Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hadroddiad ar y cyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn yr 14 o argymhellion gwreiddiol a wnaed yn ein hadroddiad ar y cyd yn 2019.
Ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom weithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) / Archwilio Cymru i gwblhau adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd a rheoli risg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Gwnaed hyn yn dilyn adroddiad gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, a nododd nifer o bryderon difrifol a methiannau mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth.
Gwnaethom 14 o argymhellion ar gyfer gwella’r trefniadau rheoli risg, y broses o ddelio â digwyddiadau, honiadau a chwynion (pryderon), diogelwch cleifion a diwylliant sefydliadol. Derbyniodd y Bwrdd Iechyd y canfyddiadau yn llawn, a dechreuodd ymateb i argymhellion yr adroddiad.
Mae ein hadroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn yr 14 o argymhellion gwreiddiol a wnaed yn ein hadroddiad.
Gwelsom fod y Bwrdd Iechyd yn gwneud cynnydd da i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn 2019, yn arbennig o ystyried yr heriau a wynebwyd wrth ymateb i’r pandemig.
Gwelsom gryn ymrwymiad, ysgogiad a brwdfrydedd gan y Bwrdd, ac awydd clir i wneud pethau'n iawn.
Er gwaethaf y cynnydd da rydym wedi ei gydnabod drwy ein hadroddiad dilynol, mae gwaith i'w wneud o hyd ym mhob un o'r meysydd lle nodwyd argymhellion yn 2019. Felly, mae pob un o'r argymhellion yn parhau ar agor.