Fel gweithiwr newydd byddwch yn derbyn rhaglen sefydlu drylwyr sydd wedi’i theilwra i gwrdd â’ch anghenion unigol er mwyn sicrhau eich bod yn cael dealltwriaeth glir o’r hyn a ddisgwylir. Ar eich diwrnod cyntaf byddwch yn cael sesiwn sefydlu corfforaethol ac yn dysgu am ein polisïau a'n gweithdrefnau, gan egluro telerau ac amodau cyflogaeth a'n disgwyliadau.
Byddwch yn cwblhau modiwlau e-ddysgu hanfodol megis iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd cyflwyniad hefyd i'r systemau TG y byddwch yn eu defnyddio fel rhan o'ch swydd. Bydd y maes busnes y byddwch yn gweithio ynddo yn darparu cyfnod sefydlu pwrpasol i chi wedi'i deilwra i ddiwallu'ch anghenion unigol.