Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Rhagair

  • Rydym yn falch i gyflwyno ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2024-25

    Mae’r Cynllun hwn yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf, o ran ein gwaith archwilio a’r ffordd rydym yn gweithredu fel busnes yng nghyd-destun ein strategaeth bum mlynedd gyffredinol. Caiff ei lywio gan yr adborth a gawsom yn ddiweddar drwy arolwg o ystod eang o randdeiliaid ar werth ac effaith ein gwaith.

    Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu pwysau enfawr yn ariannol, o ran galw ac yn y gweithlu. Er bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch sut i fynd i’r afael â’r heriau hynny, mae archwiliadau cyhoeddus annibynnol yn rhoi rhybudd cynnar o broblemau sy’n codi, yn amlygu cyfleoedd i wella gwerth am arian, ac yn cefnogi dulliau llywodraethu a rheoli ariannol da.

    Mae’r Cynllun Blynyddol hwn yn disgrifio sut rydym yn bwriadu gwneud hynny yn y flwyddyn sydd i ddod, gan roi’r wybodaeth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, y Senedd, ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r dylanwadwyr ynghylch pa mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. Mae maes mwyaf ein gwaith yn ymwneud ag archwilio cyfrifon dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru.

    Drwy gyfnod pandemig COVID-19, dirywiodd ein prydlondeb wrth gyflawni’r gwaith hwn. Bydd hi’n cymryd sawl blwyddyn i’r rhaglen waith fawr honno ddychwelyd i’r amserlenni a fodolai cyn y pandemig, ond rydym yn benderfynol o wneud hynny.

    Yn 2024-25, ein nod yw parhau â’r cynnydd a wnaed y llynedd i ddwyn ymlaen y terfynau amser adrodd ar gyfer ein gwaith archwilio cyfrifon. tudalen 6 Cynllun Blynyddol 2024-25 Ein nod hefyd yw gwella amseroldeb y gwaith archwilio perfformiad a gyflawnir gennym mewn cyrff GIG a llywodraeth leol unigol. Gyda llinynnau pwrs y wlad mor dynn, mae’n bwysicach nag erioed cael gwerth am arian o bob punt o wariant cyhoeddus.

    Felly, yn ein rhaglenni astudiaethau lleol a chenedlaethol, ein nod yw canolbwyntio’n fanylach ar werth am arian drwy ddadansoddiad ariannol a chanlyniadau cryfach. Ni ellir cyflawni unrhyw un o’n hamcanion ar gyfer archwilio cyhoeddus o ansawdd uchel heb ein staff. Dros y flwyddyn sydd i ddod, ein nod yw cryfhau ein cynlluniau prentisiaid a hyfforddeion sydd eisoes yn llwyddiannus er mwyn meithrin sgiliau a gwydnwch ar gyfer y dyfodol.

    Byddwn yn parhau i ddarparu cynnig cyflogaeth rhagorol, hyblyg sy’n cefnogi llesiant cyflogeion, ac amgylchedd gwaith sy’n annog cydweithio a gwaith o ansawdd uchel. Gan ein bod yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb i rannau eraill o’r sector cyhoeddus i gadw ein costau gweithredu ein hunain, rydym wedi gosod targedau arbedion heriol ar gyfer 2024-25. Fel rydym yn ei wneud bob blwyddyn, rydym hefyd wedi adolygu ein fframwaith o ddangosyddion perfformiad allweddol a thargedau cysylltiedig, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gwbl gyson â’n hamcanion a’u bod yn ddigon heriol.