A all awdurdodau cynllunio lleol sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru?

05 Tachwedd 2020
  • Dyfodol uchelgeisiol?

    Yn dilyn refferendwm ar bwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2011, fe bleidleisiodd pobl Cymru o blaid caniatáu pwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fyddai’n ei alluogi i ddeddfu yng Nghymru mewn meysydd datganoledig. Mae’r penderfyniad pwysig hwn wedi arwain at ddeddfwriaeth arwyddocaol wrth i’r wlad gychwyn ar daith tuag at ddyfodol unigryw ‘Gymreig’. Yn ganolog i’r cyfeiriad newydd hwn fu dwy ddeddf sy’n torri tir newydd: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

    Efallai nad yw’n amlwg, ond mae’r ddwy ddeddf hon yn gysylltiedig â’i gilydd yn y bôn. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi’i bwriadu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru trwy osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i feddwl mewn ffordd fwy cynaliadwy a hirdymor. Mae’r Ddeddf yn sefydlu naw nod llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i’w cyrraedd a’u cymryd i ystyriaeth ar draws eu holl brosesau penderfynu.

    Mae’r Ddeddf Cynllunio (Cymru) yn cyd-fynd yn dda â’r weledigaeth gynaliadwy fwy hirdymor hon ar gyfer y wlad. Mae awdurdodau cynllunio lleol yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at gefnogi datblygiad cartrefi newydd, gwarchod asedau naturiol, creu cyfleoedd cyflogaeth, gorfodi safonau dylunio uchel a gwella’r seilwaith sy’n gallu gwneud i bethau weithio’n dda. Felly mae’r penderfyniadau a wneir gan awdurdodau cynllunio lleol yn effeithio’n uniongyrchol ar bawb ohonom, ein hansawdd bywyd a’n llesiant.

    Mae’n gynnar, ond…

    Gyda’r ffocws pwysig hwn mewn golwg y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi cwblhau ei adolygiad yn ddiweddar o’r cynnydd gan awdurdodau cynllunio lleol o ran cyflawni eu cyfrifoldebau newydd a pha mor dda y mae eu gwaith wedi’i integreiddio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn ei hategu.

    Canfuom fod cynllunio’n gymhleth ac yn aml-haen gydag ystod o ddylanwadau a gofynion sy’n cystadlu â’i gilydd. Yn aml mae cynllunwyr yng nghanol y ‘storm’ hon a hwythau’n gorfod rheoli disgwyliadau wrth bennu blaenoriaethau a phenderfynu ar geisiadau. Yn bwysig, mae rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi cynllunio ond maent yn pryderu bod gan awdurdodau ddiffyg uchelgais ac nad ydynt yn dda am ymgysylltu â hwy a’u cynnwys.

    Nid yw’r gwaith pwysig ym maes cynllunio’n cael ei helpu gan gapasiti annigonol ac adnoddau sy’n mynd yn llai. Mae cyllidebau wedi cael eu torri yn y 10 mlynedd ddiwethaf gan ostwng 50%. Fodd bynnag, er y cwtogi a fu ar eu cyllidebau, nid yw cost cyflawni gweithgarwch rheoli datblygu a rheoli adeiladu yn cael ei hadlewyrchu yn y ffioedd a godir gan awdurdodau ac mae awdurdodau’n dal i ddarparu cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau. Hefyd, mae’n wir at ei gilydd na fanteisiwyd ar gyfleoedd i wella cydnerthedd trwy gydweithio neu integreiddio gwasanaethau.

    Er bod y ddwy Ddeddf yn canolbwyntio ar greu dyfodol cryfach, ffyniannus a chynaliadwy i Gymru, canfuom fod prosesau penderfynu, a blaenoriaethu, yn amrywio’n eang a’u bod yn rhy anghyson i gynyddu manteision y ddeddfwriaeth i’r eithaf. Mae ffocws ac ansawdd prosesau penderfynu Pwyllgorau Cynllunio’n amrywio’n eang. Ar y cyfan, mae lefel yr argymhellion gan swyddogion sy’n cael eu gwrthdroi gan Aelodau’r Pwyllgorau’n dal i fod yn uchel ac mae perfformiad o ran penderfynu ar geisiadau cynllunio’n wael. Daethom i’r casgliad bod angen rhagor o waith i integreiddio a gwireddu uchelgeisiau’r Ddeddf Cynllunio (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Ble nesaf?

    Mae ein hadroddiad yn atgyfnerthu pwysigrwydd cynllunio i bawb ohonom, ond mae hefyd yn amlygu bod tipyn o ffordd i fynd o hyd. Nid yw hynny’n syndod o ystyried her taro cydbwysedd rhwng ffocws hirdymor ar genedlaethau’r dyfodol ar y naill law ac effaith uniongyrchol cyni cyllidol ar gyllid cyhoeddus ar y llaw arall. Ac mae hyn wrth graidd yr anawsterau sy’n wynebu awdurdodau cynllunio lleol. Maent yn cael eu tynnu mewn gwahanol gyfeiriadau, gan wahanol leisiau a safbwyntiau. Mae’n rhaid iddynt bennu gweledigaeth dros gyfnod o 15 i 20 mlynedd ar gyfer ardal gan sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau unigol yn effeithlon ac yn effeithiol.

    Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae dinasyddion a rhanddeiliaid yn cymeradwyo ac yn cefnogi’r ffaith mai awdurdodau cynllunio lleol sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch defnydd tir yn y dyfodol. Ydynt, maent am i gynllunwyr wella’u dull o weithio a dod yn fwy arloesol a chreadigol. Oes, mae arnynt eisiau gwasanaethau sy’n gyson, yn ymatebol, yn effeithlon ac yn effeithiol. Ond yn bwysig, maent hefyd yn cydnabod pwysigrwydd canolog effaith fwy cadarnhaol gan awdurdodau cynllunio ar y cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.

    A all awdurdodau cynllunio ymateb i’r her? Gallant, heb os nac oni bai.

    A fyddant yn ymateb i’r her? Mae hynny’n anodd i’w ragweld, ond er mwyn ein dyfodol ni i gyd, gobeithio y byddant.

    Nick Selwyn

     

    Nick Selwyn

    Rheolwr Llywodraeth Leol yn Swyddfa Archwilio Cymru yw Nick Selwyn, a chanddo gyfrifoldebau am ein rhaglen o astudiaethau llywodraeth leol Cymru gyfan. Cyn ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru 15 mlynedd yn ôl, bu’n gweithio i nifer o awdurdodau lleol ym meysydd tai a gofal cymdeithasol ac mae’n un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig.