Tendrau a chontractau

Cyflenwi Archwilio Cymru

Mwy o wybodaeth am sut rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau a chynyddu eich siawns o wneud cais am waith.

Cyfleoedd contract

Mae ein cyfleoedd contract ar gael trwy GwerthwchiGymru, gwefan gaffael genedlaethol Cymru.

Mae GwerthwchiGymru yn cynnwys yr holl gyfleoedd contract a hysbysebir yn eang sydd uwchlaw ac oddi tan trothwyon yr UE. Mae ganddo hefyd gysylltiad uniongyrchol â'r Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr (FTS) lle mae'n rhaid cyhoeddi contractau sy'n uwch na throthwyon yr UE.

Rydym yn eich annog fel cyflenwr i gofrestru ar GwerthwchiGymru. Mae'r manteision yn cynnwys:

  • cofrestru am ddim a mynediad i'r safle
  • defnyddio Canfod Cyflenwyr, i hyrwyddo eich cwmni i brynwyr
  • rhybuddion e-bost am gyfleoedd sy'n cyfateb i'ch busnes
  • chwilio am hysbysiadau sector cyhoeddus ac is-gontractau
  • cyfleoedd i gysylltu â'r sector cyhoeddus a sefydliadau cofrestredig
  • mynediad at adnoddau i helpu i ddyfynnu a thendro.

Cofrestrwch yn ôl y categorïau sy'n berthnasol i'r nwyddau neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu cyflenwi, fel mai dim ond hysbysiadau am gyfleoedd contract sy'n berthnasol i'ch maes gwaith chi y byddwch chi'n eu derbyn.

Rhestr Contractau Cylchol

Mae ein Rhestr Contractau Cylchol yn nodi’r contractau hynny y mae Archwilio Cymru yn eu tendro'n rheolaidd. Mae'r rhestr yn nodi'r nwyddau, y cyflenwr/cyflenwyr presennol, y trefniant presennol a'r awdurdod contractio a dendrodd y cytundeb.

Telerau ac amodau ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau

Mae ein telerau ac amodau safonol yn berthnasol i bob contract ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i Archwilio Cymru. Gallwch ddarllen y telerau ac amodau hyn yn y ddogfen isod.

Gweld Telerau ac Amodau