Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Helpu pobl i helpu eu hunain – cydnerthedd cymunedol a hunanddibyniaeth.

15 Chwefror 2023
  • Cewch glywed gan Nick ag Euros pam fod cydnerthedd a hunanddibyniaeth gymunedol yn bwysig

    Pam fod hyn yn bwysig?

    Mae'r setliad gwariant diweddar yn debygol o adael y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yn perfformio'n waeth yn 2025 nag ar drothwy'r pandemig - pan oedd lefelau perfformiad eisoes yn llawer gwaeth nag yn 2010. Er bod cyllid mewn ardaloedd gwarchodedig yn cysgodi rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, mae hyn yn dal yn annhebygol o alluogi gwasanaethau allweddol fel y GIG a Gofal Cymdeithasol i ddychwelyd perfformiad i'r lefelau cyn y pandemig.

    O ystyried yr heriau ariannol hyn, mae gwasanaethau cyhoeddus yn dangos diddordeb cynyddol mewn creu'r amodau lle mae cymunedau ac unigolion yn cael eu hannog i, a bod modd iddynt, wneud mwy drostynt eu hunain gyda llai o alw ar gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill am gymorth. Hwyrach bod rheoli galw drwy gryfhau cymunedau ac unigolion yn derm technegol, ond mae'n prysur ddod yn fan cychwyn newydd i lu o gynghorau a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus feddwl am sut i fynd i'r afael â'u bylchau cyllido.

    Beth ydym yn ei wneud?

    Ar 1 Chwefror, cynhaliodd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ei seminar ar-lein ar Gydnerthedd Cymunedol yng Nghymru. Roedd y digwyddiad yn dangos enghreifftiau cadarnhaol ac ymchwil diweddar ar sut gwnaeth cymunedau yn ystod y pandemig gamu i'r adwy i wneud mwy drostynt eu hunain a sut mae hyn yn cael ei wreiddio i helpu i ategu trawsnewidiad sefydliadol. Roedd straeon ysbrydoledig am fanteision y llinyn hwn o waith ond hefyd yr heriau sydd o'n blaenau.

    Cafodd Archwilio Cymru hefyd y cyfle i gyflwyno ar ei adroddiad diweddar 'Gyda’n gilydd fe allwn ni'. Gan dynnu ar ein hymchwil a'n gwaith maes helaeth rydym yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu cynghorau wrth symud o 'wneud' i 'ddylanwadu' ac 'annog' eraill i weithredu. Fe wnaethom dynnu sylw at gryfderau'r gwaith presennol – y ffocws ar wirfoddoli, y twf mewn hybiau cymunedol, defnyddio trosglwyddiadau asedau cymunedol a gwerth rolau cysylltydd cymunedol. Mae'r rhain i gyd yn helpu cynghorau i ddargyfeirio pobl i ddod o hyd i atebion eraill ac yn helpu i leihau'r galw.

    Fodd bynnag, nodwyd hefyd bod angen gwneud llawer mwy i ymgorffori'r newid hwn.

    Yn ein gwaith roeddem yn tynnu ar enghreifftiau o bob rhan o Brydain i amlygu dysgu ar yr hyn sy'n gweithio yn rywle arall a lle mae angen newid sylweddol yng Nghymru. Mewn mannau mor amrywiol ag Argyll a Bute, Oldham, Crieff, Bryste ac Oldham, rydym yn gweld amrywiaeth o ddiwygiadau sy'n blaenoriaethu cryfhau gallu o fewn cymunedau i fwrw ati. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i drigolion a chymunedau drwy ddatblygu eu hannibyniaeth a'u cydnerthedd. Gall hefyd helpu i arbed arian trwy effeithlonrwydd gweithredol ac ariannol. Yr hyn sy'n gyffredin i'r holl enghreifftiau hyn yw'r ymdeimlad o fomentwm a deimlir – yn aml 'o'r ddaear i fyny' – a bod sbarduno newid ar eich liwt eich hun yn well nag aros i newid ddigwydd i chi.

    Ble nesaf?

    Er mwyn helpu cynghorau ar hyd y trawsnewidiad anodd hwn fe wnaethom hefyd gyhoeddi offeryn hunan-werthuso i'w helpu i bwyso a mesur yr hyn maen nhw'n ei wneud yn dda a lle mae angen cryfhau'r gweithgaredd. Bydd cwblhau'r hunan-werthusiad hwn yn galluogi cynghorau i fapio eu llwybr i newid - gan nodi'r hyn sydd angen iddynt ei wneud yn wahanol. Ni fydd yn hawdd a bydd angen gwneud dewisiadau anodd. Ond mae'n well hefyd dewis eich taith na chael rhywun arall yn dewis ar eich rhan.

    Yn ogystal, o ystyried bod hon yn agenda sy'n mynd i ddod yn bwysicach fyth, rydym hefyd yn cynllunio dau ddigwyddiad gyda'r Gyfnewidfa Arfer Da. Mae'r rhain yn digwydd yng Ngogledd Cymru ar Fawrth 28 ac yn Ne Cymru ar Ebrill 19. Bydd y digwyddiadau'n tynnu sylw at bwysigrwydd cryfhau cydnerthedd a hunanddibyniaeth gymunedol ac yn arddangos ymarfer cadarnhaol o bob rhan o Brydain. Cewch wybod mwy, a sut i archebu ar ein tudalen digwyddiadau.

     

    Ynglŷn â'r awdur

    Mae Nick Selwyn yn Rheolwr Archwilio Cymru ac mae'n gyfrifol am astudiaethau cenedlaethol yr Archwilydd Cyffredinol ym maes llywodraeth leol a gwaith archwilio lleol yn y Parc Cenedlaethol a'r Awdurdodau Tân ac Achub. Mae Nick yn Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig ac wedi gweithio i Archwilio Cymru ers 2005. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru, bu'n gweithio mewn sawl awdurdod lleol yng Nghymru ym maes Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

     

    Mae Euros Lake yn Uwch Archwilydd yn ein tîm llywodraeth leol ac mae wedi gweithio i Archwilio Cymru ers 2013. Mae'n gweithio ar amrywiaeth o adolygiadau lleol a chenedlaethol ac yn cydlynu'r gwaith o gyflwyno ein rhaglen archwilio perfformiad mewn dau awdurdod yng Ngogledd Cymru.