• Rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan
    £21,000
    Mae'r cyflog wrth apwyntiad o leiaf yr ystod
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ydych chi'n chwilio am ddewis amgen i'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes cyllid a chyfrifyddiaeth?

Yna edrychwch ar yr hyn sydd gan Raglen Prentisiaethau Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan i'w gynnig. Cymerwch ran mewn rhaglen brentisiaethau cyfnod penodol tair blynedd sy'n gweithio gyda'n timau ledled y Gogledd, i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau archwilio ac i helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus a'u gwella.

Beth yw rhaglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan?

Cael cymhwyster ariannol a chael dysgu am gyllid y sector cyhoeddus drwy'r rhaglen brentisiaethau.

Mae'r rhaglen cyfnod penodol tair blynedd yn cynnig hyfforddiant proffesiynol gyda Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) o lefel 2 hyd at lefel 4, wedi'i hategu gan hyfforddiant proffesiynol pellach.

Cewch gyfle unigryw i dreulio amser gyda chyrff partner eraill, gan brofi'r ystod lawn o swyddogaethau cyllid.

Pwy sy'n rhan o'r rhaglen?

Mae'r rhaglen brentisiaeth arloesol hon yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag aelodau o'r Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid (FSDG) , grŵp sector cyhoeddus Cymru gyfan gyda'r nod o gefnogi datblygiad arweinwyr cyllid ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Dysgwch fwy am raglen Prentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan ar ein gwefan.

Pam Archwilio Cymru?

Fel prentis yn Archwilio Cymru, byddwch yn rhan o dîm deinamig sy'n angerddol am ysbrydoli a grymuso sector cyhoeddus Cymru i wella. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu wrth i chi fynd, yn cefnogi archwiliadau ac yn magu hyder o ran sut i gynnal archwiliadau allanol.

Byddwch yn derbyn cefnogaeth a hyfforddiant drwy gydol eich prentisiaeth a mynediad at gyfleoedd datblygiad proffesiynol pellach. Mae ein rhaglen brentisiaethau hefyd yn darparu llwybr posibl i'n cynllun graddedigion.

Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag sy'n gweithio o fewn ein timau yn y Gogledd a’r De:

Ceir rhagor o fanylion am swydd, cymwyseddau a sut i wneud cais yn y pecyn recriwtio.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog pawb i wneud cais, gan gynnwys grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Morgan Vaughan at Morgan.Vaughan@archwilio.cymru

Dyddiad Cau

  • 04/04/2022
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy