• Rheolwr Prosiect Newid
    £41,484 - £48,155
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Cymru

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Ydych chi am ein helpu i gyflawni newid sefydliadol yn fwy effeithiol? Nod ein gwaith yw gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ac rydym yn chwilio am rywun i'n helpu ni i wella hefyd.

Rydym am benodi Rheolwr Prosiect Newid a fydd yn gyfrifol am ymgorffori newid a rhagoriaeth rheoli prosiect, trwy'r prosiectau y byddwch yn eu rheoli'n uniongyrchol a Rhaglen Newid Archwilio Cymru y byddwch yn dylanwadu arnynt. Mae hon yn rôl newydd sbon a byddwch yn helpu i wella aliniad prosiectau corfforaethol â'n huchelgeisiau strategol.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith a fydd yn cynnwys

- Rheoli prosiect un neu fwy o brosiectau penodol drwy gydol y cylch bywyd o syniad i wireddu'r manteision, er mwyn sicrhau bod amcanion a manteision busnes yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.

 -Cydweithio â gwasanaethau perthnasol Archwilio Cymru, datblygu achosion busnes rhagorol ar gyfer newid, gweithredu cynlluniau prosiect, amserlenni a chyllidebau o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod canlyniadau'r prosiect yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus o fewn cyfyngiadau amser a chyfyngiadau o ran ansawdd, ystyried yn llawn yr effeithiau a chwblhau asesiadau o barodrwydd busnes ar gyfer newid.

-Cefnogi'r cynllunio strategol ar brosiectau a rhaglenni i sicrhau bod portffolio cydlynol, cydlynus o newidiadau a fydd yn cyflawni amcanion strategol Archwilio Cymru.

 -Gweithredu fel arbenigwr pwnc ar gyfer rheoli prosiectau a newid, datblygu prosesau a'r diwylliant sy'n angenrheidiol i sefydlu Archwilio Cymru fel canolfan rhagoriaeth rheoli newid.

Cewch ragor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sy'n ofynnol yn y disgrifiad swydd. I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ffoniwch Ceri Hughes ar 029 20320627.

NODWCH: Bydd y ganolfan asesu yn cael ei rhedeg 10 or 11 Mawrth  2022

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.

Dyddiad Cau

  • 28/02/2022
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy