Am gael gyrfa sy’n cyfrif?

09 Tachwedd 2020
  • Ymgeisiwch i fod yn rhan o’n Rhaglen Archwilwyr dan Hyfforddiant 2015.

    Mae’r rhaglen ddwys, ond boddhaol, yma yn gofyn am chwaraewyr tîm craff, penderfynol, hunangymhellol a chreadigol i gyfrannu at ein sefydliad dynamig a blaengar. 

    Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu sgiliau newydd ac ennill gwybodaeth o amrywiaeth o waith archwilio yn ymwneud â thrawstoriad o gyrff cyhoeddus. Bydd hyfforddeion yn astudio tuag at gymhwyster cyfrifyddu proffesiynol ac aelodaeth gyda Sefydliad Siartredig Cyfrifyddion yn Lloegr a Chymru [Agorir mewn ffenest newydd].

    Mae’r cynllun yn hollbwysig i sicrhau’r genhedlaeth nesaf o archwilwyr ar draws Cymru a bydd yn ein galluogi ni i barhau â’n gwaith, fel corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru.

    Dyddiad cau: 31 Mawrth 2015

    Am fwy o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manyleb y swydd, y broses ddethol, neu i wneud cais ar-lein, ewch i’n porthol recriwtio [Agorir mewn ffenest newydd].