Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb

09 Tachwedd 2020
  • Yr adroddiad blynyddol cyntaf yn nodi camau cadarnhaol tuag at amgylchedd tecach i staff a rhanddeiliaid

    Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n nodi cynnydd Swyddfa Archwilio Cymru tuag at gydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb, a gyhoeddir heddiw, yn amlinellu'r camau a gymerwyd i gyflawni'r dyletswyddau cydraddoldeb statudol a gwneud egwyddorion cydraddoldeb yn rhan annatod o'r ffordd mae Swyddfa Archwilio Cymru'n gweithio.

    Mae prif gyflawniadau'r flwyddyn yn cynnwys lansio'r prosiect Cydymffurfio â Chydraddoldeb i helpu'r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y ddyletswydd gyffredinol, a sefydlu Grwp Llywio Cydraddoldeb i oruchwylio cyfeiriad cyffredinol y prosiect Cydymffurfio â Chydraddoldeb. Yn ogystal, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â staff ac undebau llafur i godi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf Cydraddoldeb, a chafwyd ymateb cadarnhaol gan staff ac yn allanol, gyda'r ymgyrch gyfathrebu fewnol a gynlluniwyd i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r gofynion ymysg staff yn cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) Cymru ym mis Tachwedd 2012.

    Datganiadau i'r wasg

    Yr adroddiad blynyddol cyntaf yn nodi camau cadarnhaol tuag at amgylchedd tecach i staff a rhanddeiliaid

    Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n nodi cynnydd Swyddfa Archwilio Cymru tuag at gydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb, a gyhoeddir heddiw, yn amlinellu'r camau a gymerwyd i gyflawni'r dyletswyddau cydraddoldeb statudol a gwneud egwyddorion cydraddoldeb yn rhan annatod o'r ffordd mae Swyddfa Archwilio Cymru'n gweithio.

    Mae prif gyflawniadau'r flwyddyn yn cynnwys lansio'r prosiect Cydymffurfio â Chydraddoldeb i helpu'r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y ddyletswydd gyffredinol, a sefydlu Grwp Llywio Cydraddoldeb i oruchwylio cyfeiriad cyffredinol y prosiect Cydymffurfio â Chydraddoldeb. Yn ogystal, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â staff ac undebau llafur i godi ymwybyddiaeth o'r Ddeddf Cydraddoldeb, a chafwyd ymateb cadarnhaol gan staff ac yn allanol, gyda'r ymgyrch gyfathrebu fewnol a gynlluniwyd i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r gofynion ymysg staff yn cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) Cymru ym mis Tachwedd 2012.

    Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn un o nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy'n cynnwys ystyriaethau cydraddoldeb wrth gynllunio eu polisïau a'u harferion o ganlyniad i Ddyletswydd Cydraddoldeb newydd y Sector Cyhoeddus a ddaeth i rym ar 5 Ebrill 2011.

    Cyflwynwyd y ddyletswydd i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai sy'n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallant gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach. Y gobaith yw y gellir gwneud hyn trwy ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd.


    Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

    Rwy'n hynod falch bod yr adolygiad hwn yn gallu adrodd ar gymaint o feysydd sy'n newid. Rydym yn gwneud cynnydd go iawn tuag at sicrhau bod y gwerthoedd a'r egwyddorion a amlinellir yn y ddyletswydd yn rhan annatod o ddiwylliant Swyddfa Archwilio Cymru ac mae gweld sut mae staff wedi ymateb i'r dyletswyddau newydd hyn yn galonogol tu hwnt.

    DIWEDD


    Nodiadau i Olygyddion:

    • Yr Archwilydd Cyffredinol a'r archwilwyr a benodir ganddo mewn llywodraeth leol yw archwilwyr allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Nhw sy'n gyfrifol am archwilio'n flynyddol y rhan fwyaf o'r arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £14 biliwn a ddyrennir yn flynyddol i Gymru gan Senedd San Steffan. Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo elfennau o'r arian hwn i'r GIG yng Nghymru (dros £5 biliwn) ac i lywodraeth leol (bron i £4 biliwn).
    • Nod Swyddfa Archwilio Cymru yw hyrwyddo gwelliant fel bod pobl Cymru'n elwa ar wasanaethau cyhoeddus atebol a reolir yn briodol sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae wedi ymrwymo hefyd i nodi a lledaenu arferion da ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru.