Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Lle GWYCH i weithio! Nid dim ond llinell slic yw hon – mae’n ymrwymiad gwirioneddol i bawb sy’n gweithio yma yn Swyddfa Archwilio Cymru a phawb sydd eisiau gweithio yma.
Nid robotiaid mohonom ni; rydym ni’n dîm o 250 o unigolion unigryw. Mae gan bob un ohonom ni wahanol gymhellion, gwahanol hoff a chasbethau, gwahanol farn ar yr hyn sy’n bwysig mewn bywyd, a gwahanol ddyheadau ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gweithio mewn gwahanol rannau o Gymru, ledled Cymru ac weithiau y tu hwnt i Gymru hefyd. O ystyried yr holl wahaniaethau hyn, beth sy’n ein huno ni fel tîm? Wel, ein gweledigaeth ni – bod pobl Cymru yn ymddiried ynom ni, bod cyrff cyhoeddus yn gwerthfawrogi ein gwaith a bod ein pobl yn rhagori.
Mae’n dipyn o ymrwymiad i fod yn lle GWYCH i weithio ynddo. Ac rydym ni’n gwybod bod rhai heriau i ni wrth wneud hynny. Rydym ni wedi gwneud hyn oherwydd yr unig ffordd y gallwn ni gyflawni ein gweledigaeth yw trwy ein tîm anhygoel o bobl broffesiynol sy’n gweithio’n galed. Yr unig ffordd y gall ein pobl ragori, fod wedi eu cymell i weithio’n galed a gwneud gwahaniaeth, yw ein bod ni yn darparu’r amgylchedd iawn iddynt weithio ynddo. Ac mae hynny’n golygu’r amgylchedd cywir ar gyfer eu hanghenion unigol, nid un dull ar gyfer pawb. Rydym yn gwybod, o’n gwaith gyda Stonewall, fod pawb yn gweithio ar eu gorau pan fyddant yn cael bod yn nhw eu hunain mewn amgylchedd cefnogol a chalonogol.
Caiff ein huchelgais i fod yn “Lle GWYCH i weithio ynddo” ei grisialu drwy ein Strategaeth Pobl [agorir mewn ffenest newydd], sy’n nodi’r pedwar piler ar gyfer sut brofiad yw hi i weithio yma:
Mae’r rhain yn seiliedig ar ein 8 Ymrwymiad Pobl yn y Strategaeth, sy’n cwmpasu ein diwylliant, ein hamrywiaeth, ein ffyrdd o weithio, ein tâl ac amodau, a’n hethos dysgu a datblygu. Mae gennym hefyd ein gwerthoedd a’n hymddygiad sy’n pennu disgwyliadau clir ar gyfer pob un ohonom sy’n gweithio yma. Mae’n fath o gytundeb: disgwyliadau uchel ar gyfer yr hyn yr ydym yn ei wneud, wedi ei gydbwyso ag amgylchedd gwych ar gyfer yr amodau i lwyddo.
Yr unig ffordd y gallwn ni gael yr effaith fwyaf bosibl fel Swyddfa Archwilio Cymru yw drwy fod yn lle GWYCH i weithio ynddo. Dyna’n union pam y mae hi mor bwysig i ni, yn bwysig i bobl Cymru ac yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus Cymru.
Penodwyd Steve O'Donoghue yn Gyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol ym mis Ebrill 2014. Cyn hynny, mae ei yrfa yn cynnwys llywodraeth leol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Steve yn uwch model rôl ar faterion Lesbiad, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT+) ac yn aelod o Grŵp Diddordeb Cydraddoldeb SAC. Mae Steve hefyd yn aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus.