Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae archwiliad cyfrifon terfynol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bellach wedi’i gwblhau. Yn Archwilio Cymru, rydym wedi gorfod addasu ein ffordd o wneud ein gwaith archwilio yn ystod y pandemig, ac wrth i’r cyfrifon lifo i mewn, dyma rai o fanteision ac anfanteision archwilio o bell.
Nid oedd gennym system rhannu data gyda’r cleient, gan nad oedd angen ystyried hyn o’r blaen. Felly, ychydig wythnosau cyn dechrau’r archwiliad, fe wnaethom ymchwilio i weld pa systemau (os o gwbl) oedd ar waith i ddarparu papurau gwaith yn ddiogel. Aeth adran TG Archwilio Cymru ati i sefydlu ‘Objective Connect’ er mwyn inni allu cael gafael ar bapurau gwaith mewn ffordd ddiogel. Ers hynny, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi’i ganfod yn ffordd hynod ddefnyddiol o weithio ac yn ystyried ei defnyddio ledled y sefydliad o hyn allan.
Nid rhywbeth i drafod â’n cleientiaid yn unig oedd hyn, ond gyda’n timau hefyd. Yn achos Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, nid oedd unrhyw elfen o’r archwiliad hwn wedi’i wneud o bell o’r blaen ac eithrio e-bostio ambell bapur gwaith, gan mai archwiliad ar y safle y buodd erioed. Felly, yn ein cyfarfodydd cychwynnol buom yn trafod realiti gweithio o bell a bu’n rhaid i ni dderbyn y byddai rhwystrau ar y ddwy ochr – rhywbeth yr ydym wedi gorfod delio ag ef wrth i broblemau godi…
Roeddem yn dîm o dri – sef fi a dau arall yn ogystal â rheolwr ac arweinydd ymgysylltu, felly cawsom lawer o gyfarfodydd Skype anffurfiol pan oedd angen i drafod materion wrth iddynt godi. Roedd Skype yn ffordd effeithiol o egluro materion yn hytrach na defnyddio e-bost. Ond ar gyfer timau mwy, nid Skype yw’r dewis gorau bob tro. Er enghraifft, wrth gynnal archwiliad o Fwrdd Iechyd Hywel Dda lle mae 10 aelod o’r tîm, gwelsom fod defnyddio Microsoft Teams a’r teclyn sgwrsio i’r tîm yn ffordd fwy effeithiol o rannu gwybodaeth heb orfod stopio popeth i fynychu cyfarfod Skype.
Roedd amgylchiadau cartref aelodau’r tîm yn amrywio, ac roedd rhaid i ni ystyried effaith hyn o ran pwy oedd ar gael yn ystod y dydd. Yn bersonol, fel mam i blentyn 5 mlwydd oed ac un arall dyflwydd (a gafodd bwl o gamfihafio yn ystod y cyfnod clo!), allwn i ddim ymrwymo i fod ar gael bob amser ar adegau allweddol o’r dydd. Trwy drafod pwy oedd ar gael a’r rhwystrau oedd yn ein hwynebu fel tîm, aethom ati i bennu opsiynau rhesymol i oresgyn hyn, fel defnyddio profiad aelodau’r tîm a’r rheolwr archwilio pan nad oeddwn i’n bersonol ar gael, ac fel arall.
Yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, roedd gennym un cyswllt allweddol oedd yn gyfrifol am lanlwytho’r papurau gwaith, samplau ac ateb ein hymholiadau ac ati. O gofio hyn, roedd weithiau’n boddi dan ymholiadau gennym ni fel tîm. Wrth weithio o bell, roedd y sgyrsiau cyffredinol am beth roedden ni’n gweithio arno, y wybodaeth oedd ei hangen, yr ymholiadau oedd gennym i’r cleient ac ati, yn cael eu colli braidd. Weithiau, roedd pawb yn mynnu gwybodaeth gan y cleient yr un pryd. Wrth gynnal archwiliad safle traddodiadol, go brin y gwelwch chi archwilwyr yn ciwio gydag ymholiadau/gofynion. Mae’n siŵr mai felly oedd hi’n teimlo i’r cleient wrth weithio o bell. Dyma un o beryglon gweithio o bell, ond trwy gael sgyrsiau agored gyda’r cleient llwyddwyd i sicrhau tawelwch meddwl a’u helpu i beidio â theimlo dan bwysau gyda’n gofynion.
Cawsom anawsterau wrth geisio cael gwybodaeth slip cyflog ar gyfer yr Ombwdsmon, gan ei fod yn cael ei dalu’n uniongyrchol gan y Senedd. Roedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cael trafferth gan fod unrhyw ddogfen a ddiogelir gan gyfrinair a anfonwyd trwy e-bost atynt wedi’i blocio, a olygai nad oedden nhw’n gallu darparu’r wybodaeth hon. Fodd bynnag, o gofio natur y datgeliad hwn, roedd angen i ni weld y dystiolaeth, a doedd dibynnu ar gadarnhad e-bost o’r ffigurau ddim yn opsiwn addas. Yn y pen draw, llwyddodd y Senedd i ddarparu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol i ni, gan osgoi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Er mor amlwg yw hyn, dyma un enghraifft yn unig o’r modd y bu’n rhaid inni ddefnyddio dulliau eraill o gasglu gwybodaeth.
Mae profiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dangos bod modd gwneud gwaith archwilio o bell, a bod hynny’n gallu arwain at eiliadau annisgwyl fel gweld y cyfrifydd ariannol yn mynychu cyfarfod yn eistedd ar yr orsedd haearn fel cymeriad o Game of Thrones! Oes, mae’r dyddiau digynsail hyn yn llawn heriau – ond mae’r ffaith y gallwn gyflawni ein nod o gwblhau’r archwiliad o gyfrifon yn drech nag unrhyw drafferthion!
Mae Lucy Herman yn Uwch-archwilydd yn y Gorllewin, ac mae hi wedi gweithio i’r sefydliad ers bron i 10 mlynedd gan ennill profiadau di-ri wrth weithio ar draws ystod eang o archwiliadau ariannol sector cyhoeddus. Mae Lucy yn Gyfrifydd Siartredig ac yn aelod o Gyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr ar ôl ennill ei chymhwyster trwy gynllun hyfforddeion Archwilio Cymru.