Cynllun Blynyddol 2024-25

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2024-25 sy'n amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf

Rydym yn falch i gyflwyno ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2024-25

Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu pwysau enfawr yn ariannol, o ran galw ac yn y gweithlu.

Er bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch sut i fynd i’r afael â’r heriau hynny, mae archwiliadau cyhoeddus annibynnol yn rhoi rhybudd cynnar o broblemau sy’n codi, yn amlygu cyfleoedd i wella gwerth am arian, ac yn cefnogi dulliau llywodraethu a rheoli ariannol da.

Mae’r Cynllun Blynyddol hwn yn disgrifio sut rydym yn bwriadu gwneud hynny yn y flwyddyn sydd i ddod, gan roi’r wybodaeth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, y Senedd, ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r dylanwadwyr ynghylch pa mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

Adrian Crompton Archwilydd Cyffredinol Cymru
Dr Ian J Rees Cadeirydd y Bwrdd

Ein diben

Rhoi sicrwydd

i bobl bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda

Esbonio

sut mae’r arian hwnnw’n cael ei wario

Ysbrydoli’r

sector cyhoeddus i wella

Ein gweledigaeth Cynyddu ein heffaith drwy:

Manteisio’n llawn ar ein safbwynt, ein harbenigedd a’n dyfnder unigryw ar fewnwelediad

Cryfhau ein safle fel llais awdurdodol, dibynadwy ac annibynnol

Cynyddu ein hamlygrwydd, dylanwad, a pherthnasedd

Bod yn sefydliad sy’n esiampl ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt

Meysydd pwyslais

Rhaglen archwilio strategol, ddeinamig o ansawdd uchel

Dull wedi’i dargedu ac sy’n cael effaith ar gyfathrebu a dylanwadu

Diwylliant a model gweithredu sy’n ein galluogi i ffynnu

Ein cynlluniau gwaith

Cyflawni archwiliadau

Byddwn yn darparu rhaglen gynhwysfawr ac effeithiol o waith archwilio, yn unol â phwerau a dyletswyddau statudol yr Archwilydd Cyffredinol.

Gweld mwy

Gwella busnes

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth tymor hwy, byddwn yn gweithredu ar draws cyfres o flaenoriaethau cynllunio busnes allweddol, yn unol â’n tri maes pwyslais.

Gweld mwy

Cyflawni archwiliadau

Byddwn yn darparu rhaglen gynhwysfawr ac effeithiol o waith archwilio, yn unol â phwerau a dyletswyddau statudol yr Archwilydd Cyffredinol.

Rydym yn ymgymryd â’n gwaith yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol a safonau cydnabyddedig eraill.

 

 

Ein busnes craidd

Gwneud gwaith archwilio lleol mewn dros 800 o gyrff cyhoeddus

Cyflwyno rhaglen o astudiaethau cenedlaethol

Ardystio cynlluniau grant gwerth bron i £1.5 biliwn

Cefnogi gwaith craffu effeithiol gan gynnwys gwaith pwyllgorau’r Senedd

Rhannu arferion da a’r hyn rydym yn ei ddysgu drwy archwilio i gefnogi’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir

Hwyluso’r gwaith o ganfod twyll a gwall drwy’r Fenter Twyll Genedlaethol

Lleol archwilio gwaith

Astudiaethau cenedlaethol

Byddwn yn cynnal rhaglen o astudiaethau cenedlaethol ac yn paratoi allbynnau ychwanegol yn amlygu themâu cyffredin o’n gwaith archwilio lleol.

Rydym yn adolygu ein blaenraglen yn rheolaidd, gan ystyried yr amgylchedd allanol esblygol, ein hadnoddau ein hunain a gallu cyrff archwiliedig i ymgysylltu â ni. Rydym yn sicrhau bod digon o hyblygrwydd fel y gallwn ymateb yn effeithiol i faterion sy’n dod i’r amlwg sy’n peri pryder i’r cyhoedd neu’r senedd. Gall allbynnau ychwanegol ddeillio hefyd o waith ymchwil a datblygu parhaus.

Mae blaenraglen ddangosol o astudiaethau cenedlaethol 2023-2026 yr Archwilydd Cyffredinol yn canolbwyntio ar bedair prif thema

Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb

Ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur

Cydnerthedd gwasanaeth a mynediad

Gwasanaethau cyhoeddus a reolir yn dda

Mwy o wybodaeth am ein gwaith Cyflawni Archwiliad

Mwy o wybodaeth am ein gwaith Cyflawni Archwiliad Mae fersiwn lawn ein Cynllun Blynyddol yn cynnwys mwy o fanylion am gyflawni ein gwaith archwilio gan gynnwys gwybodaeth am safonau archwilio ac esboniad o sut rydym yn dilyn y bunt gyhoeddus yng Nghymru. Defnyddiwch y botwm isod i lawrlwytho fersiwn PDF.

Gwella busnes

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth tymor hwy, byddwn yn gweithredu ar draws cyfres o flaenoriaethau cynllunio busnes allweddol, yn unol â’n tri maes pwyslais.

Rydym hefyd wedi nodi cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol i fesur ein cynnydd.

Rhaglen archwilio strategol, ddeinamig o ansawdd uchel

Dull wedi’i dargedu ac sy’n cael effaith ar gyfathrebu a dylanwadu

Diwylliant a model gweithredu sy’n ein galluogi i ffynnu

Lawrlwythwch y fersiwn llawn o'r Cynllun Blynyddol

Mae fersiwn lawn ein Cynllun Blynyddol yn cynnwys mwy o fanylion am gyflawni ein gwaith archwilio a blaenoriaethau busnes gan gynnwys gwybodaeth am ein hamgylchedd gweithredu, meysydd risg allweddol, cyllid a sut rydym yn dilyn y bunt gyhoeddus yng Nghymru. Defnyddiwch y botwm isod i lawrlwytho fersiwn PDF.