• Gweithio inni

Gweithio inni

Ein nod yw ein bod yn sefydliad atebol, uchel ei barch a redir yn dda, sy’n lle llawn hyder i weithio ynddo. Darganfyddwch sut rydym yn bwriadu cyflawni hyn yn ein strategaeth pobl.

Mae gennym hefyd set o werthoedd ac ymddygiadau wedi’i gynnwys yn ein Strategaeth Pobl sy'n llywio'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd. 
 
Ein Gwerthoedd:
  • Annibyniaeth
  • Blaengaredd
  • Cydweithio
  • Diffuantrwydd
  • Edrych i'r dyfodol
  • Tegwch
Ein ymddygiadau HYDERus:
  • Hyblyg
  • Yn Parchu’n Gilydd
  • Dibynadwy
  • Egnïol
  • Rhinweddol a didwyll

Buddion 

Wrth ddewis gweithio inni byddwch yn ymuno â sefydliad sy’n cynnig buddion sylweddol, cyfathrebu agored, arweinyddiaeth gref ac ymrwymiad i ddatblygiad cyflogeion. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y buddion a gynigir i bobl sy’n gweithio inni trwy ddarllen ein datganiad buddion [Agorir mewn ffenest newydd].

Gwelwch ein graddfa gyflog bresennol [Agorir mewn ffenest newydd], mae ein Polisi Tâl [PDF 252KB Agorir mewn ffenest newydd] yn berthnasol i’n holl weithwyr.

Sefydlu

Fel cyflogai newydd byddwch yn cael rhaglen sefydlu drylwyr sydd wedi’i theilwra i ddiwallu eich anghenion unigol i wneud yn siŵr eich bod yn cael dealltwriaeth eglur am yr hyn a ddisgwylir.

Ar eich diwrnod cyntaf byddwch yn cael sesiwn sefydlu gorfforaethol ac yn dysgu am ein polisïau a’n gweithdrefnau, gan gael eglurhad o’r telerau ac amodau cyflogaeth a’n disgwyliadau. 

Byddwch yn cwblhau’r modiwlau e-ddysgu hanfodol megis iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Bydd cyflwyniad hefyd i’r systemau TG y byddwch yn eu defnyddio fel rhan o’ch swydd.

Bydd y maes busnes y byddwch yn gweithio ynddo’n darparu sesiynau sefydlu pwrpasol ar eich cyfer a’r rheiny wedi’u teilwra i ddiwallu eich anghenion unigol.

Arfarniadau o Berfformiad

Mae gan y Cynllun Rheoli ac Arfarnu Perfformiad rôl allweddol bwysig yn ein strategaeth dysgu a datblygu. Mae 3 prif elfen allweddol i’r Cynllun:

  • Adolygu perfformiad
  • Cymorth
  • Datblygu

Caiff anghenion datblygu eu hadnabod trwy drafodaethau 1-i-1 rheolaidd gyda’ch rheolwr llinell. Lle mae anghenion datblygu wedi cael eu hadnabod, gall unigolion gofrestru ar gyfer cyrsiau hyfforddi trwy borth hunanwasanaeth ar-lein. Eich rheolwr llinell sy’n cymeradwyo’r holl geisiadau ar gyfer gweithgareddau dysgu a datblygu.  

Darperir gweithgareddau dysgu a datblygu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth, hyfforddiant desg, presenoldeb mewn cynadleddau ac e-ddysgu, gweminarau a chynadleddau. 

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy’n dysgu a chan hynny mae’n ofynnol i’r holl staff gwblhau log DPP. Mae staff yn rheoli eu log DPP trwy ein porth. Defnyddir y log hwn wedyn wrth gwblhau’r Cynllun Arfarnu Perfformiad. Gallwch gofnodi eich holl weithgareddau dysgu personol i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus ar eich log dysgu personol eich hun trwy’r porth hunanwasanaeth ar-lein i gyflogeion.

Cynllun datblygu personol

Bydd gennych hefyd gynllun datblygu personol y byddwch yn gallu ei adolygu a’i fonitro trwy’r porth hunanwasanaeth ar-lein i gyflogeion.

Cydraddoldeb a hawliau dynol

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd diogel a chynhwysol sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth pob unigolyn. Rydym yn cefnogi hawl pob un i gael ei drin ag urddas a pharch. Mae hyn yn wir o ran ein staff ein hunain a’r rheini yr ydym yn dod i gyswllt â nhw wrth wneud ein gwaith.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu ein ymrwymiad parhaus i gydraddoldeb a’n nodau perthnasol. Mae ein adroddiadau blynyddol ar y cynnydd a wnaed wrth gyflawni ein nodau cydraddoldeb ar gael o fewn yr adran Cyhoeddiadau.

Hyder Anabledd

Rydym wedi’n achredu fel cyflogwr lefel 2 y cynllun hyder anabledd [agorir mewn ffenest newydd]
 
Logo Hyder Anabledd


Gŵyl Gwobr Iris

Edrychwch ar ein fideo, a waned ar y cyd â Rhaglen Ymgysylltu Gŵyl Ffilm LHDT Iris, sy’n dilyn aelod staff ffuglennol newydd sy’n pendroni a fydd yn gallu bod yn agored am ei rywioldeb yn ei le gwaith newydd (Fideo Saesneg yn unig).

Hyrwyddwr Amrywiaeth o Stonewall y DU

Rydym ni'n aelod o Hyrwyddwyr Amrywiaeth o Stonewall y DU [agorir mewn ffenest newydd] ac rydym yn cymryd rhan yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithlu er mwyn i ni allu meincnodi ein trefniadau yn erbyn y 100 o gyflogwyr mwyaf cyfeillgar i bobl LHDT yn y DU. Darllenwch ein blog diweddaraf am fwy o wybodaeth [agorir mewn ffenest newydd].

Logo Hyrwyddwyr Amrywiaeth o Stonewall y DU