Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cerdded yn esgidiau pobl eraill

14 Hydref 2022
  • Ers dechrau 2022, mae’r tîm astudiaethau Llywodraeth Leol wedi bod yn astudio tlodi yng Nghymru ac ymateb y sector cyhoeddus i’r her enfawr hon.

    Wrth fynd ati’n gyntaf i ddechrau ar adolygiad, mae wastad yn naturiol edrych ym mlwch offer yr Archwilydd am set gyfarwydd o ddulliau i ateb ein cwestiynau. Mae dadansoddi data ariannol neu ddata am berfformiad yn fanwl, darllen llu o ddogfennau, cwblhau arolygon a chyfweld â swyddogion oll yn rhannau pwysig o’r hyn yr ydym yn ei wneud.

    Maent yn darparu mewnwelediad i’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n cynllunio, yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau. Fodd bynnag, yn aml gallwn anwybyddu profiad unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau a’r rhai y mae arnynt angen help pan ydynt mewn argyfwng.

    Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth edrych ar fater sy’n gryn her, fel tlodi.

    Ar adeg gynnar roeddem yn gwybod ei bod yn hollbwysig ein bod yn siarad gyda phobl sy’n profi tlodi er mwyn cael dealltwriaeth wirioneddol am ei effaith a sut y gall byw mewn argyfwng effeithio arnoch. Ond sut allem wneud hyn mewn ffordd nad oedd yn barnu nac yn bychanu pobl?

    Fel cymaint o faterion mewn cymdeithas, mae tlodi’n un sy’n cyffwrdd â chymaint o bobl ac a fydd yn effeithio ar niferoedd uwch dros y gaeaf sydd i ddod. Am y rheswm hwn yn union y mae cael safbwyntiau arbennig, unigol yn ychwanegu cymaint at y dystiolaeth a’r casgliadau y deuwn iddynt. Fel y disgrifiodd Harper Lee, ‘Dydych chi byth wir yn deall rhywun nes eich bod yn ystyried pethau o safbwynt yr unigolyn hwnnw...nes eich bod yn camu i mewn i’w groen ac yn cerdded o amgylch ynddo’.

    Y profiad personol hwn yw’r lliw dynol sy’n ychwanegu at y trosolwg a gawn o’n dulliau clasurol. Mae ganddo’r potensial i gynnig trywyddion ymholi newydd, i adnabod materion newydd, neu yn syml i ychwanegu wyneb dynol at y dirwedd amhersonol dywyll sy’n cael ei pheintio gan y data. Trwy wrando’n astud, gall yr archwilydd ddeall yr effaith y mae gwasanaethau’n ei chael yn uniongyrchol ar bobl.

    Trwy ymgysylltu â darparwyr cyngor yn y gymuned, cyrff megis Cyngor Ar Bopeth, eu cleientiaid, a gwaith Comisiynau’r Gwirionedd am Dlodi, rydym wedi ceisio creu’r darlun hwn – yr hyn y mae’n ei olygu pan fo pobl yn byw mewn tlodi a’r ffordd y darperir gwasanaethau a all wneud y profiad hwn yn llawer gwell neu’n llawer gwaeth.

    Mae Comisiynau’r Gwirionedd am Dlodi’n dod â phobl sy’n profi tlodi ynghyd gydag uwch benderfynwyr a dylanwadwyr i fynd ati ar y cyd i adnabod agwedd ar dlodi i ganolbwyntio arni a ffyrdd o ymdrin â hi. Cafodd y cysyniad ei ddatblygu gyntaf yn yr Alban ond mae wedi cael ei ddilyn mewn llawer o ardaloedd ledled y DU er hynny (gweler gwefan Rhwydwaith y DU am ragor o wybodaeth). Abertawe yw Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi cyntaf Cymru ac fe wahoddodd ein tîm i gwrdd â’r comisiynwyr a oedd newydd eu penodi.

    Fe wnaeth y sgyrsiau gonest, a oedd yn aml yn anodd yn emosiynol, a gawsom gyda phobl ddarparu darlun cyfoethog o’r hyn y mae’n ei olygu pan fo pobl yn byw mewn argyfwng, ac fe gafodd pob un o storïau’r comisiynwyr effaith arwyddocaol ar ein tîm.

    Heb os nac oni bai, maent wedi ein helpu i gael mwy o fewnwelediad i achosion tlodi ac ymatebion iddo.

    Y diffygion o ran sut y mae cyrff cyhoeddus yn gweithio a’r rhwystrau y maent yn eu creu, yn aml yn ddiarwybod ac yn anfwriadol, sy’n cael effeithiau mawr ar bobl sy’n brwydro i ymdopi o ddydd i ddydd.

    Fe wnaeth eu cyfraniadau helpu i ddarlunio’r system gymhleth, sy’n aml yn ddiffygiol, o gymorth sydd ar gael ar lefel y DU a Chymru.

    Mae tynnu ar y profiad personol hwn wedi helpu i oleuo ein casgliadau a’n hargymhellion yn ein hadroddiad sydd ar ddod sy’n archwilio’r ymateb i dlodi gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

    Mae cael mewnwelediad i brofiad personol defnyddiwr gwasanaethau’n offeryn hanfodol i gyrff cyhoeddus ac archwilwyr fel ei gilydd allu cael dealltwriaeth wirioneddol am y manteision a’r diffygion o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus. Ac fe all cerdded yng nghroen defnyddwyr gwasanaethau helpu gwasanaethau i osgoi materion cyffredin a darparu gwasanaethau sy’n fwy seiliedig ar wybodaeth, yn cynnwys pobl yn fwy ac yn cael mwy o effaith.

    • Ym mis Hydref, bydd ein tîm Cyfnewid Arfer Da yn darparu digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i ddod â phobl at ei gilydd o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth am sut y gall sefydliadau ymateb i'r heriau a achosir gan dlodi. I gofrestru eich diddordeb, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein: Caerdydd/Conwy.

    Mwy am yr awdur

    Mae Charles Rigby yn uwch-archwilydd yn y tîm astudiaethau llywodraeth leol. Ymunodd ag Archwilio Cymru yn 2019 fel hyfforddai graddedig gyda gradd mewn hanes, ac mae bellach yn cyfuno archwiliad ariannol a pherfformiad.