Pwy sy'n ein archwilio ni?

Er mwyn rhoi sicrwydd i drethdalwyr, rydym yn destun craffu annibynnol mewn nifer o ffyrdd.

Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru.

Bob blwyddyn, rydym yn cyflwyno amcangyfrif o incwm a chostau Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i’w cymeradwyo gan y Senedd Cymru.

Mae'r amcangyfrif diweddaraf o incwm a chostau, ynghyd ag adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol, ar gael o dan Ein Cynlluniau a Chyfrifon.