• Partner Datblygu Pobl a Sefydliad
    £38,280- £45,237 (band cyflog 3)
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Y Rôl

Yn Archwilio Cymru, rydym ni’n credu mai ein pobl yw ein hased mwyaf. Fel Partner Adnoddau Dynol, byddwch yn darparu mewnbwn strategol a gwasanaethau Adnoddau Dynol cyffredinol ymarferol ar gyfer cyflogeion Archwilio Cymru. Byddwch yn helpu i gyflawni Cynllun Strategol y Gweithlu, yn cefnogi ein cyflogeion, yn rhan o brosiectau traws-swyddogaethol ac yn darparu her adeiladol i randdeiliaid allweddol ar draws y sefydliad.

Y Tîm

Rydym yn dîm deinamig a chynhwysol, yn ymrwymedig i ragoriaeth a gwella’n barhaus. Er ein bod yn dîm bach rydym yn cwmpasu ystod o gyfrifoldebau sy’n ymwneud â phobl a’r gyflogres ac mae ein ffocws ar ganlyniadau. Rydym yn gweithio gartref ac yn ein swyddfa ganolog yng Nghaerdydd ac yn gweithio mewn ffordd hyblyg, a’n sefydliad wedi ennill statws ymhlith y 10 uchaf yn yr ymarfer meincnodi Teuluoedd sy’n Gweithio. Rydym yn ategu ac yn cefnogi ein gilydd i gyrraedd nodau ein tîm a’r sefydliad, gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd da.

Chi

Byddwch chi’n Bartner profiadol, cydnerth a rhagweithiol sydd â dealltwriaeth ragorol am bob agwedd ar bolisi, gofynion deddfwriaethol ac arfer gorau ym maes Adnoddau Dynol. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol. Byddwch yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu a datblygu eich hun ac eraill

Gweithio i ni

Mae Archwilio Cymru’n gyflogwr yn y sector cyhoeddus sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i Sector Cyhoeddus Cymru a chymunedau yng Nghymru, rydym yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o gefnogol.

Rydym yn Hyblyg – Rydym yn gweithio’n Ddoethach; gan ddarparu dewisiadau o ran sut, pryd a ble y mae unigolion a thimau’n gwneud eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi i wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg dan sylw gan eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny’n golygu cyfrifoldebau gofalu neu reoli anableddau.

Mae gennym Delerau Rhagorol - Mae gennym feddwl gwirioneddol fawr o’n pobl ac o ddarparu amgylchedd sy’n hybu cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith trwy ein hwythnos waith 35 awr, a’n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus). Gallwch hefyd brynu gwyliau blynyddol, ei werthu a’i roi yn y ‘banc’ i’ch galluogi i gael gwyliau estynedig.

Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl - Rydym o blaid datblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i wireddu eu dyheadau gyrfaol i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael a ategir gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig a di-strwythur. O’n cynllun mentora a choetsio llwyddiannus i’n trwyddedau LinkedIn Learning rydym yn rhoi’r cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy’n gweddu iddynt hwy.

Mae gennym Fuddion Rhagorol - Ochr yn ochr â’n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yr ystyrir ei fod yn un o’r cynlluniau gorau o ran cyfraddau cyfraniadau cyflogwr. Mae ein buddion ar gyfer staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i’r gwaith, disgowntiau siopa a’r opsiwn i gael cerbyd trwy gynllun prydlesu llesiannol a llawer mwy.

Rydym yn Falch o’n Hachrediad – Mae ein buddion a diwylliant rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd yn golygu ein bod yn falch o fod yn gyflogwr sydd ymhlith y Deg Uchaf yn yr ymarfer meincnodi Teuluoedd sy’n Gweithio ac rydym wedi ennill achrediad Cyflog Byw.

Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy’n cynrychioli’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt a’r sgiliau, y profiadau a’r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu cyfweld â’r holl ymgeiswyr anabl sy’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a’r profiad sy’n ofynnol ar gyfer y rôl yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Siobhan Cole ar 029 2032 0500.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar Dydd Mawrth 20fed o Awst 2024. Sylwer y bydd proses ddethol ac iddi ddau gam ar gyfer y swydd hon. Yn dilyn nithio eich cais ar-lein bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfranogi mewn asesiad a chyfweliad. Bydd yr holl asesiadau a chyfweliadau’n cael eu cynnal yn y cnawd yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd.

Sylwer nad ydym yn gallu noddi fisâu gwaith.

Dyddiad Cau

  • 27/08/2024
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy