Prentisiaethau: pam nad Prifysgol yw eich unig ddewis

10 Chwefror 2021
  • Myfyrio

    Yn rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (8-14 Chwefror) [agorir mewn ffenest newydd], rwyf i wedi bod yn myfyrio ar fy amser yn Brentis Dadansoddeg Data yma yn Archwilio Cymru ac, yn fwy penodol, sut yr oedd fy mhrentisiaeth yn gam enfawr tuag at ble yr wyf i heddiw.

    Edrych yn ôl

    I egluro hyn yn fanylach, bydd yn rhaid i ni fynd yn ôl i fis Medi 2014 (y dyddiau da cyn COVID!). Roeddwn i’n lasfyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, ar fin dechrau cwrs gradd pedair blynedd mewn Seicoleg. Er fy mod i wrth fy modd gyda fy annibyniaeth newydd a’r gwersi mawr a ddaeth yn sgil byw gyda deg o bobl ifanc eraill 18 oed, ni faswn i’n dweud y gwir pe bawn i’n honni fy mod i wedi mwynhau’r cyfan. Fe wnaeth yr holl symud yn ôl ac ymlaen rhwng neuaddau a fy nhref enedigol yn Cheltenham rhwng pob semester, ac wedyn newid llety rhent prifysgol bob blwyddyn fy ngadael i’n teimlo’n ansicr iawn. Gall cyflwr llety myfyrwyr sy’n rhentu yn Cathays fod yn ofnadwy hefyd… ond gallai’r sefyllfa honno gyfiawnhau blog yn ei rhinwedd ei hun!

    Yn ddiweddarach

    Wrth symud ymlaen i 2018, graddiais o’r diwedd ac roeddwn i’n awyddus i archwilio fy newisiadau ar gyfer y camau nesaf. Nid oedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud ond roeddwn i’n gwybod bod gen i angerdd am ddata ac ystadegau ac efallai nad oedd rhan ohonof i’n barod i roi’r gorau i ddysgu. Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr (neu ffawd, fel yr wyf i’n hoffi meddwl amdano!), roedd cariad un o’r merched roeddwn i’n byw gyda hi yn gweithio yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y pryd, ac awgrymodd fy mod i’n gwneud cais.

    Erbyn hyn, mae’n debyg eich bod yn meddwl fy mod i wedi ysgrifennu’r sefydliad anghywir ond gan bwyll, bydd hyn yn gwneud synnwyr cyn bo hir!

    Ar ôl ychydig wythnosau o edrych ar hysbysebion swyddi, des i o hyd i hysbyseb am Brentisiaethau Dadansoddeg Data.

    Rhagor o ddysgu? Tic!

    Dysgu yn y gwaith? Tic!

    Diwrnodau strwythuredig gan weithio yn ystod oriau swyddfa? Tic!

    Dysgu sgiliau newydd mewn maes y mae gen i ddiddordeb mawr ynddo? Tic!

    Tic, tic, tic, tic a thic!!

    Yn ddiweddarach eto

    Ymlaen i fis Medi 2018, ar ôl cwblhau’r broses recriwtio ar y cyd a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Archwilio Cymru (Swyddfa Archwilio Cymru bryd hynny), cefais gynnig swydd.

    Roeddwn i’n teimlo ar unwaith fod cyfuniad gwaith/coleg y brentisiaeth yn fwy addas i fy arddull i o ddysgu a fy mhersonoliaeth i na bod yn y Brifysgol. Des i i’r arfer â gweithio 9 tan 5 yn rhwydd ac roeddwn i wrth fy modd â’r diwrnodau a neilltuwyd ar gyfer mynd i’r coleg (unwaith y pythefnos). Sylweddolais i’n gyflym mai un o fanteision mwyaf arwyddocaol y brentisiaeth oedd gallu cymhwyso fy nysg ffurfiol drwy gydol fy swydd yn Archwilio Cymru. Roeddwn i’n gallu ennill sgiliau newydd a gweithio mewn swydd yr oeddwn i’n dwlu arni. O’r diwedd, roedd i fy nysg oblygiadau yn y byd go iawn.

    Ymgartrefu

    Wrth i mi ymgartrefu yn y swydd, sylwais hefyd ar y gwahaniaeth amlwg o ran faint o gymorth yr oeddwn i’n ei gael o’i gymharu â chael addysg mewn Prifysgol. Pan oeddwn i yn y Brifysgol, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael tiwtoriaid anhygoel, ond roedd lefel y gefnogaeth a gefais gan diwtoriaid coleg a chydweithwyr yn ystod fy mhrentisiaeth heb ei hail. Roedd y ‘bonws’ ychwanegol o gael cydweithwyr sy’n wybodus yn y meysydd yr oeddwn i’n gwella fy sgiliau ynddyn nhw yn caniatáu i mi ddysgu hyd yn oed yn gyflymach.

    Rhwyddineb prentisiaeth

    Yn olaf, mantais enfawr arall i brentisiaethau yw pa mor rhwydd yw cael gafael ar un. Yn aml, mae angen benthyciadau myfyrwyr a gofynion mynediad llym ar gyfer llwybrau addysgol eraill, ond mae prentisiaethau’n caniatáu i bobl nad oes ganddyn nhw lawer o brofiad, os o gwbl, mewn maes penodol ennill cymwysterau a phrofiad gwaith. Mae llawer o swyddi lefel mynediad mewn dadansoddeg data, a meysydd eraill, yn gofyn am gymwysterau ar lefel gradd neu brofiad gwaith perthnasol o leiaf ac felly, heb brentisiaethau, ni fyddwn i byth wedi cael y cyfle i ddysgu ac i dyfu mewn maes yr wyf i’n dwlu arno erbyn hyn.

    Dewis arall yn lle prifysgol, neu newid gyrfa

    Ni faswn i byth yn darbwyllo pobl rhag mynd i’r brifysgol ond rwy’n gobeithio bod y blog hwn yn hybu’r syniad bod llawer mwy o ddewisiadau addysg bellach nag a fu erioed. Os, am ba reswm bynnag, ydych chi’n teimlo nad prifysgol yw’r lle gorau i chi neu os ydych chi eisoes wedi gwneud cwrs gradd ond yr hoffech newid gyrfa, ni allwn i argymell prentisiaethau ddigon!

    Ynglŷn â’r awdur

    Rachel Brown

    Mae Rachel Brown wrth ei bodd yn treulio amser yn yr awyr agored ac yn herio ei hun i wneud pethau newydd. Ymunodd ag Archwilio Cymru ar ôl gorffen ei Gradd Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ddiweddar cwblhaodd gymhwyster prentisiaeth mewn Dadansoddeg Data. Llwyddodd Rachel i sicrhau swydd fel Swyddog Dadansoddi Data yn Archwilio Cymru ar ôl ei phrentisiaeth ac mae'n dal i fwynhau gallu dysgu yn y swydd bob dydd mewn gyrfa y mae hi'n dwlu arni!