Ein Strategaeth 2022-27
Mae ein diben wrth wraidd popeth a wnawn yn Archwilio Cymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd y ffordd yr ydym yn cyflawni hyn yn esblygu i adlewyrchu'r heriau sylweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus heddiw
Ein diben
- Rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda
- Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl
- Ysbrydoli a grymuso sector cyhoeddus Cymru i wella.
Mae ein diben wrth wraidd popeth a wnawn yn Archwilio Cymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd y ffordd yr ydym yn cyflawni hyn yn esblygu i adlewyrchu'r heriau sylweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus heddiw.
Ein gweledigaeth strategol
Ein gweledigaeth yw i Archwilio Cymru gynyddu ein heffaith drwy:
- Fanteisio'n llawn ar ein persbectif, ein harbenigedd a'n dyfnder mewnwelediad unigryw
- Cryfhau ein sefyllfa fel llais awdurdodol, dibynadwy ac annibynnol
- Cynyddu ein gwelededd, ein dylanwad a'n perthnasedd
- Bod yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Heriau a chyfleoedd
Ar ôl cyfnod hir o lymder ac effaith economaidd a chymdeithasol pandemig Covid-19, ni fydd y blynyddoedd nesaf yn cynnig fawr o seibiant ar gyfer cyllid cyhoeddus estynedig.
Mae llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw – anghydraddoldeb, iechyd y cyhoedd a'r argyfwng hinsawdd – yn gymhleth ac yn gydgysylltiedig a bydd ein ffocws archwilio yn esblygu i adlewyrchu hyn.
Caiff ein rhaglen waith ei llunio gan dri thueddiad a nodwyd yn ein dadansoddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus:
Byd sy'n newid
- newid yn yr hinsawdd: sicrhau pontio teg a chyfiawr
- cydraddoldebau: ymateb i'r galw am gymdeithas decach a mwy cyfartal
- cyfansoddiad: rheoli cyfleoedd a risgiau perthnasoedd newydd o fewn y DU
Y pandemig
- costau uniongyrchol ymateb
- ergyd economaidd yn taro ar gyllid cyhoeddus
- costau etifeddol effeithiau hirdymor
Trawsnewid y modd y darperir gwasanaethau
- systemau a diwylliant i gefnogi dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau.
- cydweithio pwrpasol.
- cynllunio ac atal tymor hir
- defnyddio technoleg lle bo'n briodol
- defnyddio data i ddysgu ar draws y system gyfan
Sylfeini
Rydym wedi nodi tri maes lle byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu i gyflawni ein huchelgeisiau, ochr yn ochr â chyflawni ein cyfrifoldebau statudol craidd.
- rhaglen archwilio strategol, ddeinamig ac o ansawdd uchel;
- datblygu dull wedi'i dargedu ac effeithiol o ran cyfathrebu a dylanwadu
- model diwylliant a gweithredu sy'n ein galluogi i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.
Cyflawni
Darllenwch ein Strategaeth Pum Mlynedd.
Mae ein cynlluniau blynyddol yn nodi'n fanwl y gwaith y byddwn yn ei wneud i gyflawni ein strategaeth yn 2022/23