Blaenraglen waith
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad yn cynnwys archwiliadau gwerth am arian, astudiaethau llywodraeth leol, a pharatoadau adroddiadau cryno o ganfyddiadau gwaith lleol ar draws sawl corff GIG, llywodraeth ganolog a/neu lywodraeth leol.
Mae'r rhaglen hon yn cyd-fynd â'n harchwiliad blynyddol o gyfrifon mewn dros 800 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a gwaith archwilio perfformiad lleol eraill mewn cyrff penodol.
Mae'n canolbwyntio ar bedair thema:
- mynd i'r afael ag anghydraddoldeb
- ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur
- cydnerthedd gwasanaeth a mynediad
- gwasanaethau cyhoeddus a reolir yn dda
Rydym yn parhau i adolygu'n blaenraglen yn rheolaidd, gan ystyried yr amgylchedd allanol sy'n esblygu, ein hadnoddau ein hunain a gallu cyrff archwiliedig i ymgysylltu â ni. Rydym yn cynnal digon o hyblygrwydd fel y gallwn ymateb yn effeithiol i faterion sy'n codi o bryder cyhoeddus neu seneddol. Gall allbynnau ychwanegol hefyd ddod i'r amlwg o waith ymchwil a datblygu parhaus. Mae'r dyddiadau'n ddangosol ac yn destun newid.
Gallwch weld ein hadroddiadau diweddaraf ar ein tudalen cyhoeddiadau.