Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Adolygiad cenedlaethol yn amlygu cyfleoedd i gryfhau trefniadau llywodraethu ar draws Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru

25 Ebrill 2024
  • Mae atebolrwydd cyfyngedig ac anghysonderau o ran sut y caiff aelodau etholedig eu henwebu’n creu risg o danseilio llywodraethu da

    Er bod gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol fframwaith eglur i helpu i gyflawni eu swyddogaethau allweddol, mae cyfleoedd i gryfhau trefniadau llywodraethu.

     

    Mae gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol (APCau) orchwyl i warchod peth o dreftadaeth ddiwylliannol a rhai o gynefinoedd amgylcheddol pwysicaf Cymru. Mae ganddynt hefyd rôl allweddol yn ymateb ein gwlad i’r argyfwng hinsawdd. Eto, fel llawer o gyrff cyhoeddus, mae APCau yng Nghymru wedi wynebu cyllidebau gostyngol dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Ynghyd â galw cynyddol, mae’r pwysau a wynebir gan APCau yn amlygu pwysigrwydd llywodraethu da a gwerth am arian.

    Mae ein hadroddiad yn ystyried y model llywodraethu ar gyfer APCau a sut y caiff ei roi ar waith. Mae gan bob un o’r tri APC yng Nghymru 18 aelod. Caiff dwy ran o dair eu henwebu o’r awdurdodau unedol perthnasol ac fe gaiff traean o’r aelodau eu penodi gan Lywodraeth Cymru. Mae ein hadroddiad yn amlygu cyfleoedd i adlewyrchu natur arbenigol gwaith APCau yn well yn y ffordd y caiff aelodau etholedig eu dethol a’u cynorthwyo i wneud eu gwaith.

    Canfu ein hadroddiad hefyd ansicrwydd wrth ystyried i ba raddau y mae aelodau’n cael eu dwyn i gyfrif am eu cyfraniad at lywodraethu APCau. Mae trefniadau ffurfiol wedi’u sefydlu i oruchwylio eu hymddygiad; fodd bynnag, cyfyngedig yw’r trefniadau i werthuso cyfraniadau aelodau. Mae hyn yn golygu, er ei bod yn rôl y telir cydnabyddiaeth ariannol amdani, nad yw APCau yn gallu dangos y gwerth am arian a ddarperir trwy gyfraniadau aelodau.

    Mae’r adroddiad yn codi cwestiynau ynglŷn ag addasrwydd model llywodraethu APCau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried hyn yng nghyd-destun a graddfeydd amser ei hymrwymiad i ddynodi parc cenedlaethol newydd yng Nghymru. Mae’r model wedi’i fwriadu i gyfuno atebolrwydd democrataidd ag arbenigedd strategol a safbwyntiau cenedlaethol, ond mae gwendidau o ran y modd y caiff ei roi ar waith yn golygu nad yw cryfderau’r model ‘ar bapur’ wastad yn cael eu gwireddu’n ymarferol.

    Mae ein hadroddiad hefyd yn amlinellu argymhellion i APCau a Llywodraeth Cymru mewn pedwar maes allweddol:

    • Cynorthwyo aelodau i gyflawni eu rôl
    • Sicrhau bod enwebiadau ar gyfer aelodau’n cefnogi llywodraethu da
    • Gwella trefniadau atebolrwydd ar gyfer aelodau
    • Adolygu pa un a yw’r model yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd
    ,
    Efallai fod Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru’n gyrff bychain, ond mae ganddynt rôl allweddol o ran gwarchod yr amgylchedd a rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar Waith. Mae’r sefyllfa ariannol fwyfwy anodd sy’n wynebu cyrff cyhoeddus yn ei gwneud hi’n bwysicach byth bod gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol drefniadau llywodraethu da i’w helpu i gyflawni gwerth am arian. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Llywodraethu Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol

    View more