Bum wythnos ers i ni weld y tymereddau uchaf yng Nghymru ac mae pethau’n poethi i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae data o’r Swyddfa Dywydd [agor mewn ffenest newydd] yn dangos bod lefelau’r môr yn codi llawer yn gynt na chanrif yn ôl, ac mae’r adroddiad y gwnaethom ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf yn dangos bod angen gweithredu’n gynt i leihau allyriadau carbon yn sector cyhoeddus Cymru.
Dyma’n hail adroddiad o’n hadolygiad sylfaen ar ddatgarboneiddio, lle gwnaethom ganmol Llywodraeth Cymru am ddangos arweiniad ym maes datgarboneiddio. Mae wedi pennu uchelgais ymestynnol ar y cyd i gyflawni sector sero net erbyn 2030, wedi sefydlu portffolio Gweinidogol newydd ac wedi cyhoeddi map ffyrdd i gyrff cyhoeddus ei ddilyn.
Ond rydym hefyd yn galw am fwy o eglurder ynglŷn â’r uchelgais i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Ar yr un pryd â gweithio tuag at sero net erbyn 2030, mae’r GIG yng Nghymru {fel y nodir yn Data ac argymhellion Sero Net Sector Cyhoeddus [agor mewn ffenest newydd], cynhyrchodd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd 1,134,000 tunnell o CO2 o’i gymharu â chyfanswm o 3,279,000 tunnell a gynhyrchwyd gan y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yn 2020-21}, wedi gosod targed llai ymestynnol i’w hun o leihad o 34% erbyn 2030. Mae’r sector iechyd yn allyrru tua thraean o allyriadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru felly os oedd y GIG am gyflawni gostyngiad o 34% yn unig, byddai’n ei gwneud yn sylweddol anoddach i gyflawni sefyllfa sero net gyffredinol ar draws y sector cyhoeddus.
Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn helpu cyrff cyhoeddus i gynyddu cyflymdra’r newid drwy wneud 5 galwad i weithredu:
- cryfhau eich arweinyddiaeth a dangos eich cyfrifoldeb ar y cyd drwy gydweithredu effeithiol
- egluro’ch cyfeiriad strategol a chynyddu cyflymdra eich gweithredu
- deall y cyllid sydd ei angen arnoch
- gwybod eich bylchau sgiliau a chynyddu’ch capasiti
- gwella ansawdd data a monitro i gefnogi’ch penderfyniadau
Rydym wedi ymrwymo i raglen waith hirdymor ar newid hinsawdd a nawr rydym yn meddwl am feysydd posibl i ganolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd nesaf. Mae rhai o’r opsiynau’n cynnwys adolygu gwaith addasu (archwilio parodrwydd y sector cyhoeddus ar gyfer effeithiau newid hinsawdd), ymchwiliad manwl i warian y sector cyhoeddus ar weithredu ar newid hinsawdd, neu adolygiad o gywirdeb data allyriadau newid hinsawdd.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am fanteision ac anfanteision y syniadau hyn, neu os oes gennych syniadau eraill ar gyfer gwaith archwilio yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn newid.hinsawdd@archwilio.cymru.