Fy safbwynt i: arolwg #EichTrefEichDyfodol

14 Rhagfyr 2020
  • Sebon llaw, papur toiled a phasta. Roedd yr eitemau hyn ar restr siopa'r rhan fwyaf o bobl wrth i’r set gyntaf o gyfyngiadau ddisgyn dros Gymru ganol fis Mawrth. Un o’r pethau y gwnaethom ddod i werthfawrogi’n gyflym oedd y swydd allweddol y mae gweithwyr allweddol a siopau lleol yn ei chwarae yn ein bywydau.

    Bydd effaith coronafeirws yn bwynt siarad am flynyddoedd i ddod gan gynnwys effaith coronafeirws ar ganol ein trefi lleol. Eleni, bydd y tîm Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol yn edrych ar y newidiadau a'r heriau sy'n wynebu canol ein trefi a'u pwysigrwydd i’n cymunedau.

    Mae canol trefi wedi bod wrth wraidd cymdeithas yng Nghymru ers amser maith. Does dim ots o ble rydych chi'n dod a pha mor hen ydych chi, mae gan bob un ohonom atgofion da o ymweld â chanol ein trefi lleol: prynu ein record neu CD gyntaf o Woolworths, prynu anrhegion Nadolig neu mynd am goffi gyda modryb.

    Mae canol trefi wedi ac yn parhau i roi gwerth i gymunedau. Maen nhw wedi creu swyddi. Maent wedi rhoi lleoedd i ni wario arian, ymweld a threulio amser y tu allan i'r gwaith. Maent wedi bod yn lleoedd i gymdeithasu, testun siarad ac maent yn rhan o'n hymdeimlad o hunaniaeth.

    Ond sut fyddant yn edrych yn y dyfodol?

    Mae mwy a mwy o siopwyr yn prynu ar-lein. Mae llawer o siopwyr yn gwneud eu 'siop fawr' mewn archfarchnadoedd y tu allan i'r dref. Mae nifer fawr o'n siopau ar y stryd fawr yn cau. Mae pobl hefyd yn hoffi ymweld â mannau lle mae mwy ar gael na siopau yn unig.

    Mae canol trefi wedi bod yn newid ers degawdau ac mae rhai wedi cadw i fyny â hyn. Ond gallwn i gyd feddwl am ganol tref nad yw wedi gallu camu ymlaen gyda’r amser ac sy'n awr yn wynebu heriau mawr. Ac mae COVID19 wedi dod law yn llaw â newidiadau pellach.

    Nid yw newidiadau i ganol trefi yn beth newydd. Gallwn ni i gyd gofio effaith gadarnhaol brosiectau adfywio sydd wedi gwella golwg a theimlad rhai canol trefi. Gallwn hefyd gofio'r ychydig o effaith a gafodd prosiectau adfywio eraill a wnaeth arwain at heriau pellach.

    Gall adfywio fod yn beth da i rai ac yn beth drwg i eraill. Dymchwel hen adeiladau, creu parthau di-draffig ac adeiladu llefydd manwerthu y tu allan i dref. Gall fod y rhain wedi bod yn dda i rai cymunedau rywbryd, ond beth am gynaliadwyedd tymor hir y trefi hynny sy’n gwasanaethu eu cymunedau?

    Efallai nad yw'r heriau sy'n wynebu canol trefi yn unigryw i Gymru, ond rhaid i’r ateb fod yn un unigryw.

    Rydym yn rhagweld y bydd ein hadolygiad yn rhoi cyfle i lunwyr polisi, busnesau a'r cyhoedd drafod pam bod trefi a’u canol yn bwysig a beth sydd angen ei newid i’w bywiogi.

    Rydym am drafod pwysigrwydd ehangach o adfywio. Nid dim ond yr adfywiad ffisegol. Y lles cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol, iechyd ac economaidd i gymunedau sy'n byw ac yn ymweld â'r trefi hyn. Rydym yn ystyried yr adolygiad hwn fel cyfle i 'feddwl yn fawr' lle gallwn anelu’n uchel ar gyfer dyfodol ein trefi.

    Fe ymunes i â seminar ar-lein yn ddiweddar am ganol trefi a strydoedd mawr ar draws y DU. Roedd y panelwyr yn trafod ystod o bynciau i ni i’w hystyried fel rhan o'n hastudiaeth:

    ·     Gwell mynediad i ganol trefi gyda mwy o lwybrau beicio a cherdded

    ·     Mynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd

    ·     Rôl a chyfleoedd marchnadoedd

    ·     Cynllunio a chynnal digwyddiadau

    ·     Bywyd nos a gweithgareddau yn ystod y dydd

    ·     Pwysigrwydd trefniadau parcio da

    ·     Hyrwyddo diwylliant a'r pethau sy'n gwneud eich tref yn arbennig

    ·     Helpu i greu cymunedau iachach

    ·     Datblygu 'ymagwedd sy'n seiliedig ar leoedd ' wrth adfywio trefi

    Digonedd o syniadau ac opsiynau. Ond yr hyn sy'n amlwg yw bod trefi'n ffynnu pan fydd pobl yn ffynnu, a'i phobl sy'n bwysig.

    Eich tref, eich dyfodol  

    Gwyddom, er mwyn adfywio canol trefi'n llwyddiannus ac er mwyn i drefi ffynnu fod angen i ni ddysgu a gwrando ar farn a safbwyntiau pobl. Byddwn yn siarad â chynghorwyr, swyddogion, arbenigwyr adfywio, busnesau, sefydliadau cenedlaethol, sefydliadau'r trydydd sector ac yn bwysicaf oll - chi - y bobl sy'n byw, gweithio ac ymweld â chanol trefi.

    Rydym am i chi roi eich barn a'ch profiadau i ni ar ganol eich tref. Er y bydd canol ein tref leol wedi newid tipyn yn barod ac y bydd yn wynebu newidiadau pellach yn y dyfodol, gall y lleoedd hyn fod yn rhai cynaliadwy, gwydn a chanolog i'n cymunedau yng Nghymru yn y dyfodol.

    I gwblhau ein harolwg, ewch i'n gwefan [agorir mewn ffenestr newydd].

     

    Sara LeahyMae Sara Leahy yn Uwch Archwilydd yn Archwilio Cymru ac yn gweithio yn y tîm llywodraeth leol. Bydd hi'n rhan o'r tîm sy'n gweithio ar yr astudiaeth hon o adfywio canol trefi. Yn ei hamser hamdden, mae Sara yn mwynhau mynd am dro wrth y môr. Ac wrth gwrs mae hi hefyd yn mwynhau mynd am dro o amgylch canol ei thref leol.