Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae'r cyhoeddiad hwn yn edrych ar sut mae cynghorau'n diffinio eu gwasanaethau ac yn ceisio diogelu gwasanaethau hanfodol wrth ddelio â thoriadau ariannol.

    Canolbwyntiwyd ar sut mae cynghorau'n diffinio gwasanaethau, y systemau a'r prosesau y maent wedi'u defnyddio i adolygu gwasanaethau a pha mor gadarn yw'r rhain.

    ,
    Mae'r pandemig yn cynnig cyfle i ailbrisio swyddogaeth a gwerth llywodraeth leol.
    ,

    Mae cynghorau'n darparu gwasanaethau hanfodol sy'n amddiffyn pobl a chymunedau, ond maent wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran beth i'w ddiogelu wrth ymateb i dros ddegawd o lymder.

    Mae'r galw am rai gwasanaethau hanfodol yn parhau i gynyddu ac nid yw cynghorau'n hyderus y gallant barhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn wyneb y galw cynyddol a chymhleth hwn.

    Edrych i'r dyfodol

    Mae angen i gynghorau fanteisio ar y cyfle i adnewyddu, ailbrisio ac ailosod yr hyn y maent yn ei wneud a dysgu o'r pandemig er mwyn adeiladu dyfodol gwell.

    Mae cyfleoedd i gynghorau gynnwys dinasyddion yn y gwaith o lunio a rhedeg gwasanaethau eu hunain.

    Yr her i gynghorau lleol fydd cymhwyso'r gwersi a ddysgwyd o'r pandemig a'i ddefnyddio i fireinio, addasu a chyflawni gwelliannau pellach er mwyn creu newid cadarnhaol, a parhau i fod yn berthnasol i'w holl ddinasyddion.

     

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Profodd pandemig Covid-19 werth llywodraeth leol o ran amddiffyn pobl a chymunedau.

    View more
CAPTCHA