Sefydliad agored a thryloyw

Rydym wedi ymrwymo i ddangos ein bod yn agored a dangos tryloywder yn y ffordd rydym yn gweithredu ein busnes a sut rydym yn cyfathrebu â'r cyhoedd.

Trefniadau ansawdd archwilio

Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau. Rydym wedi datblygu methodolegau archwilio i gydymffurfio â Safonau Rhyngwladol sy'n cael eu hystyried yn arfer proffesiynol gorau. 

Mae ein trefniadau ansawdd archwilio yn cyd-fynd â Safon Ryngwladol y Cyngor Adrodd Ariannol (FRC) ar Reoli Ansawdd 1 (yn dod i rym ar 15 Rhagfyr 2022).

Rydym wedi sefydlu polisïau a gweithdrefnau i gyflawni a monitro ansawdd archwilio yn barhaus. Mae Adroddiad Ansawdd Archwilio 2023 yn nodi:

  • Ein hymrwymiad i ansawdd; 
  • Y model tair llinell sicrwydd; a
  • Canlyniad ein trefniadau monitro ansawdd.

Polisi cyflogau a chyflogau uwch reolwyr

Mae ein Polisi Cyflog [agorir mewn ffenestr newydd] yn cwmpasu ein holl weithwyr.

Mae manylion am dâl ein prif reolwyr ar gael yn yr adroddiad taliadau o fewn yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon.

Gweler Hefyd: Graddfeydd ffioedd a gosod ffioedd