• Technegydd Archwilio
    £27,024 - £32,739 (Band Cyflog 2)
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru

Rydym yn awyddus i recriwtio gweithiwr proffesiynol cyllid sy’n gymwys o ran AAT i weithio yn ein Huned Busnes, gan ategu rheoli gwybodaeth, cyllidebu, bilio ac adnoddau'r tîm Gwasanaethau Archwilio yn Archwilio Cymru.

Rydym yn chwilio am berson hynod frwdfrydig i fod yn rhan o'n tîm egnïol a gwydn.  Byddwch yn hyderus wrth berchen ar eich gwaith eich hun. Byddwch yn chwaraewr tîm, gyda lefelau uchel o sylw i fanylion, gyda phrofiad o gyfrifeg rheoli ac adrodd ochr yn ochr â hyder wrth ddelio â thasgau gweinyddol arferol. Bydd gennych sgiliau Microsoft rhagorol, yn benodol Excel.

Byddwch yn ymuno â grŵp o gyd-weithwyr proffesiynol sy’n meithrin ac yn ategu eu gilydd a fydd yn estyn cymorth i chi o ran y gwaith y gofynnir amdano yn y swydd.  Byddwch yn dal meysydd cyfrifoldeb allweddol ac fe gewch gymorth i gynyddu eich sgiliau a'ch hyder o fewn y maes archwilio cyfrifyddu er mwyn cyflawni eich nodau eich hun, a’r rhai sydd gan y tîm a'r sefydliad.

Bydd diwrnod arferol yn golygu eich bod yn gweithredu fel aelod allweddol o'r tîm sy'n ategu'r gwaith o gyflawni ystod o weithgareddau'r Uned Busnes, yn amrywio o ymholiadau sylfaenol mewnflwch e-bost i dadansoddi daenlenni a data mwy cymhleth.

Canfuwch fwy

Gallwch ddysgu mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. Am drafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, mae croeso i chi gysylltu â Victoria Roberts ar 029 2032 0500 neu Lisa Williams ar 029 2032 0561.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 6 Medi 2023. Sylwer: bydd proses ddethol dau gam ar gyfer y swydd hon. Yn dilyn rhagdybiaeth o'ch cais ar-lein bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad sy'n cynnwys cyfweliad panel ac asesiad ysgrifenedig. Caiff yr holl asesiadau a chyfweliadau eu cynnal yn bersonol yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Medi 2023.

Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwyAdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru

Dyddiad Cau

  • 06/09/2023
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy