Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ymrwymo i weithredu a chynnal Safonau Iaith [agorir mewn ffenest newydd]. Mae’r Safonau’n esbonio sut rydym yn defnyddio’r Gyrmaeg mewn gwahanol sefyllfaoedd a’r gweithgareddau a gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i’r cyhoedd, cyrff a archwilir, ein rhanddeiliaid a chyflogeion drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gellir dod o hyd i’n hysbysiadau cydymffurfio ar wefan Comisiynydd y Gymraeg:
Rydyn ni’n cyflogi Swyddog Iaith Gymraeg llawn amser, parhaol sy’n gyfrifol am hybu’r iaith o fewn ein sefydliad, sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg ac adrodd ar ein cynnydd i Gomisiynydd y Gymraeg bob blwyddyn.
Rydyn ni’n croesawu unrhyw sylwadau ar ein darpariaeth ddwyieithog a’n hymagwedd tuag at y Gymraeg. Fe allwch gysylltu â ni drwy e-bostio post@archwilio.cymru. Os yr hoffech gwyno am ein hymagwedd at y Gymraeg, darllenwch ein taflen wybodaeth ynglŷn â gwneud cwyn.
Fe allwch ddarllen mwy am ein trefniadau i gydymffurfio â’r Safonau drwy lawr lwytho ein dogfen ar drefniadau cydymffurfio [PDF 130KB agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch hefyd lawr lwytho ein hadroddiad diweddaraf ar weithrediad ein Safonau.