uncertainty around future funding for Wales and this report identifies a number of issues that WEFO and Welsh Government need to focus on during this time.”

Cynghorau lleol yn gwneud cynnydd o ran gwella'r gwaith o lywodraethu a rheoli arian cyhoeddus

Ond mae lle o hyd i ddatblygu trefniadau atebolrwydd mwy cadarn

Mae’r symiau o arian a’r asedau cyhoeddus y mae cynghorau lleol Cymru yn eu rheoli’n cynyddu, ac mae angen iddynt wella'r trefniadau ar gyfer llywodraethu a rheolaeth ariannol sydd ganddynt er mwyn rheoli'r rhain yn effeithiol. Dyma gasgliad cyffredinol adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Lywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Lleol

Dyma'r chweched adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n edrych ar lywodraethu a rheolaeth ariannol mwy na 730 o gynghorau tref a chymuned ledled Cymru.

Daw'r adroddiad hefyd i'r casgliad, er bod rhywfaint o welliant wedi'i weld o ran trefniadau llywodraethu, mae gormod o gynghorau'n methu â chydymffurfio â'r amserlen statudol ar gyfer paratoi cyfrifon, oherwydd methodd 80 o gynghorau â chyflwyno eu cyfrifon ar gyfer 2016–17 erbyn y dyddiad cau statudol.  Mae cynghorau hefyd yn cyflwyno ffurflenni blynyddol anghyflawn neu rai sy'n cynnwys camgymeriadau syml.

Mae'r trefniadau llywodraethu o fewn cynghorau lleol hefyd yn amrywio. Canfu'r adroddiad fod nifer arwyddocaol ohonynt yn dangos diffyg dealltwriaeth o'r fframwaith llywodraethu y maen nhw'n gweithredu o'i fewn. Canfuwyd nad oedd pob cyngor yn cydymffurfio â'i gyfrifoldebau statudol, megis bod â thystiolaeth o god ymddygiad i aelodau neu fod â gwefan.

Daw ein hadroddiad i ben trwy bwysleisio'r prif themâu a fydd yn cael eu harchwilio'n fanylach mewn archwiliadau i ddod a'r gwaith mae angen i gynghorau wneud mwy ohono er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Bydd y prif feysydd yr edrychir arnynt yn cynnwys canolbwyntio ar lywodraethu a rheolaeth ariannol, edrych ar sut mae cynghorau'n rheoli cronfeydd wrth gefn a sut maen nhw'n cydymffurfio â'r rheolau statudol ar gyfer mathau penodol o wariant. Bydd hefyd ymgynghoriad ar astudiaeth genedlaethol yn cael ei chynnal hefyd a fydd yn edrych ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd archwiliadau mewnol o fewn y sector.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan-Thomas, heddiw: "Er bod cynghorau tref a chymuned wedi gwneud cynnydd o ran gwella'u trefniadau llywodraethu a rheoli, mae llawer yn methu â chyhoeddi eu cyfrifon blynyddol archwiliedig mewn modd amserol o hyd, ac mae gormod yn parhau i dderbyn safbwyntiau archwilio cymwys. Wrth i'w refeniw gynyddu, mae'n bwysig bod cynghorau'n gwella eu trefniadau llywodraethu, ac yn sicrhau bod eu haelodau'n mabwysiadu cod ymddygiad ac yn cydymffurfio ag ef, fel eu bod yn llwyr ddeall ac yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau statudol. ”

Local councils making progress in improving governance and management of public money

But there is further scope to develop more robust accountability arrangements

Local councils in Wales are managing increasing sums of public money and assets, and  in order for councils to manage these effectively, they need to improve the governance and  financial management arrangements they have in place. This is the overall conclusion of the Auditor General’s report on Financial Management and Governance in Local Councils 

This is the sixth annual report published by the Auditor General for Wales which looks at the financial management and governance of over 730 town and community councils across Wales.

The report also concludes that although there has been some improvement in governance arrangements, too many council are failing to comply with the statutory timetable for preparing accounts, as over 80 council failed to meet the statutory deadline for accounts in 2016-17.  Councils also frequently submit annual returns that are incomplete or contain simple errors.

Governance arrangements within local councils also vary. The report found that a significant numbers of them demonstrate a lack of understanding of the governance framework they operate in. Not all councils were found to be complying with their statutory responsibilities such as, having evidence of a code of conduct for members or having a website.

Our report concludes by highlighting the key themes that will be looked at more closely in future audits and the work that councils need to do more to make sure they are compliant with the regulations. The main areas that will be looked at, include focusing on financial management and governance, looking at how councils manage reserves and comply with statutory rules for certain types of expenditure. There will also be a consultation  on a national study which will access the adequacy and effectiveness of internal audit within the sector.

Auditor General, Huw Vaughan-Thomas said today: “Although town and community councils have made progress to improve their governance and management arrangements, many are still failing to publish their audited annual accounts in a timely way, and there are still too many receiving qualified audit opinions. As their revenues continue to increase, it important that councils improve their governance arrangements, and ensure their members adopt and comply with a code of conduct, so that they fully understand and comply with their statutory responsibilities. ”

Cyfrifon ariannol llywodraeth ganolog a llywodraeth leol 'wedi'u paratoi i safon dda'

Ond mae lle i wella'r trefniadau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol, ac i'r sector Llywodraeth Leol yn benodol ateb yr her sy'n gysylltiedig â dyddiadau cau cynharach. 

Mae ei adroddiad cyntaf yn canolbwyntio ar gyrff Llywodraeth Ganolog yng Nghymru. Daw'r adroddiad hwn i'r casgliad bod safon cyfrifon a phapurau gwaith ategol llywodraeth ganolog yn dda a bod pob corff wedi cyflwyno ei gyfrifon yn brydlon. Fodd bynnag, mae lle i wella trefniadau sicrhau ansawdd o hyd mewn rhai achosion. Mae'r ffaith bod prosesau sicrhau ansawdd cadarn ar waith yn bwysig wrth benderfynu ar ansawdd y cyfrifon a gyflwynir i'w harchwilio. Mae'r adroddiad yn nodi enghreifftiau o drefniadau sicrhau ansawdd da.

Daw ail adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, sy'n ymdrin â chyrff llywodraeth leol, i'r casgliad eu bod yn gwella ansawdd ac amseroldeb eu datganiadau ariannol blynyddol yn gyffredinol. Mae'r sector yn ymateb i'r her o fodloni terfynau amser cynharach ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol, ac mae llawer o gyrff eisoes yn gwneud cynnydd sylweddol o ran bodloni terfynau amser cynharach. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae angen gwneud mwy i fodloni'r terfynau amser cynharach a sicrhau ansawdd a chywirdeb y datganiadau ariannol.

Mae ein tîm Cyfnewidfa Arfer Da yn darparu cyfres o seminarau a gweminarau ar gau cyfrifon yn gynnar sy’n ddi-dâl. Ceir gwybodaeth a deunydd arlein i gynorthwyo cyrff cyhoeddus i fynd i’r afael â heriau o ran yr anghenion newydd.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: "Mae cyrff llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn parhau i wella'r ffordd y maent yn paratoi ac yn cyflwyno adroddiadau ar eu datganiadau ariannol. Mae hyn yn newyddion calonogol. Fodd bynnag, maent yn wynebu mwyfwy o heriau yn sgil newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru, pwysau economaidd parhaus a gofynion newydd ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol. Dyna pam ei bod hi'n bwysig bod y negeseuon yn fy adroddiadau yn cael eu hystyried – fel bod y sector cyhoeddus yn gallu cadw rheolaeth ar faterion ariannol yn ystod cyfnodau anodd."

Financial accounts in central and local government ‘prepared to a good standard’

But scope for improvement in financial reporting and for Local Government sector in-particular, to meet the challenge of earlier closure.

His first report focuses on Central Government bodies in Wales. It concludes that the standard of central government accounts and supporting working papers are good and all bodies submitted their accounts on time. However, there remains scope to improve quality assurance arrangements in some instances. Having robust quality assurance processes in place plays an important part in determining the quality of accounts submitted to audit. The report highlights examples of what good quality assurance looks like.

The Auditor General’s second report, on local government bodies, concludes that in general they are improving the quality and timeliness of their annual financial statements. The sector is rising to the challenge of meeting the shortened deadlines for financial reporting with many bodies already making significant progress to meeting the earlier deadlines. Over the next few years, more needs to be done to meet the earlier reporting deadlines whilst ensuring the quality and accuracy of the financial statements.

Our Good Practice Exchange team provide a series of free seminars and webinars on earlier closure. Information and materials are available online to help public bodies get to grips with the challenges of the new requirements. 

Auditor General, Huw Vaughan Thomas said: “Both central and local government bodies are continuing to improve the way they are preparing and reporting their financial statements. This is encouraging news. But the challenges they face are increasing – through legislative change in Wales, continued economic pressures and new financial reporting requirements. That’s why it’s so important that the messages in my reports today are heeded – so that the public sector can keep a close grip on financial management in tough times.”

Mae cynghorau yng Nghymru yn gwella eu cynllunio ariannol ar gyfer y tymor canolig

Ond mae rhai diffygion yn bygwth targedau arbed arian, meddai'r Archwilydd Cyffredinol

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi gwella eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig ac, erbyn hyn, mae ganddynt ddull effeithiol o ragamcanu yr arbedion y mae angen iddynt eu cyflawni. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu’r adroddiad hefyd fod gan gynghorau fwy i’w wneud i gynllunio'r modd y maent yn bwriadu pontio’r bwlch cyllid sydd wedi’i nodi ganddynt, sydd yn tanseilio eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig.

Mae’r adroddiad, Cynllunio Arbedion mewn Cynghorau yng Nghymru, yn dilyn gwaith blaenorol a wnaed yn 2015-2016 ac mae’n canolbwyntio ar y modd y mae cynghorau yn nodi, cynllunio ar gyfer, a chyflawni arbedion. Roedd hyn yn cynnwys archwilio trefniadau cynllunio ariannol cynghorau, i ba raddau y gwnaethant gyflawni eu cynlluniau arbed arian yn 2015-2016 a’r gwaith a wnaed i sicrhau cadernid eu dulliau ar gyfer 2016-2017.

Canfu’r adroddiad fod gan dros hanner y cynghorau gynlluniau arbed arian effeithiol sydd wedi eu hystyried yn dda ar gyfer 2016-17, ond nad oes gan y gweddill, a gallent fethu â chyflawni eu targedau arbed arian o fewn y flwyddyn. Roedd y prif reswm dros beidio â chyflawni cynlluniau arbed arian penodol yn ymwneud â thargedau arbed arian rhy uchelgeisiol nad oeddent wedi eu seilio ar gynlluniau cyflawni cadarn.

Yn ogystal, canfu’r adroddiad diweddaraf y canlynol:

  • Unwaith eto, cyflawnodd yr holl gynghorau gyllideb wedi’i mantoli, ond nid fel y’i cynlluniwyd o reidrwydd. Defnyddiodd y cynghorau amrywiaeth o ddulliau i fantoli eu cyllidebau, gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn, tanwariant mewn meysydd gwasanaeth eraill, ac incwm nas cynlluniwyd.
  • Gyda’i gilydd, roedd y cynghorau yn bwriadu arbed £251.6 miliwn yn 2015-16. Fodd bynnag, cyfanswm o £221.5 miliwn o arbedion a gyflawnwyd, sef (88%) o’r targed hwnnw.
  • Y cynigion gwella mwyaf cyffredin a nodwyd oedd annog cynghorau i sicrhau bod cynigion i arbed arian wedi eu datblygu’n llawn, wedi eu hasesu yn erbyn risg, ac yn cynnwys amserlenni cyflawni realistig cyn cael eu cynnwys yn y gyllideb flynyddol.

Mae’r adroddiad yn atgyfnerthu’r pryder, a godwyd mewn blynyddoedd blaenorol, bod methu â chyflawni arbedion ariannol o fewn y flwyddyn yn rhoi straen ar gyllidebau a allai fod yn anghynaladwy. Gan fod y rhan fwyaf o’r arbedion yn y dyfodol yn debygol o ddod o newidiadau i wasanaethau a ffyrdd newydd o weithio, sy’n anos eu cyflawni ac sy’n gofyn am fwy o amser rhagarweiniol, gall y sefyllfa hon waethygu ac amharu ar gydnerthedd ariannol y cynghorau yn y tymor hirach.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

“Yn gyffredinol, mae cynghorau yng Nghymru wedi llwyddo i leihau gwariant a mantoli eu cyllidebau yn unol â mesurau cyni ers 2010. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd maint y gostyngiadau mewn cyllidebau blynyddol yn parhau, felly rwy’n gobeithio y bydd y cynghorau yn ystyried yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn, a’r rhai a gynhwysir yn eu hadroddiadau lleol penodol, i gyflwyno cynigion arbed arian realistig a chadarn ac ymdopi â gostyngiadau parhaus mewn cyllid.”

Cofrestrwch i ymuno â gweminar ein tîm y Gyfnewidfa Arfer Da ar Feithrin Cydnerthedd Ariannol yn y Gwasanaethau Cyhoeddus ar 8 Awst [agorir mewn ffenest newydd].

Councils in Wales are improving their medium-term financial planning

But some shortcomings are threatening savings targets, says Auditor General

The majority of councils in Wales have improved their medium-term financial plans and now have an effective approach to forecasting the savings they need to achieve. That is according to a report, published today, by the Auditor general for Wales. It also found that there is still more for councils to do in planning how they intend to bridge the funding gap that they have identified, which undermines their medium-term financial plans.

The report, Savings Planning in Councils in Wales, follows up on earlier work conducted in 2015-2016 and focuses on how councils identify, plan for and deliver savings. This included examining councils’ financial planning arrangements, the extent to which they achieved their 2015-16 savings plans and the work undertaken to ensure robustness of their 2016-17 approach.

The report found that over half of councils have well-considered and effective savings plans for 2016-17, but the others do not, and they may fail to achieve their in-year savings targets. The main reason for non-achievement of specific savings plans related to over-ambitious savings targets which were not underpinned by robust delivery plans.

The latest report also found:

  • All councils again delivered a balanced budget in 2015-16, but not necessarily as planned. Councils used a variety of methods to balance their budgets which included use of reserves, underspends from within the other service areas, and unplanned income.
  • Collectively, councils planned to save £251.6 million in 2015-16. However the total amount saved amounted to £221.5 million, (88%) of that target.
  • The most frequently made proposals for improvement included encouraging councils to ensure savings proposals were fully developed, risk assessed and included realistic delivery timescales before inclusion in the annual budget.

The report reinforces the concern, raised in previous years, that failure to achieve planned in-year savings places a strain on budgets which may be unsustainable. With the majority of future savings likely to come from service change and new ways of working, which are harder to achieve and require longer lead-in times, this situation may worsen and compromise councils’ financial resilience in the longer term.

Auditor General, Huw Vaughan Thomas said today:

“Welsh councils have generally managed to reduce expenditure and balance their budgets in line with austerity measures since 2010. However, the scale of annual budget reductions is likely to continue, so I hope that councils will consider the recommendations laid out in this report, and those included in their specific local reports, to offer realistic and robust savings proposals and meet continued reductions in funding.”

Sign up to attend our Good Practice Exchange's webinar on Building Financial Resilience in Public Services on 8 August [opens in new window].