Yn 2016, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfres o dair astudiaeth ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yng Nghymru. Canolbwyntiodd yr astudiaethau ar y canlynol;
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u heffaith ar ymddygiadau sy'n niweidio iechyd ymhlith oedolion yng Nghymru [PDF 3.2MB Agorir mewn ffenest newydd]
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u cysylltiad â lles meddyliol ymhlith oedolion yng Nghymru [PDF 2.5MB Agorir mewn ffenest newydd]
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u cysylltiad â chlefyd cronig a defnydd o'r gwasanaeth iechyd ymhlith oedolion yng Nghymru [PDF 4.2MB Agorir mewn ffenest newydd]
Canfu'r astudiaethau'r canlynol;
- Mae oedolion yng Nghymru a gafodd eu cam-drin yn gorfforol neu'n rhywiol fel plant neu eu magu mewn cartrefi lle roedd trais domestig, alcohol neu gamddefnyddio cyffuriau yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiadau sy'n niweidio iechyd ac ymddygiadau gwrthgymdeithasol yn eu bywydau fel oedolion.
- Gellid lleihau nifer yr oedolion sy'n byw gyda lles meddyliol isel yng Nghymru fwy na chwarter (27%) os na fyddai unrhyw unigolion yng Nghymru yn cael eu hamlygu i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
- Mae'r rheini yng Nghymru sydd wedi dioddef pedwar profiad niweidiol yn ystod plentyndod neu fwy yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael diagnosis clefyd cronig yn nes ymlaen mewn bywyd o gymharu ag oedolion nad ydynt wedi profi dim.
Mae'n glir bod ataliaeth, ymyriad cynnar a chydweithio yn allweddol i dorri'r cylch. Mae angen i wasanaethau cyhoeddus nodi camau y gellid eu cymryd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru a thorri cylchoedd rhwng y cenedlaethau.
Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol, ac nid oes gan un sefydliad unigol yr atebion. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gofyn i sefydliadau ddefnyddio’r egwyddor datblygiad cynaliadwy i uchafu’u cyfraniad i’r saith nod llesiant. Mae gwneud hyn yn annog cyrff cyhoeddus i herio’u gweithrediadau, cydweithio, mabwysiadu diwylliannau gwahanol a defnyddio'r adnoddau sydd gennym ar y cyd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae'n hanfodol bod y pum ffordd o weithio yn cael eu cymhwyso ym mhopeth gwnânt.
At bwy cafodd y gweminar ei hanelu
Roedd y weminar hon wedi'i hanelu at bob corff cyhoeddus gan gynnwys y swyddogion canlynol;
- Cydgysylltwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus;
- Swyddogion sefydliadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, megis yr Heddweision; staff byrddau iechyd, swyddogion trydydd sector, gwasanaeth tân;
- Aelodau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus;
- Swyddogion sy’n gweithio o fewn cynllunio corfforaethol;
- Swyddogion sy’n gweithio mewn gwasanaethau llinell blaen eraill megis addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol.
Cyfryngau cymdeithasol
Storify [Agorir mewn ffenest newydd]