• Arbenigwr y Gyfraith a Moeseg (Swyddog Gwybodaeth)
    £41,484 (Audit Wales Band 4)
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Prif gyfrifoldebau:

  • sicrhau bod Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau fel rheolwyr data, gan gynnwys drwy ymdrin â cheisiadau gwrthrych am wybodaeth a helpu archwilwyr gyda gofynion diogelu data, e.e. hysbysiadau prosesu teg
  • ymdrin â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth a chynnal y cynllun cyhoeddi
  • gwaith polisi a datblygu deddfwriaethol, e.e., ymateb i ymgynghoriadau'r llywodraeth ar faterion sy'n berthnasol i archwilio'r sector cyhoeddus a llywodraethu gwybodaeth
  • helpu archwilwyr gydag ymholiadau am faterion cyfreithiol sy'n ymwneud ag archwilio, megis hawliau mynediad archwilio—gall hyn weithiau olygu cyfarwyddo cynghorwyr cyfreithiol allanol
  • rheoli mater arian o Gronfa Gyfunol Cymru

Y sgiliau a'r profiad allweddol sydd eu hangen:

  • Wedi'i addysgu i lefel gradd a chyda chymhwyster proffesiynol, e.e. cymhwyster diogelu data (Ymarferydd Diogelu Data BCS neu debyg), neu gymhwyster cyfreithiol perthnasol a/neu brofiad
  • Y gallu i gynllunio'n effeithiol a blaenoriaethu llwyth gwaith, a gweithio'n hyblyg i fodloni gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd
  • Y gallu i gynnal perthynas waith gadarnhaol gyda chydweithwyr mewnol ac allanol ar bob lefel, e.e., swyddogion y llywodraeth, cynghorwyr, aelodau o'r cyhoedd a staff Archwilio Cymru
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, e.e., i ddarparu cyngor clir
  • Dehongli a chymhwyso deddfwriaeth a chanllawiau yn ddibynadwy
  • Barn dda - y gallu i benderfynu ar gamau gweithredu priodol mewn sefyllfaoedd sensitif ac anodd
  • Y gallu i ddelio'n effeithiol â gofynion diogelu data ac yn ddelfrydol hefyd ofynion deddfwriaeth sy'n ymwneud ag un neu fwy o'r canlynol: rhyddid gwybodaeth, archwilio a gweinyddu cyhoeddus

DS: Ni ddisgwylir unrhyw brofiad na gwybodaeth flaenorol o reolaeth dros Gronfa Gyfunol Cymru. Mae'r gwaith hwn yn gofyn am sgiliau tebyg i'r rhai a grybwyllir uchod.

Wedi'i leoli yng Nghaerdydd ond gyda hyblygrwydd tebygol i weithio gartref am sawl diwrnod yr wythnos.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y disgrifiad swydd.  Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Martin Peters ar 029020 3205256

SYLWER: Bydd y ganolfan asesu yn cael ei rhedeg yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 16 Mai 2022.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Ddu, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.

Dyddiad Cau

  • 19/05/2022
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy