• Uwch-gydlynydd Stiwdio
    £32,311 - £38,324
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

A ydych chi’n greadigol gyda dawn dylunio?

Ydych chi o hyd yn chwilio am ddulliau newydd i wella cyflawni gwasanaeth? Efallai mai CHI fydd ein Uwch-gydlynydd Stiwdio nesaf i ymuno â’n tîm cyfathrebu arobryn.

A chithau'n arweinydd creadigol, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein gwaith i drawsnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu. Byddwch yn cydlynu gweithgareddau ein swyddogaethau Cyhoeddi a Dylunio, gan reoli llif gwaith, galw ac ansawdd.

Bydd eich gwaith yn amrywiol, wrth i chi arwain, cymell ac ysbrydoli'r tîm stiwdio, ac annog y sefydliad i arloesi a chynyddu ei effaith. Os ydych yn chwaraewr tîm hyderus sy'n awyddus i ddefnyddio'ch sgiliau datrys problemau byddem wrth ein bod yn clywed gennych.

Cewch ragor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sy'n ofynnol yn y disgrifiad swydd. I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ffoniwch Claire Power ar 029 20320578.

NODWCH: Cynhelir y ganolfan asesu yn ystod yr wythnos yn dechrau 23 Mai 2022

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.

Dyddiad Cau

  • 10/05/2022
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy