Rydyn ni’n gweithio i gefnogi’r Archwilydd Cyffredinol fel corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Ein nod yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus Cymru yn deall sut i wella canlyniadau.
Rydym yn gwneud trwy:
- Archwilio cyfrifon ariannol cyrff cyhoeddus
- Adrodd ar y modd mae gwasanaethau’n cael eu cyflenwi
- Asesu gwerth am arian
- Gwirio sut mae sefydliadau yn cynllunio a chyflawni gwelliannau
Rydym hefyd yn ymrwymo i nodi a rhannu arferion da, er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i gyflenwi gwasanaethau gwell.
Dysgwch am strwythur ein huwch dîm yn ein siart sefydliadol [PDF 75KB Agorir mewn ffenest newydd].