Deddf Newydd yn gwneud i’r Archwilydd Cyffredinol edrych tua’r dyfodol

09 Tachwedd 2020
  • Mae dyletswydd newydd ar yr Archwilydd Cyffredinol sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy.

    Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru bellach yn un o nifer fach o Archwilwyr Cyffredinol ar draws y byd sydd â dyletswydd statudol yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol heddiw.

    Mae’r ddeddf newydd yn pennu nodau tymor hir i Gymru ac mae sgwrs genedlaethol am flwyddyn ar ‘Y Gymru a garem’ wedi dylanwadu ar y rhain. Pan ddaw i rym, bydd y gyfraith newydd yn golygu bod rhaid i lawer o’r cyrff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i bobl ledled Cymru wneud hynny mewn ffordd sy’n rhoi ystyriaeth i arian, pobl a’u diwylliant, a’r blaned am y tro cyntaf. Hefyd bydd rhaid iddynt feddwl am effaith y penderfyniadau a wneir heddiw ar genedlaethau’r dyfodol.                                  

    Yn ogystal, mae’r gyfraith newydd yn dweud ei bod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio’n well; cynnwys pobl ac adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau; edrych ar y tymor hir yn ogystal â’r presennol a gweithredu er mwyn ceisio atal problemau rhag gwaethygu - neu eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf hyd yn oed.

    Dywedodd Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol:

    “Rydw i’n falch iawn bod Swyddfa Archwilio Cymru a minnau wedi cael rôl mor greiddiol mewn asesu’r gydymffurfiaeth â’r Ddeddf hon. Mae Cymru ar y blaen o ran ceisio creu diwylliant a chymdeithas sy’n gwerthfawrogi ei phobl, ei hunaniaeth a’r amgylchedd, nid dim ond ar gyfer nawr, ond i genedlaethau i ddod. Bydd y ddyletswydd newydd yma i mi’n helpu i sicrhau bod cyrff cyhoeddus Cymru’n canolbwyntio ar wneud penderfyniadau priodol am ein hadnoddau yng Nghymru, nawr ac ar gyfer y tymor hir hefyd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r cyrff cyhoeddus i ddatblygu dull o weithredu manwl, ystyrlon a chymesur mewn perthynas â’r gwaith yma.”

    Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol [Agorir mewn ffenest newydd] hefyd yn dweud ei bod yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol adrodd yn ôl ar i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus wedi rhoi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith fel a ganlyn:

    • yn eu dull o bennu eu hamcanion, ac
    • y camau maent yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny.   

    Mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol unwaith o leiaf ym mhob cylch etholiadol o bum mlynedd.