COVID-19: Profi, Olrhain a Diogelu – dulliau cynghorau a byrddau iechyd lleol o gyfeirio pobl at y trefniadau

05 Tachwedd 2020
  • Gall gwneud gwaith da wrth hyrwyddo a chyfeirio pobl at Brofi, Olrhain a Diogelu sicrhau bod profion yn fwy effeithiol a helpu i baratoi pobl i ymateb yn briodol os yw timau olrhain yn cysylltu â nhw.

    Gall hefyd leihau galwadau ffôn diangen a rhoi mwy o amser i staff. Rydym yn sylweddoli bod llawer o wahanol ffyrdd o rannu gwybodaeth am brofion, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol ac y gallai pobl fod yn chwilio am wybodaeth o wahanol ffynonellau hefyd yn ogystal â phori drwy wefannau ac ar y ffôn.

    Ar gyfer y darn hwn, rydym ni wedi canolbwyntio’n benodol ar wefannau cynghorau a byrddau iechyd i nodi gwaith dysgu a chyfeirio pobl yn ymwneud â sut i gael gafael ar wybodaeth am brofion COVID-19.

    Mae ambell gyngor eisoes wedi creu man cyfeirio hawdd, un clic i ddefnyddwyr allu cael mynediad at wybodaeth am sut i gael prawf. Mae rhai yn defnyddio baneri lliwgar ar eu hafan, geiriau clir a syml ar ddolenni fel “sut mae gwneud cais am brawf COVID-19 os oes gennych chi unrhyw symptomau”. Mae gwefan Cyngor Gwynedd [agorir mewn ffesetr newydd] yn enghraifft dda o ddolen glir a hygyrch ar eu hafan.

    Mae byrddau iechyd lleol yn cyfeirio pobl at drefniadau ar gyfer profion ar eu gwefannau, er y gall fod yn ‘guddiedig’ o dan ddisgrifiad o’r prosiect Profi, Olrhain a Diogelu, ond mae'n fwy amlwg ar eraill. Er enghraifft, mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys [agorir mewn ffenestr newydd] ddolen glir iawn ar ei hafan o’r enw ‘Get a test’; sy’n amlwg a hawdd ei deall.

    Awgrymiadau defnyddiol:

    • Defnyddiwch iaith y bydd defnyddwyr gwasanaethau/y cyhoedd yn ei deall - h.y. mae’n debyg y byddant yn deall ‘ewch am brawf’ neu ‘sut mae cael prawf am COVID-19 / coronafeirws’ ond efallai na fyddai rhai yn gwybod bod angen edrych dan ddolen o’r enw ‘Profi, Olrhain a Diogelu’.
    • Gwneud y wefan yn hawdd i’w defnyddio – ar rai gwefannau roedd yn rhaid i ni ‘chwilio’ am wybodaeth am brofion, ar eraill roedd yn amlwg ar hafan y wefan neu roedd wedi’i labelu’n glir o dan adran ‘COVID-19’ neu debyg.
    • Defnyddio gwybodaeth ac adnoddau presennol – er enghraifft mae dolen wedi’i labelu’n glir i dudalennau Llywodraeth Cymru ar y we ynghylch profion yn ffordd o gyfeirio pobl yn gyflym at wybodaeth am brofion. Mae llawer o gyrff eisoes yn cynnwys dolen at hyn.

    Mae hon yn sefyllfa ddigynsail i bawb felly nid yw’n syndod nad yw llawer o gynghorau wedi rhoi cyfeiriadau clir a hygyrch i bobl ar gyfer cael gafael ar wybodaeth am brofion eto, neu fod hygyrchedd neu argaeledd gwybodaeth o safbwynt defnyddwyr gwasanaethau’n amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall fwy na thebyg.

     

    Y gobaith yw y bydd tynnu sylw at yr arfer da hwn yn cymell rhannu arferion a dysgu er mwyn helpu pobl i gael gafael ar wybodaeth am brofion ledled Cymru.

    Os ydych chi am gael manylion unrhyw arfer penodol a grybwyllir uchod neu unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch â Dysgu.covid@archwilio.cymru

    Rhagor o wybodaeth am brofion COVID-19 a Profi, Olrhain a Diogelu:

    Iechyd Cyhoeddus Cymru [agorir mewn ffenestr newydd]

    Llywodraeth Cymru - Gwneud cais i gael prawf Coronafeirws [agorir mewn ffenstr newydd]

    Llywodraeth Cymru - Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws [agorir mewn ffenestr newydd]

    Ynglŷn â’r awduron

    jeremy-evansMae Jeremy Evans yn Rheolwr Archwilio sy’n gyfrifol am rhaglen waith archwilio perfformiad llywodraeth leol yn y chwech cyngor Gogledd Cymru a Chyngor Ceredigion. Mae wedi bod yn Archwilio Cymru ers 2006, a chyn hynny fe weithiodd o fewn llywodraeth leol a chenedlaethol yng Nghymru.

     

     

     

    Tim Buckle

    Mae Tim Buckle yn Rheolwr Archwilio sy’n gyfrifol am gynllunio a datblygu rhaglen archwilio perfformiad llywodraeth leol, yn ogystal â gwaith archwilio perfformiad mewn dau gyngor. Mae wedi bod gyda Swyddfa Archwilio Cymru ers 2013 a chyn hynny roedd yn gweithio i CLlLC yn ogystal â thri awdurdod lleol yn y De.