-
Lleoliad Gwaith Archwilio£19,370 per annum (pro rata)Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.Caerdydd
Ynglŷn â'r swydd hon
Ydych chi’n astudio ar gyfer cymhwyster cyllid neu gyfrifyddu achrededig ar hyn o bryd? A oes gennych chi ddiddordeb gwirioneddol yn y sector cyhoeddus? Hoffech chi gael profiad o weithio mewn amgylchedd archwilio allanol yn y sector cyhoeddus?
Os ydy’r ateb i’r cwestiynau hynny’n gadarnhaol; yna efallai mai ein swydd lleoliad gwaith yr ydych chi’n chwilio amdani. Gan ymuno â’n tîm archwilio ariannol byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth lawn i ennill profiad a gwneud gwaith yn ein harchwiliadau Llywodraeth Leol a Chynghorau Tref a Chymuned.
Er mwyn cyflawni anghenion y swydd byddwch yn unigolyn llawn cymhelliant a bydd gennych chi brofiad o weithredu fel rhan o dîm, gan hefyd gynnal berchnogaeth ar eich agweddau eich hun ar y gwaith. Bydd angen i chi allu dilyn prosesau clir a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Ar hyn o bryd, mae Archwilio Cymru yn gweithredu ffordd glyfrach o weithio, lle cewch gyfle i ymgymryd â gwaith yn ein swyddfeydd a thrwy weithio gartref. Byddwch yn cael yr holl offer TG gofynnol i’ch cefnogi i ymgymryd â’ch swydd a chyfnod ymsefydlu llawn wrth ymuno â ni.
Bydd y swydd yn dechrau ym mis Mehefin 2022 am gyfnod o 3 mis.
Gweithio i ni
Mae Archwilio Cymru yn lle hwyl a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn angerddol ynghylch gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a dros wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol. Yn Archwilio Cymru, mae ein pobl wir yn bwysig i ni ac rydym ni eisiau darparu amgylchedd sy’n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn gyflogwr Teuluoedd sy’n Gweithio balch ac mae gennym achrediad Cyflog Byw, mae ein lwfans gwyliau blynyddol hael, polisïau gweithio sy’n ystyriol o deuluoedd a hyblyg ond yn rhai o’r rhesymau pam ein bod yn lle gwych i weithio.
Rydym hefyd yn eiriolwyr dros ddatblygiad personol a phroffesiynol, a dyna pam yr ydym yn cynnig myrdd o gyfleoedd dysgu a datblygu, yn ogystal â darparu trwyddedau Dysgu LinkedIn i bob aelod o staff.
Rydym yn datblygu gweithlu amrywiol sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt a’r sgiliau, y profiadau a’r safbwyntiau y byddant yn eu cynnig ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Mwy o wybodaeth
Mae mwy o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a’r profiad y mae eu hangen ar gyfer y swydd yn y disgrifiad swydd. I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Lisa Williams ar 029 2032 0500.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos 12 Mehefin 2022.
Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso’r botwm parhau ar ôl cyflwyno’ch cais – pan fyddwch chi wedi gwneud hyn byddwch yn cael cydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi’i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â’n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwy HR.Recruitment@audit.wales
Mae Swyddfa Archwilio Cymru’n croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd, megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.
Mae Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg