Dawnsio i guriad newydd: ymateb nesa’r gwasanaethau cyhoeddus i COVID-19

05 Tachwedd 2020
  • Crynodeb o’r blog

     

    Wrth inni ddechrau symud o’r cyfnod clo, mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu ‘normal newydd’ ansicr. Beth yw’r gwersi y gallwn fynd gyda ni i’r normal newydd hwn o’r ymateb cychwynnol i’r feirws? Mae’r erthygl hon yn tynnu ar flog helaeth am y ‘morthwyl a’r ddawns’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020.

    Fel llawer o bobl, ar ddechrau’r pandemig, fe wnes i ddarllen tomen am y feirws a’r opsiynau oedd ar gael i awdurdodau cyhoeddus. Ymhlith yr erthyglau a’r dadansoddiad, llwyddodd blog a ysgrifennwyd ar 19 Mawrth gan Tomas Pueyo i hoelio fy sylw. Ei enw oedd ‘the hammer and the dance’ [agor mewn ffenestr newydd]. Mae blog Tomas wedi’i weld dros 10 miliwn o weithiau ac wedi’i gymeradwyo [agor mewn ffenestr newydd] gan lawer o arbenigwyr a meddylwyr.

    Y morthwyl a’r ddawns

    Mae’r blog yn nodi dull deublyg o reoli’r pandemig. I ddechrau, y nod yw atal y feirws, trwy’r rheolau cadw pellter cymdeithasol llym sy’n cael ei adnabod fel y ‘cyfnod clo’ neu’r ‘lockdown’ yn Saesneg. Dyma’r ‘morthwyl’. Arf effeithiol ond creulon. Effeithiol o ran atal y lledaeniad. Ond creulon o ran y niwed y gall ei achosi i’n lles meddyliol a’n bywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

    Y ‘ddawns’ yw’r cam dilynol, unwaith y bydd lefelau’r feirws yn isel iawn. Mae’n gyfnod llawer mwy cymhleth sy’n cynnwys profi ac olrhain achosion yn drylwyr, a mesurau ategol eraill i reoli digwyddiadau ac unrhyw achosion sy’n codi. Os oedd y ‘morthwyl’  yn golygu syrffed bywyd bob dydd dan glo, a thrasiedi, mae’r ‘ddawns’ yn fwy ansicr ac annisgwyl. Mae’n golygu dod o hyd i normal newydd, arbrofi gyda hyd a lled yr hyn sy’n ddiogel. Hyn oll tra’n parhau i sylwi ar arwyddion yr hen elyn llai amlwg, ond llawn mor farwol.

    Lle rydyn ni arni nawr

    Ar hyn o bryd, rydyn ni mewn sefyllfa o godi’r morthwyl. Yng Nghymru, mae’r cyfyngiadau llym ar symud, a chyswllt gwaith a chyswllt dynol yn llacio. Rydyn ni’n dal i deimlo’n ffordd yn ôl i’r ‘ddawns’ gyda’n gilydd.

    Dechreuais ysgrifennu’r blog hwn yng Nghymru ar 6 Gorffennaf. Heddiw, am y tro cyntaf, gallaf deithio’n gyfreithlon y tu hwnt i’m cynefin. Mae fy merch yn aros yn eiddgar i chwaer fy mhartner ymuno â ni o Loegr fel rhan o’n ‘swigen’ newydd a ganiateir rhwng dwy aelwyd [agor mewn ffenestr newydd]. Ond dw i’n dal i weithio o gartref. Dw i’n dal i brynu bwyd a diod ar-lein, lle bo modd. A dw i bob amser yn gwisgo mwgwd wyneb a chadw pellter diogel y tu fas.

    Yma yng Nghymru, mae system profi, olrhain a diogelu [agor mewn ffenestr newydd] ar waith ar hyd a lled y wlad. Mae’r system honno eisoes wedi’i defnyddio mewn achosion lleol yn Ynys Môn [ffenestr newydd], Wrecsam [ffenestr newydd] a Merthyr Tudful [ffenestr newydd].

    Fel unigolion, rydyn ni’n mentro allan yn ofalus. Mae mwy a mwy o agweddau ar ein bywyd cymdeithasol ac economaidd yn agor. Ond nid bywyd arferol mohono o bell ffordd. 

    Cymhlethdodau’r ddawns

    Yr her fawr yw nad gorymdaith garnifal un ffordd drwy’r dref yw’r ddawns. Mae’n symud yn ôl ac ymlaen. Rhoi cynnig ar bethau, mentro o’r newydd, synhwyro’r effeithiau a gorfod camu’n ôl lle nad yw’r effaith cystal â’r disgwyl.

    Yn ystod y clo mawr, roedd yn gwbl glir beth oedd angen i bobl ei wneud: ‘aros gartref’. Mae’r ddawns yn dibynnu llawer mwy ar farn a chrebwyll unigolion a’r cyhoedd (a) gwybod beth yw’r peth cywir i’w wneud a (b) bod yn barod i weithredu er budd pawb. Mae’r cam hwn yn edrych ac yn teimlo’n llawer mwy fel ‘nôl i normal’. Mae’r risgiau i unigolion yn lleihau. Yn yr amgylchedd hwn, mae’n anoddach fyth cynnal cefnogaeth a chydymffurfiaeth weithredol â mesurau iechyd cyhoeddus. Does ond rhaid cofio am yr holl bobl a heidiodd i’r traethau [ffenestr newydd] yn ystod y tywydd braf.

    Gan ddilyn trosiad y ddawns: dydyn ni ddim yn dawnsio i’n tôn ein hunain. Rydyn ni’n dawnsio i guriad y feirws didrugaredd a marwol. Curiad y mae angen i’n synhwyrau fod yn ymwybodol ohono ac ymateb iddo. Hyd yma, bu’n hawdd synhwyro’r curiad dyddiol ar ffurf data: nifer yr achosion, derbyniadau, marwolaethau. Pob rhif fesul cannoedd neu filoedd ledled y DU. Ond mae’n fwyfwy anodd dod o hyd i’r feirws. Mae ei rythm yn ysbeidiol ac aneglur.

    Dyna pam mae system profi ac olrhain ar raddfa fawr mor bwysig er mwyn rheoli’r risg o ledaenu sy’n digwydd heb i neb sylwi nes ei bod hi’n rhy hwyr.

    Yn gryno: mae dawnsio gyda’r feirws yn gofyn am feddylfryd a strategaeth wahanol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’r cyhoedd.

    Nid mater o frwydro yn erbyn y feirws yn unig yw’r ddawns

    Mae pobl a gwasanaethau yn addasu i’r realiti newydd hwn. Fel yr economi, mae gwasanaethau cyhoeddus yn ailgychwyn neu’n ailddechrau. Mewn rhai llefydd, dim ond ychydig o gleifion â COVID-19 sydd yn yr ysbyty. Mae’r GIG bellach yn wynebu her o ran yr hyn y dylai wneud ynglŷn â’r holl anghenion nad ydyn nhw’n gysylltiedig â COVID a’r galwadau sydd gan bobl. Bu llawer o bwyslais ar yr oedi sy’n wynebu cleifion canser, gydag ambell achos trasig. Ond mae hefyd llwyth o gleifion, nad ydyn nhw’n achosion brys, a oedd eisoes wedi gorfod aros am gryn amser am gluniau newydd, trwsio’r hernia ac ati.

    Nid her i’r GIG yn unig mohoni. Mae pob math o wasanaethau cyhoeddus wedi oedi ac wedi gorfod ailgynllunio eu gwaith craidd. Mae staff wedi eu hadleoli o’u swyddi bob dydd. Dod o hyd i’r gallu i ailgychwyn gwasanaethau’n ddiogel ac mewn ffordd sy’n caniatáu’r hyblygrwydd i ymateb i ddatblygiadau yw un o’r heriau mwyaf i wasanaethau cyhoeddus yn y cyfnod hwn.

    Allwn ni ddim ailgynnau switsh gwasanaethau cyhoeddus i’r hyn oedden nhw fis Ionawr. Mae peth o’r gofod ffisegol wedi newid.  Yn y GIG, mae rhai theatrau llawdriniaethau wedi’u hailwampio i fod yn unedau gofal dwys. Gallwch alw’r adeiladwyr i newid pethau yn ôl i’r gwreiddiol. Ond dydyn ni ddim yn gwybod a fydd angen y lle hwnnw arnom eto petai achos lleol neu os, fel mae llawer yn ei ddarogan, y cawn ni ail don o’r feirws.

    Mae hynny’n codi cwestiynau ariannol mawr yn ogystal â rhai ymarferol. Mae llefydd sbâr – fel ysbytai maes – yn costio. Am ba hyd rydyn ni’n barod neu’n gallu ariannu llefydd sbâr na fydd eu hangen o bosib? Does dim unrhyw fformiwla syml sy’n rhoi’r ateb i chi.

    Mae hefyd yn anodd dychwelyd pobl i’r fan oedden nhw cyn covid. Mae staff gwasanaethau cyhoeddus wedi newid. Mae rhai o weithwyr y rheng flaen wedi blino’n lân a’u hysgwyd i’r byw gan eu profiadau. Mae rhai ohonyn nhw’n sâl neu’n cysgodi o’r gwaith.  Eraill wedi’u hadleoli. Mae rhai wedi ffynnu ac ennill eu plwyf fel arweinwyr. Efallai na fyddan nhw am ddychwelyd at eu dyletswyddau arferol. Er nad oes modd cymharu, mae profiadau’r misoedd diwethaf – y da a’r drwg – hyd yn oed wedi newid y rheiny ohonon ni nad ydym yn weithwyr rheng flaen, ar ôl gweithio gartref cyhyd.

    Yn gryno: mae ein gwasanaethau cyhoeddus a’n gweision cyhoeddus wedi newid cymaint, ac mae angen inni ddeall beth mae’r newidiadau hynny’n ei olygu i gam nesaf y frwydr yn erbyn COVID-19.

    Dysgu gwersi

    Wrth inni symud o’r morthwyl i’r ddawns, mae’n bwysig myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd hyd yma. Yr her yw sut i fwrw ymlaen â’r hyn a ddysgwyd mewn cyd-destun newydd. Yma, mae ‘morthwyl aur’ Maslow [ffenestr newydd] yn dweud y cyfan:

    It is tempting, if the only tool you have is a hammer, to treat everything as if it were a nail’.

    Mae’n ddiddorol bod cymaint yn disgrifio’r cam nesaf hwn fel un o ‘daro’r wahadden’. Gêm enwog yw ‘whack-a-mole’ a chwaraeir gyda morthwyl. Mae bosib y bydd achosion o ‘gloi lleol’ yn rhan o’r ddawns. Ond mae’r ddawns yn gymaint mwy na hynny.

    Gallwn ddysgu gan eraill. Mae llawer yn cyfeirio at strategaethau gwledydd sydd wedi ymateb gyda llawer llai o farwolaethau ac achosion: mae De Corea, Taiwan a Seland Newydd yn enghreifftiau amlwg. Ond nid nhw ydym ni. Gan osgoi’r angen i swnio’n rhy arbennig a neilltuol, mae angen i ni ddod o hyd i ddawns sy’n gweithio i ni.

    Felly, er mwyn helpu’r prosesau hynny o ddatblygu ein dawns, dyma ambell gwestiwn i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ofyn iddyn nhw eu hunain. Dw i ddim yn honni am eiliad eu bod nhw’n gynhwysfawr, ond eu bwriad yw helpu i feithrin dealltwriaeth a chynllunio ymlaen llaw. Cwestiynau sy’n codi o wersi’r cyfnod clo. Ond dydy dysgu’r gwersi am yr hyn a oedd yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, ddim yn ddigon. Mae angen eu haddasu i gyd-fynd â’r amgylchedd newydd hefyd.

    Data: beth yw’r gwersi ynghylch pa mor dda oedd gwasanaethau cyhoeddus wedi rhagweld lledaeniad y clefyd a’i effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus? Beth yw’r gwersi o ran y data a ddefnyddiwyd ac a gyhoeddwyd gennym i olrhain tueddiadau a rheoli’r achosion? Pa ddata sydd ei angen arnom ar gyfer y cam nesaf, er mwyn atal achosion a’u rheoli’n gyflym pan fyddan nhw’n digwydd? Gyda mwy a mwy o angen i’r cyhoedd wneud penderfyniadau da a gwneud y peth iawn, pa ddata sydd angen ei ddarparu er mwyn i bobl allu gwneud dewisiadau hyddysg ynghylch lleihau’r risg iddyn nhw eu hunain ac, yn bwysicach, i’r gymuned ehangach?
    Arweinyddiaeth: gwelsom newidiadau cyflym yn y dull o arwain ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gyda threfniadau rheoli newydd a chymorth gan y lluoedd arfog. Beth oedd manteision y strwythurau rheoli newydd hyn a beth oedd yr anfanteision, os o gwbl? Beth ellid ei addasu i’r dyfodol wrth inni symud o reoli argyfwng i reoli ansicrwydd?
    Llesiant a niwed: Roedd y blaenoriaethau’n glir ar ddechrau’r cyfnod clo: ‘Diogelu’r GIG’ ac ‘Achub bywydau’. Felly, gallwn ofyn i ni’n hunain – sut hwyl gawson ni yn erbyn yr amcanion hynny? Hefyd, beth oedd canlyniadau’r blaenoriaethu uniongyrchol? Gwyddom na chafodd pobl ag anghenion y gwasanaeth roedden nhw’n ei ddisgwyl – mae’n hawdd nodi rhai ohonyn nhw gan eu bod ar restr aros. Ond pa anghenion newydd eraill sydd wedi codi, pa anghenion heb eu diwallu a pha niwed neu beryglon sydd yn ein cymunedau yn sgil y cyfnod clo?  Yn fwy cadarnhaol, pa gyfleoedd sydd ar gael i adeiladu ar yr hunangymorth a’r gefnogaeth i helpu pobl a chymunedau i ofalu am ei gilydd?
    Atebolrwydd a llywodraethu: yn ystod y pandemig, mae trefniadau llywodraethu gwasanaethau cyhoeddus wedi newid yn aruthrol. Beth yw’r hyn a ddysgwyd, er enghraifft, o ran llywodraethu – wrth i gyfarfodydd y Cyngor, y Senedd a’r Bwrdd Iechyd – symud ar-lein? Ydyn ni wedi llwyddo i gadw cydbwysedd priodol rhwng gwneud penderfyniadau cyflym a chraffu’n briodol ar y penderfyniadau hynny? Hefyd, gwelsom rywfaint o newid yn y cyfundrefnau atebolrwydd – atal targedau a rheoli perfformiad – beth fu’r effaith, y da a’r drwg? Beth hoffem ei gadw a beth allwn ni gael gwared arno er mwyn cefnogi gwasanaeth cyhoeddus mwy hyblyg mewn cyfnod o ansicrwydd?
    Arloesi: sut rydyn ni wedi ymateb i’r galwadau ehangach ar y cyhoedd ar adeg heb ei hail? Rydyn ni wedi gweld llawer ar y trawsnewidiad cyflym ym maes gofal iechyd ond beth am sectorau eraill? Beth yw’r gwersi allweddol yn sgil esblygiad cyflym gwasanaethau ar-lein? Faint o’r hen drefn rydyn ni am ddychwelyd iddi mewn gwirionedd?
    Gweithlu: sut gwnaethon ni reoli’r effaith ar y gweithlu? Pa wersi a ddysgwyd o ran sut gwnaethon ni addasu i salwch, cysgodi, gweithio o gartref? Beth yw’r gwersi ynghylch adleoli, a chael staff i gyflawni rolau newydd anghyfarwydd? A oes gwersi fydd yn ein helpu i gynnal yr hyblygrwydd a’r rolau hyblyg hyn dros gyfnod newydd, mwy ansicr?
    Gwerthoedd y sefydliad: a lwyddwyd i’w bodloni? Ydyn ni’n falch o’n penderfyniadau a’n camau gweithredu ar hyd y ffordd? Faint o gyfaddawdu a fu? A fydd y gwerthoedd hynny’n dal yn gadarn mewn cyfnod mwy ansicr?
    Gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus (ar gyfer cyrff cyhoeddus Cymru). Ydyn ni wedi gweithredu fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus? Ydyn ni wedi ymddwyn yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio? Ydy’n  penderfyniadau ni bob amser wedi ystyried y tymor hir, wedi’u hintegreiddio, yn cynnwys y cyhoedd, wedi’u gwneud gyda’r partneriaid cywir, ac yn canolbwyntio ar atal? Ydyn ni wedi ystyried effaith penderfyniadau o ran galluogi Cymru sy’n fwy cyfartal ac sy’n ystyried y rheini â nodweddion gwarchodedig ac sy’n wynebu anfantais gymdeithasol ac economaidd?

    Dydy hi ddim yn glir am ba hyd y byddwn ni’n dawnsio. Mae’r byd i gyd yn aros am frechlyn. Ond mae’r amseriadau a’r effeithiolrwydd yn parhau’n ansicr. Yn y cyfamser, mae angen i bawb addasu i’r drefn newydd sydd ohoni.

    Fel y dywedodd ein Harchwilydd Cyffredinol [ffenestr newydd], rydyn ni’n addasu ein ffordd o weithio ein hunain. Byddwn yn parhau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus drwy ein prosiect dysgu COVID, gan barhau i rannu’r hyn a ddysgwyd am faterion/problemau a nodwyd yn y blog hwn wrth ymateb ac addasu i amgylchiadau newydd. Rydyn ni wedi addasu ein gwaith cyfredol i ailffocysu prosiectau er mwyn ystyried effeithiau COVID-19 ac rydyn ni’n ystyried pa feysydd COVID-19 penodol sy’n haeddu gwaith craffu ac archwilio manylach.

    Yr awdur

     

    mark-jeffs
    Mae Mark Jeffs yn Rheolwr Archwilio gyda’r Tîm Astudiaethau Cenedlaethol. Ar hyn o bryd, mae’n rheoli amrywiaeth o astudiaethau gwerth am arian, gan gynnwys rhai ar dlodi tanwydd, Brexit a’n gwaith Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus. Mae wedi gweithio i Archwilio Cymru a chyrff rhagflaenol ers 2004.